– Senedd Cymru ar 22 Tachwedd 2017.
Yr eitem nesaf yw’r ddadl gan y Ceidwadwyr Cymreig, ac rwy’n galw ar Mark Isherwood i wneud y cynnig—Mark Isherwood.
Cynnig NDM6571 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu adolygiad y Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid o effaith cyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru ac yn nodi ei argymhellion.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yr argymhellion a gyflwynwyd gan yr adolygiad i sicrhau y darperir yr holl gymorth sydd ar gael i bersonél milwrol, cyn-filwyr a'u teuluoedd yng Nghymru.
Diolch, Lywydd. Lansiodd y Lleng Brydeinig Frenhinol ei Hymgyrch dros Anrhydeddu'r Cyfamod yn swyddogol yn Llundain ym mis Medi 2007 ac yng Nghymru cynhaliwyd digwyddiad yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn y mis canlynol.
Ers dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae dynion a menywod wedi gwasanaethu ac ymladd dros eu gwlad dan delerau'r cyfamod milwrol, sy'n datgan na ddylai rhai sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, boed yn rheolaidd neu wrth gefn, rhai sydd wedi gwasanaethu yn y gorffennol a'u teuluoedd wynebu unrhyw anfantais o gymharu â dinasyddion eraill wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a masnachol. Mae'n dweud bod ystyriaeth arbennig yn briodol mewn rhai achosion, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd wedi rhoi fwyaf, megis y rhai a anafwyd a'r rhai sydd mewn galar.
Ar ôl bod yn siaradwr gwadd yng nghynhadledd flynyddol y Lleng Brydeinig Frenhinol yn rhanbarth gogledd Cymru y penwythnos cynt, cyflwynais ddadl fer yma ym mis Ionawr 2008 i gefnogi ymgyrch y lleng, a deuthum i'r casgliad fod rhaid ymladd dros hyn hyd nes y bydd wedi ei ennill a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i hybu hyn.
Cyhoeddwyd cyfamod y lluoedd arfog ym mis Mai 2011, gan greu dyletswydd statudol o 2012 ymlaen i gyflwyno adroddiad blynyddol gerbron Senedd y DU sy'n ystyried effeithiau gwasanaeth ar filwyr rheolaidd a milwyr wrth gefn, cyn-filwyr, eu teuluoedd a rhai sydd mewn galar a hefyd i archwilio meysydd lle y ceir anfantais bosibl a'r angen am ddarpariaeth arbennig lle bo'n briodol. Llofnododd Llywodraeth Cymru a'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru y cyfamod a chydsynio i weithio gyda sefydliadau partner i gynnal ei egwyddorion.
Roedd ymateb Llywodraeth y DU yn 2017 i adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Amddiffyn a ddilynodd adroddiad blynyddol cyfamod y lluoedd arfog 2016 yn nodi cynnydd yng Nghymru. Er gwaethaf hyn, fodd bynnag, hyd yn hyn ni chafwyd adolygiad annibynnol o gynnydd a darpariaeth ledled Cymru ers sefydlu'r cyfamod.
Ym mis Medi 2016, atebodd nifer o elusennau'r lluoedd arfog sy'n gweithio yng Nghymru alwad am gyflwyniadau i lywio blaenoriaethau i ddod ar gyfer Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Cynulliad, gan nodi y byddai gwerth sylweddol mewn gweld y pwyllgor yn cynnal adolygiad o weithrediad cyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru. Gan na chafwyd unrhyw arwydd a awgrymai fod bwriad i gynnal ymchwiliad, gwnaeth grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid benderfyniad i gynnal yr ymchwiliad sy'n destun y ddadl hon. Mae ein cynnig, felly, yn argymell bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu adroddiad y grŵp trawsbleidiol, yn nodi ei argymhellion ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yr argymhellion hynny.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law, gwnaeth yr adroddiad 23 o argymhellion mewn saith maes. Er mwyn cynnal y cyfamod, canfu'r adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru ystyried penodi comisiynydd y lluoedd arfog ar gyfer Cymru i wella atebolrwydd sefydliadau sector cyhoeddus am ddarparu cyfamod y lluoedd arfog. Dylai fod yn ofynnol i'r comisiynydd gyhoeddi adroddiad blynyddol i'w gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ymlyniad wrth y cyfamod. Byddai comisiynydd yn cefnogi anghenion penodol cyn-filwyr, yn mynegi'r rhain i Lywodraeth Cymru ac yn craffu'n briodol ar wasanaethau i gyn-filwyr a gyflawnir gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru ac awdurdodau lleol.
Fel gydag argymhellion eraill yn yr adroddiad hwn, cafodd y rôl hon ei chefnogi gan gymuned y lluoedd arfog a phenaethiaid y lluoedd arfog. Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer sefydliadau sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru i fonitro ymlyniad wrth y cyfamod; ategu ei menter Croeso i Gymru gydag un linell gymorth genedlaethol ar gyfer aelodau o'r lluoedd arfog, cyn-filwyr a'u teuluoedd; gweithio gyda grŵp arbenigol y Gweinidog i nodi prosiectau â blaenoriaeth a chydlynu cynigion cyllido ar lefel Cymru gyfan; a gweithio gyda'r trydydd sector i gyflwyno modiwl e-ddysgu gorfodol ar gyfer y sector cyhoeddus i gefnogi ymwybyddiaeth o gyfamod y lluoedd arfog.
