Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Fel gydag argymhellion eraill yn yr adroddiad hwn, cafodd y rôl hon ei chefnogi gan gymuned y lluoedd arfog a phenaethiaid y lluoedd arfog. Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer sefydliadau sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru i fonitro ymlyniad wrth y cyfamod; ategu ei menter Croeso i Gymru gydag un linell gymorth genedlaethol ar gyfer aelodau o'r lluoedd arfog, cyn-filwyr a'u teuluoedd; gweithio gyda grŵp arbenigol y Gweinidog i nodi prosiectau â blaenoriaeth a chydlynu cynigion cyllido ar lefel Cymru gyfan; a gweithio gyda'r trydydd sector i gyflwyno modiwl e-ddysgu gorfodol ar gyfer y sector cyhoeddus i gefnogi ymwybyddiaeth o gyfamod y lluoedd arfog.
Mae'r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i sicrhau bod y cwestiynau yng nghyfrifiad 2021 yn ddigonol i ganfod maint ac anghenion cymuned y lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru.
Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun cerdyn braint i luoedd arfog Cymru. O gofio'r pryderon ynghylch capasiti GIG Cymru i gyn-filwyr i ateb gofynion cleifion a'i amseroedd aros amrywiol, argymhellodd yr adroddiad y dylid adolygu a chynyddu cyllid ar gyfer y gwasanaeth; dylid sefydlu targedau ar gyfer mynediad at y gwasanaeth, a dylid cyhoeddi perfformiad yn erbyn y targedau'n rheolaidd. Mae rhestrau aros ar gyfer GIG Cymru i gyn-filwyr yng Nghymru yn naw mis yn ardal Abertawe ac yn bum i chwe mis ar gyfartaledd mewn mannau eraill.
Er iddynt sicrhau cyllid ychwanegol am dair blynedd gan Help for Heroes i gyflogi tri therapydd amser llawn i leihau rhestrau aros, maent yn disgwyl i amseroedd aros gynyddu eto heb fuddsoddiad ychwanegol. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £100,000 o gyllid ychwanegol, dywedodd GIG Cymru i gyn-filwyr wrth y grŵp trawsbleidiol y llynedd fod arnynt angen £1 miliwn bob blwyddyn i ateb anghenion iechyd meddwl cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru, a lleihau pwysau a chostau i wasanaethau eraill.
Pan gyfarfu Andrew R. T. Davies a minnau â grŵp o gyn-filwyr benywaidd yn gynharach eleni, lle'r oedd pob un ohonynt wedi dioddef anafiadau wrth wasanaethu, a phob un ohonynt hefyd yn dweud eu bod yn ymdopi â phroblemau iechyd meddwl o ganlyniad i'w gwasanaeth, dywedodd y cyn-filwyr wrthym ei bod bellach, ac rwy'n dyfynnu, 'yn cymryd tri mis i gael apwyntiad gyda GIG Cymru i gyn-filwyr, a thri i chwe mis wedyn i weld arbenigwr, sydd ond yn gallu ymdrin â thrawma ysgafn i ganolig, am nad oes unrhyw wasanaethau acíwt.' Ac maent yn gorfod teithio i Loegr i gael triniaeth ar gyfer eu hiechyd meddwl ac yn dibynnu ar elusennau.
Roedd yr adroddiad hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu i hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth ymhlith staff y gwasanaeth iechyd o driniaeth flaenoriaethol y GIG ar gyfer anafiadau a salwch sy'n gysylltiedig â gwasanaethu; sicrhau nad yw aelodau o deuluoedd y lluoedd arfog sy'n cael eu hanfon i Gymru ac sydd ar restr aros y GIG dan anfantais drwy orfod aros yn hwy am driniaeth nag y byddent cyn cael eu hanfon i Gymru; adolygu a diweddaru'r canllaw i wella iechyd a lles carcharorion yng Nghymru sy'n gyn-filwyr; a darparu cyllid craidd i bartneriaid trydydd sector sy'n darparu cynlluniau mentora cymheiriaid.
