5. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: 'Seilwaith Digidol Cymru'

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 22 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:11, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod. Buaswn hefyd yn hoffi eglurhad ar ran ugeiniau—os nad cannoedd—o fy etholwyr sydd bellach wedi cael gwybod, 'Bydd popeth wedi'i wneud erbyn diwedd y flwyddyn hon', ac sy'n dal i aros am gadarnhad o hynny. A yw'n gallu rhannu gyda'r Siambr pa un a oedd y pwyllgor yn gallu dweud faint o gytundebau gohiriedig sydd yn y sefyllfa honno, ac a oedd hi'n debygol y buasai'r cytundeb cyfan yn cael ei gyflawni ai peidio?