Mae'r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i sicrhau bod y cwestiynau yng nghyfrifiad 2021 yn ddigonol i ganfod maint ac anghenion cymuned y lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru.
Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun cerdyn braint i luoedd arfog Cymru. O gofio'r pryderon ynghylch capasiti GIG Cymru i gyn-filwyr i ateb gofynion cleifion a'i amseroedd aros amrywiol, argymhellodd yr adroddiad y dylid adolygu a chynyddu cyllid ar gyfer y gwasanaeth; dylid sefydlu targedau ar gyfer mynediad at y gwasanaeth, a dylid cyhoeddi perfformiad yn erbyn y targedau'n rheolaidd. Mae rhestrau aros ar gyfer GIG Cymru i gyn-filwyr yng Nghymru yn naw mis yn ardal Abertawe ac yn bum i chwe mis ar gyfartaledd mewn mannau eraill.
Er iddynt sicrhau cyllid ychwanegol am dair blynedd gan Help for Heroes i gyflogi tri therapydd amser llawn i leihau rhestrau aros, maent yn disgwyl i amseroedd aros gynyddu eto heb fuddsoddiad ychwanegol. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £100,000 o gyllid ychwanegol, dywedodd GIG Cymru i gyn-filwyr wrth y grŵp trawsbleidiol y llynedd fod arnynt angen £1 miliwn bob blwyddyn i ateb anghenion iechyd meddwl cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru, a lleihau pwysau a chostau i wasanaethau eraill.
Pan gyfarfu Andrew R. T. Davies a minnau â grŵp o gyn-filwyr benywaidd yn gynharach eleni, lle'r oedd pob un ohonynt wedi dioddef anafiadau wrth wasanaethu, a phob un ohonynt hefyd yn dweud eu bod yn ymdopi â phroblemau iechyd meddwl o ganlyniad i'w gwasanaeth, dywedodd y cyn-filwyr wrthym ei bod bellach, ac rwy'n dyfynnu, 'yn cymryd tri mis i gael apwyntiad gyda GIG Cymru i gyn-filwyr, a thri i chwe mis wedyn i weld arbenigwr, sydd ond yn gallu ymdrin â thrawma ysgafn i ganolig, am nad oes unrhyw wasanaethau acíwt.' Ac maent yn gorfod teithio i Loegr i gael triniaeth ar gyfer eu hiechyd meddwl ac yn dibynnu ar elusennau.
Roedd yr adroddiad hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu i hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth ymhlith staff y gwasanaeth iechyd o driniaeth flaenoriaethol y GIG ar gyfer anafiadau a salwch sy'n gysylltiedig â gwasanaethu; sicrhau nad yw aelodau o deuluoedd y lluoedd arfog sy'n cael eu hanfon i Gymru ac sydd ar restr aros y GIG dan anfantais drwy orfod aros yn hwy am driniaeth nag y byddent cyn cael eu hanfon i Gymru; adolygu a diweddaru'r canllaw i wella iechyd a lles carcharorion yng Nghymru sy'n gyn-filwyr; a darparu cyllid craidd i bartneriaid trydydd sector sy'n darparu cynlluniau mentora cymheiriaid.
Er bod Change Step, sy'n cael ei arwain gan yr elusen Cais, wedi cael sicrwydd o gyllid am 12 mis gan Help for Heroes i ymgorffori mentor cymheiriaid ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru, mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn tynnu sylw at yr angen am arian ychwanegol i gadw'r mentoriaid cymheiriaid yn eu swyddi fel rhan o'u tîm craidd, i adlewyrchu model cyn-filwyr yr Alban.
Yn 2007, roedd ymgyrch Anrhydeddu'r Cyfamod y Lleng Brydeinig eisoes wedi nodi bod angen i gyn-filwyr nad ydynt yn cael cymorth gan Combat Stress a gefnogir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, neu gan gorff arbenigol arall, allu cael mynediad at ofal iechyd meddwl a chael triniaeth flaenoriaethol. Gyda'r cyhoeddiad bod Combat Stress yn dileu gofal preswyl yn eu canolfan Audley Court yn swydd Amwythig, rhaid inni hefyd ymdrin â phryderon y bydd cyn-filwyr Cymru bellach yn gorfod teithio ar draws y DU i gael gofal preswyl, am nad oes unrhyw ddarpariaeth yng Nghymru.
Wrth gydnabod yr heriau penodol a wynebir gan blant teuluoedd y lluoedd arfog, ac er mwyn mynd i'r afael â'r anfantais o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU, argymhellodd yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno premiwm disgybl lluoedd arfog. Fel y mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn dweud, yn Lloegr, mae hwn wedi darparu cymorth ymarferol pwysig i blant y lluoedd arfog mewn addysg. Dylai ysgolion yng Nghymru gael mynediad at gronfa debyg ar gyfer yr oddeutu 2,500 o blant sy'n mynychu ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae'r adroddiad hefyd yn galw ar gonsortia addysg rhanbarthol i benodi hyrwyddwyr y lluoedd arfog; hyblygrwydd i ysgolion uwchradd Cymru ganiatáu i blant aelodau'r lluoedd arfog gael eu cofrestru ar ganol tymor, fel sydd eisoes yn digwydd mewn dosbarthiadau babanod; a mwy o ysgolion i gymryd rhan yn rhaglen ehangu'r cadetiaid. Mae'r adroddiad yn argymell ymestyn y prosiect rhyfel byd cyntaf llwyddiannus, Cymru'n Cofio, er mwyn ei gwneud hi'n bosibl nodi penblwyddi milwrol pwysig eraill. Ac mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod holl gofebau rhyfel dinesig Cymru yn cael eu cynnal a'u cadw'n ddigon da, a chydag amgueddfeydd milwrol Cymru i sefydlu arddangosfeydd teithiol.