Er bod Change Step, sy'n cael ei arwain gan yr elusen Cais, wedi cael sicrwydd o gyllid am 12 mis gan Help for Heroes i ymgorffori mentor cymheiriaid ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru, mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn tynnu sylw at yr angen am arian ychwanegol i gadw'r mentoriaid cymheiriaid yn eu swyddi fel rhan o'u tîm craidd, i adlewyrchu model cyn-filwyr yr Alban.
Yn 2007, roedd ymgyrch Anrhydeddu'r Cyfamod y Lleng Brydeinig eisoes wedi nodi bod angen i gyn-filwyr nad ydynt yn cael cymorth gan Combat Stress a gefnogir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, neu gan gorff arbenigol arall, allu cael mynediad at ofal iechyd meddwl a chael triniaeth flaenoriaethol. Gyda'r cyhoeddiad bod Combat Stress yn dileu gofal preswyl yn eu canolfan Audley Court yn swydd Amwythig, rhaid inni hefyd ymdrin â phryderon y bydd cyn-filwyr Cymru bellach yn gorfod teithio ar draws y DU i gael gofal preswyl, am nad oes unrhyw ddarpariaeth yng Nghymru.
Wrth gydnabod yr heriau penodol a wynebir gan blant teuluoedd y lluoedd arfog, ac er mwyn mynd i'r afael â'r anfantais o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU, argymhellodd yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno premiwm disgybl lluoedd arfog. Fel y mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn dweud, yn Lloegr, mae hwn wedi darparu cymorth ymarferol pwysig i blant y lluoedd arfog mewn addysg. Dylai ysgolion yng Nghymru gael mynediad at gronfa debyg ar gyfer yr oddeutu 2,500 o blant sy'n mynychu ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae'r adroddiad hefyd yn galw ar gonsortia addysg rhanbarthol i benodi hyrwyddwyr y lluoedd arfog; hyblygrwydd i ysgolion uwchradd Cymru ganiatáu i blant aelodau'r lluoedd arfog gael eu cofrestru ar ganol tymor, fel sydd eisoes yn digwydd mewn dosbarthiadau babanod; a mwy o ysgolion i gymryd rhan yn rhaglen ehangu'r cadetiaid. Mae'r adroddiad yn argymell ymestyn y prosiect rhyfel byd cyntaf llwyddiannus, Cymru'n Cofio, er mwyn ei gwneud hi'n bosibl nodi penblwyddi milwrol pwysig eraill. Ac mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod holl gofebau rhyfel dinesig Cymru yn cael eu cynnal a'u cadw'n ddigon da, a chydag amgueddfeydd milwrol Cymru i sefydlu arddangosfeydd teithiol.
Mae'r adroddiad yn galw am ddatblygu partneriaethau pellach rhwng landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'r trydydd sector i gefnogi tai â chymorth ychwanegol ar gyfer cyn-filwyr sy'n agored i niwed yng Nghymru, ac am i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig hepgor gofynion am brawf cysylltiadau lleol i gyn-bartneriaid aelodau o'r lluoedd arfog sy'n gadael llety i deuluoedd y lluoedd arfog.
Yn olaf, mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun cyflogaeth i gynorthwyo pobl sy'n gadael y lluoedd arfog, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn, a chefnogi partneriaid personél y lluoedd arfog wrth i'w partneriaid gael eu hanfon i Gymru. Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn datblygu llwybr cyflogaeth, ond mae ffigurau GIG Cymru i gyn-filwyr yn dangos mai traean yn unig sy'n cael eu cyflogi. Gan mlynedd ar ôl llofnodi'r cytundeb a arweiniodd at ddiwedd y rhyfel byd cyntaf, mae'n rhaid i'r cyfamod hwn barhau.