Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Nid wyf eisiau i ni ganolbwyntio gormod ar fanylion beth y gallai'r cynllun olynol fod, ond a yw'n awgrymu y gallai fod dewisiadau amgen i Openreach a BT? Ac yn ail, a yw hi hefyd yn edrych ar y mater hwn mewn ffordd annhechnolegol, os hoffech chi? Oherwydd rydym newydd gael cyhoeddiad yn y gyllideb heddiw, er enghraifft, ynglŷn â buddsoddi mewn 5G, ac mewn rhai ardaloedd rwy'n credu y gallem fod yn meddwl y tu hwnt i wifrau a cheblau i dai mewn gwirionedd.