Mae'r adroddiad yn galw am ddatblygu partneriaethau pellach rhwng landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'r trydydd sector i gefnogi tai â chymorth ychwanegol ar gyfer cyn-filwyr sy'n agored i niwed yng Nghymru, ac am i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig hepgor gofynion am brawf cysylltiadau lleol i gyn-bartneriaid aelodau o'r lluoedd arfog sy'n gadael llety i deuluoedd y lluoedd arfog.
Yn olaf, mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun cyflogaeth i gynorthwyo pobl sy'n gadael y lluoedd arfog, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn, a chefnogi partneriaid personél y lluoedd arfog wrth i'w partneriaid gael eu hanfon i Gymru. Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn datblygu llwybr cyflogaeth, ond mae ffigurau GIG Cymru i gyn-filwyr yn dangos mai traean yn unig sy'n cael eu cyflogi. Gan mlynedd ar ôl llofnodi'r cytundeb a arweiniodd at ddiwedd y rhyfel byd cyntaf, mae'n rhaid i'r cyfamod hwn barhau.
Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol.
Gwelliant 1 Julie James
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r cymorth y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu ar gyfer personél milwrol, cyn-filwyr a’u teuluoedd yng Nghymru, sy’n cynnwys:
a) Dull cydweithredol y grŵp arbenigol amlasiantaethol o ystyried y materion sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog, a’r modd yr eir ati ar y cyd i fynd i’r afael â’r materion hynny;
b) y £100,000 o gyllid ychwanegol i wasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru er mwyn cynyddu ei gapasiti a gwella’i allu i helpu cyn-filwyr sydd mewn angen;
c) eglurder ynglŷn â’r ystod eang o wasanaethau sydd ar gael yn unol â’i dogfennau polisi allweddol: y Pecyn Cymorth, Croeso i Gymru a’r Llwybr Tai Cenedlaethol; a
d) penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog trwy Gymru i sicrhau cysondeb yn y modd y rhoddir y Cyfamod ar waith.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Steffan Lewis i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Steffan.
Gwelliant 2 Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am weithredu’r Llwybr Tai Cenedlaethol ar gyfer Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog.
Gwelliant 3 Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r penderfyniad i gynnwys cwestiynau am wasanaeth yn y lluoedd arfog yn Cyfrif Cenedlaethol o Gysgu Allan ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r data a gasglwyd.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i i gynnig yn ffurfiol y gwelliannau yn enw Rhun ap Iorwerth.
Ar Sul y Cofio, bythefnos yn ôl, daeth pobl o bob cymuned at ei gilydd i gofio am y rhai a gollodd eu bywydau ym mhob rhyfel, ac yn benodol, y rhai a fu farw yn y rhyfel byd cyntaf. Yn ystod cyfnod y cofio, wrth gwrs, cawn gyfle i fyfyrio ar aberth pawb, yn y gorffennol a'r presennol, sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog. Rydym yn diolch iddynt am yr hyn a wnânt ar ein rhan.
Yn gynharach eleni, nodwyd canmlwyddiant brwydr Passchendaele, un o ddigwyddiadau mwyaf gwaedlyd y rhyfel byd cyntaf. Bu farw hanner miliwn o ddynion o'r ddwy ochr tra'n brwydro dros 5 milltir o dir yn unig. Roedd yn drasiedi ddisynnwyr na ellir mo'i dirnad. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd rhagor o ganmlwyddiannau. Byddwn yn cofio erchyllterau'r rhyfel byd cyntaf a'r miliynau o bobl a gollodd eu bywydau. Byddwn hefyd yn cofio'r dynion a ddychwelodd o ryfel, wedi dioddef trawma, ac wedi'u dryllio, i ganfod cymdeithas heb ddigon o waith neu dai ac nad oedd eto'n deall yr effeithiau y byddai eu profiad yn eu cael arnynt.
Heddiw, gallwn wneud yn well i gefnogi'r rhai sydd wedi gwasanaethu ar ein rhan ac i gefnogi eu teuluoedd. Mae Plaid Cymru yn croesawu'n fawr iawn adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid, ac rwy'n talu teyrnged i gadeirydd y grŵp trawsbleidiol am ei arweiniad a'r gwaith a wnaed. Mae'n galonogol gweld bod cynnydd da wedi'i wneud, ac mae'r adroddiad hefyd yn nodi nifer o argymhellion pwysig er mwyn gwella'r gwasanaethau sydd ar gael ymhellach.
Mae'r llwybr tai cenedlaethol ar gyfer cyn-filwyr yn cyflawni rôl bwysig drwy ddarparu cymorth ychwanegol i gyn-aelodau'r lluoedd arfog a'u teuluoedd. Gall dod o hyd i dŷ, ar ôl blynyddoedd lawer efallai yn y lluoedd arfog ac mewn ardal anghyfarwydd, fod yn frawychus ac yn anodd, ond mae'n allweddol i sicrhau bod y rhai sy'n gadael y lluoedd arfog yn cael sefydlogrwydd. Mae gwelliant cyntaf Plaid Cymru i'r ddadl heddiw yn galw am y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r llwybr hwnnw. Gan ei fod bellach wedi'i gyhoeddi, mae'n bwysig ei fod yn creu rôl reolaidd a gweithredol yn y ddarpariaeth a gynigir i gyn-filwyr. Hefyd, mae'n rhy hawdd weithiau i Lywodraeth, i ddogfennau cyfarwyddyd y mae'n eu cyhoeddi aros mewn drôr a pheidio â bod yn nodwedd gyson sy'n llywio ymarfer staff ar y rheng flaen o ddydd i ddydd. Rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y broses o gyflwyno'r llwybr a'r gwaith y maent yn ei wneud ar fonitro ei effeithiolrwydd.
Mae data da am y galw am gymorth ychwanegol a llwyddiant yr hyn sydd eisoes ar gael yn hollbwysig. Mae'r ffaith fod yr arolwg cenedlaethol o nifer y bobl sy'n cysgu allan yn cynnwys cwestiwn am wasanaeth yn y lluoedd arfog yn rhywbeth sydd i'w groesawu. Mae ail welliant Plaid Cymru felly yn galw heddiw am gyhoeddi'r data hwnnw, fel y gellir ei ddefnyddio gan y Llywodraeth a sefydliadau trydydd sector a gwasanaethau cyhoeddus eraill, i lywio'r gwaith y maent yn ei wneud. Os gallwn nodi'r cysylltiad rhwng digartrefedd a gwasanaeth yn y lluoedd arfog, gallwn ymdrin yn well ag achosion y problemau y mae'n eu creu.
Fel cenedl, rydym yn gwneud addewid ar y cyd i'r rhai sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog y byddant hwy a'u teuluoedd yn cael eu trin yn deg. Yr adeg hon o'r flwyddyn, wrth inni gofio'r aberth y maent yn ei gwneud, mae gennym ddyletswydd hefyd i ystyried a ydym yn cynnal yr addewid hwnnw. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion adroddiad y grŵp trawsbleidiol yn llawn ac yn ymdrechu'n gyson i wella'r cymorth y mae'n ei roi iddynt.
Eleni yw canmlwyddiant trydedd brwydr Ypres. Mae'r frwydr ofnadwy hon wedi tyfu'n symbol o'r erchyllterau sy'n gysylltiedig â'r rhyfel byd cyntaf. Caiff ei hadnabod yn aml yn ôl enw'r pentref lle y digwyddodd, Passchendaele. Er nad oes neb ar ôl yn fyw heddiw a wasanaethodd yn yr hyn a elwid yn 'rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel', mae'n ein hatgoffa o'r ddyled enfawr sydd arnom i'r rhai sy'n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog. Amcangyfrifir y gallai fod cynifer â 230,000 o gyn-filwyr yng Nghymru'n unig.
Yn anffodus, mewn rhai achosion, mae'n amlwg nad ydym yn darparu gofal a chymorth haeddiannol i'n cyn-filwyr. Mae gadael y lluoedd arfog ar ôl cyfnod hir o wasanaeth yn creu llawer o heriau. Yn aml, mae'n golygu gorfod adleoli, dod o hyd i gartref newydd, gwaith newydd a newid ffordd o fyw—a newid enfawr yn y ffordd o fyw mewn rhai achosion. Fodd bynnag, fel y mae'r adroddiad hwn yn amlygu, gall gwasanaethau i gymuned ein lluoedd arfog fod yn anghyson. Canlyniad uniongyrchol diffyg ymwybyddiaeth ynglŷn ag ystyr cyfamod y lluoedd arfog o'i weithredu'n ymarferol yw hyn.
Credaf fod angen comisiynydd y lluoedd arfog yng Nghymru i gydlynu a darparu'r gefnogaeth y mae ein cyn-filwyr yn ei haeddu gan sefydliadau'r sector cyhoeddus. Byddai'r comisiynydd hwn yn gwella gwaith llinell gymorth y Porth Cyn-filwyr sy'n cael ei sefydlu yn Nantgarw, i ddarparu gwasanaeth newydd 24 awr y dydd i gyn-filwyr y lluoedd arfog ledled y Deyrnas Unedig sy'n dychwelyd at fywyd sifil. Yn aml, mae gwasanaethau tai ac iechyd a gwasanaethau eraill wedi methu diwallu eu hanghenion, a gall hyn arwain at ynysu cymdeithasol a llai o iechyd a llesiant hefyd.
Mae tai diogel yn hanfodol ar gyfer cyn-filwyr wrth iddynt ddychwelyd at fywyd sifil. Ceir nifer o gynlluniau yng Nghymru sy'n cydnabod hyn. Ar yr ochr hon i'r Siambr, rydym yn credu y dylid darparu tai priodol yn gyflym a chynnal asesiad o anghenion cyn-filwyr cyn gynted â phosibl ac ar gam cynnar. Gallai hyn fod yn sail ar gyfer darparu gwasanaethau a darparu tystiolaeth gadarn i gau unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth. Mae nifer o gyn-filwyr yn mynd yn ddigartref oherwydd anallu i ddod i delerau â'u profiadau trawmatig, i'r graddau eu bod yn tarfu ar dasgau bob dydd.
Mae anhwylder straen wedi trawma yn anhwylder gorbryder a achosir gan brofiad o ddigwyddiadau trallodus—yn ystod rhyfel ac ynddi. Mewn rhai achosion, gall arwain at gynnydd mewn camddefnydd o alcohol a chyffuriau. Mae angen cydnabod symptomau salwch meddwl yn gynnar, ac mae angen mwy o gymorth yn y maes hwn hefyd. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru arian ychwanegol i sicrhau cynnydd o 50 y cant yn nifer y sesiynau gan seiciatryddion ymgynghorol—mae hyn yn newyddion da iawn. Mae'n hanfodol fod yr arian ychwanegol hwn yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu gwelliannau i'r gwasanaeth ledled Cymru. Ni ddylid gadael unrhyw gyn-filwr sydd angen cymorth arbenigol i ddihoeni ar restr aros.
Gall addysg plant y lluoedd arfog hefyd ddioddef oherwydd tarfu ar ffordd o fyw. Nid yw'r grant amddifadedd disgyblion ond ar gael i'r plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Ddirprwy Lywydd, nid yw'r rhan fwyaf o blant aelodau'r lluoedd arfog yn bodloni'r meini prawf hyn. Yn Lloegr, ceir premiwm disgybl lluoedd arfog o £300,000 y plentyn, sy'n daladwy'n uniongyrchol i ysgolion. Nid oes unrhyw bremiwm o'r fath yn bodoli yng Nghymru, gan adael plant i aelodau o'r lluoedd arfog yma dan anfantais o'i gymharu â'r rheini sy'n byw yn Lloegr. Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno premiwm disgybl lluoedd arfog i fynd i'r afael â hyn.
Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi cael profiad personol o hyn mewn bywyd: y lluoedd arfog, maent yno i wneud yr aberth eithaf ar ran y genedl. Ac nid i'r genedl hon yn unig y maent yn ei gwneud; cânt eu gwneud yn fyd-eang. Rwy'n enghraifft bersonol o hyn. Yn 1947, pan rannwyd India, swyddogion yr awyrlu brenhinol, y mae fy nheulu yn ddyledus iddynt am weddill ein plant a'n hwyrion—hwy a'n hedfanodd o Delhi i Peshawar, gyda fy mam a fy nhad a thri o blant, yn waglaw. Dyna oedd senario'r ail ryfel byd mewn gwirionedd, ac rwy'n credu—. Mae'r awyrlu brenhinol wedi rhoi, nid yn unig i'r wlad hon, ond i'r byd yn gyfan. Nid yw ein lluoedd arfog erioed wedi ein siomi. Rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn cydnabod hyn trwy bleidleisio o blaid y cynnig hwn heddiw. Diolch.
Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw ar bwnc pwysig cyfamod y lluoedd arfog. Rydym yn cytuno, yn UKIP, y dylid rhoi blaenoriaeth uchel i les pobl sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog a chyn-filwyr. Rydym hefyd yn awyddus i weld gweithgarwch cadetiaid yn cael ei annog. Felly, yn gyffredinol rydym yn rhannu diddordeb grŵp y Ceidwadwyr yn y maes hwn, ac rydym yn cymeradwyo egni Darren Millar yn casglu grŵp o bobl wybodus iawn at ei gilydd fel ei gynghorwyr yn y grŵp trawsbleidiol y bu'n gysylltiedig â'i sefydlu. Gwn fod Mark Isherwood wedi bod yn weithgar iawn yn ogystal. Mae'r grŵp wedi llunio argymhellion cadarn, ac rydym yn eu cefnogi'n llwyr.
Rydym hefyd yn cydnabod bod cyfamod y lluoedd arfog wedi cael cefnogaeth dda yng Nghymru—i raddau mawr yn sgil ymdrechion Llywodraeth Cymru. Felly, rwy'n mynd i fod yn gefnogol o'u hymdrechion hwy yn ogystal heddiw. Nawr, rwy'n cofio Carl Sargeant, mewn dadl ychydig wythnosau yn ôl ar fater tai, yn fy ngheryddu braidd am ei fod yn teimlo nad oeddwn i'n ddigon cefnogol o'r hyn roedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y maes hwnnw. Nawr, roeddwn yn anghytuno braidd â Carl ar y pwynt hwnnw, fel y gwneuthum ar rai pwyntiau, yn wir, oherwydd fy mod yn teimlo mai dyna oedd fy ngwaith, fel aelod o'r wrthblaid, sef ei gwestiynu ynglŷn â phethau yn hytrach na chynnig geiriau o gefnogaeth yn unig. Ond rwy'n credu y cydnabyddir yn gyffredinol, ym maes cyfamod y lluoedd arfog, ein bod wedi gwneud cynnydd da yng Nghymru, a chredaf fod ymdrechion Carl yn ffactor mawr yn hynny. Felly, hoffwn gydnabod hynny heddiw.
Nawr, pwynt y grŵp trawsbleidiol yw sicrhau bod pethau'n parhau i wneud cynnydd, ein bod yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau iawn mewn perthynas â materion cyn-filwyr a'r lluoedd arfog, a chytunwyd ar y blaenoriaethau hynny gan y grŵp trawsbleidiol mewn cydweithrediad agos â grwpiau sy'n cynrychioli'r lluoedd arfog a'r cyn-filwyr eu hunain. Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd ei grŵp arbenigwyr amlasiantaethol ei hun; felly, mae'n dda gweld bod pawb yn gweithio ar y cyd yn y maes hwn.
Mae tai'n ffactor rheolaidd mewn sawl un o'r blaenoriaethau a nodwyd yn adroddiad y grŵp trawsbleidiol. Mae gennym broblem gyda chyn-filwyr yn mynd yn ddigartref. Ar hyn o bryd amcangyfrifir bod tua 7,000 o gyn-aelodau'r lluoedd arfog yn ddigartref yn y DU. Nid ydym yn gwybod faint sydd yng Nghymru, a mynegwyd gobaith yn yr adroddiad y gallai nifer y bobl sy'n cysgu allan ddarparu manylion pwysig ynglŷn â hyn. Felly, gyda gobaith, gallwn ddefnyddio'r data hwn yn y dyfodol i gael gwybodaeth hanfodol yn y maes hwn.
Mae cwestiynau'n codi hefyd ynghylch y ddarpariaeth dai ar gyfer aelodau a chyn-aelodau o'r lluoedd arfog a'u teuluoedd, y cyfeiriwyd atynt yn gynharach. Mae'r rhain yn rhan o'r blaenoriaethau yn adroddiad y grŵp trawsbleidiol, ac rydym yn cefnogi amcan yr adroddiad o'i gwneud yn haws i deuluoedd y lluoedd arfog gael tai da. Darpariaeth bwysig arall yw'r premiwm disgybl, a cheir heriau mawr ynghylch darpariaethau iechyd meddwl, a rhaid ymdrin â hynny, fel y cyfeiriodd Mark Isherwood yn gynharach.
O ran y gwelliannau a nodwyd heddiw, rydym yn hapus i gefnogi'r holl welliannau. Mae'r Llywodraeth yn nodi eu cynnydd eu hunain, ac rydym yn fodlon ei gydnabod. Mae Plaid Cymru wedi edrych ar fater digartrefedd yn arbennig, ac maent yn galw am y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r llwybr tai cenedlaethol. Rydym ninnau hefyd yn cefnogi'r alwad honno. Hefyd, mae Plaid Cymru eisiau rhoi mesurau ar waith i gael data cadarn ar y ffigurau digartrefedd. Maent am i'r Llywodraeth gyhoeddi ffigurau a gasglwyd yn y cyfrif cenedlaethol o bobl sy'n cysgu allan. Unwaith eto, byddai hwnnw'n gam da ymlaen, ac rydym yn cefnogi'r alwad honno.
Felly, i grynhoi, rydym wedi gwneud cynnydd da ar weithredu cyfamod y lluoedd arfog yma yng Nghymru, a chredaf, ar lawer ystyr, ein bod yn cymharu'n dda â Lloegr, ond mae angen i ni ddal ati. Felly, mae'r adroddiad hwn i'w groesawu'n fawr, ac mae UKIP yn awyddus iawn i gefnogi argymhellion yr adroddiad.
Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma, a chroesawaf y Gweinidog i'w swydd. Credaf mai hon yw'r ddadl gyntaf y bydd wedi cyfrannu ati ers mabwysiadu'r rôl honno. Ond mae hefyd yn gyfle da i dalu teyrnged i'r cyn-Weinidog, Carl Sargeant, a ysgwyddodd y cyfrifoldeb portffolio penodol hwn, rwy'n credu, ar ddau achlysur yn y Llywodraeth. Roedd yn gyfrifoldeb yr oedd yn falch iawn ohono ac yn amlwg, cafodd lawer o lwyddiant yn ogystal. Gallaf gofio sawl dadl a gyflwynwyd dros y blynyddoedd yr ymatebodd Carl iddynt. Mae'n braf gweld nifer o'r pwyntiau a gyflwynwyd yn y ddadl honno ar sail drawsbleidiol, megis gwell mynediad at ofal iechyd, gwelliannau mewn tai ac yn bwysig, trefniadau adrodd dilys i'r Cynulliad ar y mentrau y mae Llywodraeth Cymru yn eu datblygu i geisio gwneud pethau cymaint â hynny'n well i'n lluoedd arfog pan fyddant yn dychwelyd i fywyd sifil. Oherwydd mae'n bwysig ystyried bod Cymru, fel gwlad, gydag oddeutu 5 y cant o boblogaeth y Deyrnas Unedig, wedi darparu 10, 12 y cant o bersonél y lluoedd arfog yn hanesyddol ac yn ôl-troed y lluoedd arfog heddiw sy'n llawer llai, mae gennym ganran lawer mwy o hyd o bersonél o Gymru ym mhob agwedd ar y lluoedd arfog. Felly, mae'n bwysig, fel Senedd Cymru, ein bod yn gwylio beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud, nodi lle y gallai'r Llywodraeth fod yn gwneud pethau'n anghywir, eu canmol lle maent yn gwneud cynnydd, ac mae'r adroddiad hwn yn gwneud llawer i geisio cynnig map o'r ffordd ymlaen, gyda chyfres o argymhellion i geisio sicrhau'r gwelliannau hynny.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ystyried gwaith y grŵp trawsbleidiol. Mae'r grŵp trawsbleidiol, dan gadeiryddiaeth fedrus iawn Darren Millar, wedi llwyddo i godi proffil y lluoedd arfog yma yn y Cynulliad, a hefyd, proffil y Cynulliad ymhlith cymuned y lluoedd arfog, oherwydd credaf fod hynny'n bwysig iawn. Nid oes ond 12 mis ers i sawl aelod o'r sefydliad hwn ymlwybro i wersyll hyfforddi Pontsenni a gweld y rhaglen hyfforddiant ryfeddol a roddai'r fyddin ar waith i'w milwyr. Roedd rhai'n ymwneud yn llawer mwy parod nag eraill, gan wisgo dillad cuddliw a phaent wyneb. Credaf eu bod dyheu am fod yn filwyr eu hunain—roedd y cadeirydd, yn enwedig, yn ceisio gwneud hynny. Yn ddiweddar, ym mis Medi, yn amlwg roedd treulio rhywfaint o amser gyda'r awyrlu brenhinol yn y Fali, a gweld yr ôl-troed yng ngogledd Cymru a'r gwaith gwych—ac o ystyried ei bod yn nesu'n gyflym at ganmlwyddiant yr awyrlu brenhinol, roedd hi'n addas iawn i'r grŵp hollbleidiol fynychu RAF Fali a gweld cymaint o hwb economaidd gwych yw'r Fali i'r ynys. Oherwydd mae'r holl bersonél sy'n dod i'r ynys yn amlwg yn gadael gydag atgofion melys ac yn dychwelyd dros y blynyddoedd yn ogystal. Gwn fod ymrwymiad gan y llynges, yn amlwg, i wahodd y grŵp hollbleidiol ar ymweliad hefyd.
Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, yn ei gyfraniad y prynhawn yma, yn rhoi sylw i'r adroddiad ac yn y pen draw yn mapio'r modd y byddai'n bwrw ymlaen â rhai—neu bob un, yn wir—o'r argymhellion ynddo. Oherwydd fe'u gwnaed gan gymuned y lluoedd arfog, oherwydd, o fod yn grŵp trawsbleidiol, yn amlwg, daeth y gymuned at ei gilydd wrth lunio'r adroddiad hwn. Mae'n werth nodi nad yw'r alwad am benodi comisiynydd i gefnogi gwaith y Llywodraeth ac i adrodd i'r Cynulliad wrth gwrs ar gynnydd yn rhai o'r meysydd lle mae angen cynnydd yr un fath â Chomisiynydd Plant Cymru neu Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sy'n gomisiynydd hollol wahanol. Mae gan yr Alban fodel da iawn y gallem edrych arno, a gellir ei wneud heb lawer o arian ac ysgogi cynnydd yn y maes hwn. Credaf hefyd fod yr argymhellion yn yr adroddiad sy'n amlwg yn cynnwys, ar hyn o bryd, y digwyddiadau coffáu canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf yn deilwng o ystyriaeth, o ran sut y gellir datblygu'r digwyddiadau coffáu hynny wrth inni fwrw ymlaen. Oherwydd, yn amlwg, fel y nodwyd yn gynharach, nid oes cyn-filwyr ar ôl o'r brwydrau hynny bellach, ac mae'n ddyletswydd arnom i wneud yn siŵr fod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu cofio, ac yn y pen draw, byth yn anghofio'r gwersi trasig yr oedd angen inni eu dysgu i amddiffyn ein democratiaeth a diogelu ein ffordd o fyw. Unwaith eto, rwy'n canmol y Llywodraeth am y ffordd y maent wedi rhoi'r digwyddiadau hynny gyda'i gilydd, ond rwy'n credu, fel y noda'r adroddiad, fod angen ystyried ymhellach yn awr beth a wnawn ar ôl y digwyddiadau coffáu a'r gyfres o ddigwyddiadau eraill i goffáu rhyfeloedd y cymerodd y lluoedd arfog ran ynddynt.
Roeddwn yn falch iawn o weld y fath sylw'n cael ei roi i'r cyfamod milwrol. Oherwydd rwy'n credu mai maer presennol Bro Morgannwg, y Cynghorydd Janice Charles, pan oedd yn aelod o'r cabinet yn ôl yn 2009, a sicrhaodd mai Cyngor Bro Morgannwg oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i ymrwymo i'r cyfamod milwrol. Nawr, rwy'n falch iawn o ddweud bod pob un o'r 22 awdurdod lleol wedi ymrwymo i ymrwymiadau'r cyfamod hwnnw. Ond yn anad dim, yr hyn sy'n wirioneddol bwysig, rwy'n meddwl, yw canolbwyntio ar y pethau cadarnhaol y gall y fyddin eu cynnig i berson ifanc sydd am gael gyrfa yn ein lluoedd arfog. Mae'n iawn inni ganolbwyntio ar y cymorth a roddwn ar waith ar gyfer pobl sy'n gadael y lluoedd arfog. Ond os caf orffen ar y pwynt hwn, Ddirprwy Lywydd, pan aiff pobl i mewn i'r gweithle wrth adael y lluoedd arfog, mae'n werth ystyried y ceir cydnabyddiaeth fawr i brofiad o weithio mewn timau ac arwain timau, hyblygrwydd a'r gallu i weithio mewn amgylcheddau anodd, prysur, deinamig, etheg gwaith gref a dibynadwy, arddangos gonestrwydd a ffyddlondeb, ac arbenigedd mewn amgylcheddau gwaith amrywiol yn ddiwylliannol a byd-eang. Mae'r rheini'n nodweddion y byddai unrhyw gyflogwr yn falch iawn o'u croesawu i'r tîm mewn bywyd sifil, fel petai, a chredaf weithiau fod angen hyrwyddo mwy ar y pethau cadarnhaol y gall y lluoedd arfog eu cynnig i bobl ifanc, o ble bynnag y dônt, ac yn enwedig gyda'r traddodiad gwych sydd gennym yma yng Nghymru o ddarparu nifer uwch o bersonél y lluoedd arfog na'n canran o boblogaeth y DU yn gyffredinol o bosibl. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Siambr yn cefnogi'r cynnig sydd gerbron heddiw.
A gaf fi ddweud fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn fod y grŵp trawsbleidiol wedi canmol y partneriaethau a ffurfiwyd gyda'r sector gwirfoddol, oherwydd gall y rhain arwain at rai o'r gwasanaethau mwyaf arloesol a pherthnasol sydd ar gael i'n cyn-filwyr? Hoffwn sôn am un enghraifft yn benodol, sef Woody's Lodge, sydd wedi'i leoli ar HMS Cambria yn Sili. Credaf fod nifer o bobl yn y Siambr hon wedi ymweld ag ef, ac yn wir maent wedi cynnal digwyddiad yma yn y Senedd, a noddwyd gan Jane Hutt, rwy'n credu.
Mae'n brosiect eithriadol, ac mae'n un sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog, rhai sydd newydd adael, sy'n grŵp allweddol, rwy'n credu, a milwyr wrth gefn—mae llawer o bobl bellach yn gwasanaethu yn ein lluoedd wrth gefn, ac maent yn rhan o'r ymladd ac yna'n dychwelyd ac maent yn gweithio yn ein gwasanaethau brys neu'r GIG neu yn y sector preifat, beth bynnag. Credaf fod cymorth parhaus ar gyfer y bobl hynny'n bwysig iawn. Hefyd, mae Woody's Lodge wedi ymestyn ei wasanaethau i gynnwys gwasanaethau brys—y gwasanaethau mewn lifrai hynny sy'n aml yn wynebu trawma dwys wrth fynd i'r afael â'u dyletswyddau.
Fel y mae ei ddatganiad cenhadaeth ei hun yn ei ddweud, mae yno i ddarparu gofod i bobl ganfod eu hunain, a chredaf fod hynny'n eithriadol o bwysig—fod pobl, ar ôl profiadau caled, yn cael y gofod hwnnw, ond hefyd yn gallu, gyda llawer o bobl a fydd yn rhannu eu profiadau'n uniongyrchol, hel atgofion am y pethau cadarnhaol yn ogystal. Ac mae llawer o fanteision i'w cael, wyddoch chi, o wasanaethu yn ein lluoedd arfog.
Mae'r tîm yn Woody's Lodge yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad ar sail un i un ac yn benodol yn darparu cymorth gyda budd-daliadau, materion iechyd a ffyrdd o adeiladu hyder a hunan-barch y bydd rhai pobl wedi'u colli, yn enwedig ar ôl gadael y math o awyrgylch a threfn ddyddiol y maent yn eu cael yn y lluoedd arfog, ac yna efallai na fyddant wedi ymaddasu i fywyd sifil yn effeithiol iawn, ac yna, flynyddoedd yn ddiweddarach byddant yn amddifad o hunan-barch neu hyder i fynd allan a dod o hyd i swydd.
Felly, credaf fod y rhain yn wasanaethau eithriadol o bwysig sy'n helpu, ac wrth gwrs, mae ganddynt amrywiaeth o bartneriaid allweddol i helpu yn y gwaith ardderchog hwn. Mae'n fodel o gydweithio gwirioneddol effeithiol. Maent yn gweithio gyda'r Lleng Brydeinig Frenhinol, Age Cymru, y GIG—Gwasanaethau iechyd meddwl yn arbennig—yr Adran Gwaith a Phensiynau, a llawer o gyrff eraill. Gan ein bod wedi bod yn sôn am y rhyfel byd cyntaf, hoffwn ddweud bod cyn-filwyr yr ail ryfel byd bellach yn hen iawn, dros eu 90. Mae prosiect arbennig ar y gweill yn Woody's Lodge, Project 360 Degrees, sef prosiect wedi'i anelu at gyn-filwyr hŷn, dan arweiniad Age Cymru ac sy'n cael ei ariannu gan gronfa'r cyn-filwyr hŷn. Yn fy marn i, mae'r gwaith y maent yn ei wneud yno'n rhagorol.
Ni fuasai Woody's Lodge yno oni bai am y grŵp o wirfoddolwyr sydd wedi codi swm aruthrol o arian gan gyrff grantiau sector cyhoeddus, a'r sector preifat hefyd. Hoffwn ganmol gwaith Dr David Trotman yn y maes hwn, sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn siarad am un mater arall—soniodd fy nghyd-Aelod Mark Isherwood amdano—sef bod angen gwell data am gyn-filwyr. Credaf ein bod oll yn ymwybodol o'r ymgyrch gan y Lleng Brydeinig i gael cwestiwn yn y cyfrifiad cenedlaethol ynglŷn â gwasanaeth yn y lluoedd arfog, ac roeddwn yn falch iawn o ymuno â'r ymgyrch honno, fel y mae llawer iawn o Aelodau Cynulliad eraill wedi'i wneud yn ogystal, rwy'n gwybod. Ond credaf hefyd y dylid rhoi pwysau ar y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ynghyd â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, i wella'r modd y caiff data ar gyn-filwyr ei gasglu lle y bo modd, oherwydd gyda data gwell buasem yn gallu llunio gwell gwasanaethau ar gyfer cyn-filwyr. Credaf fod hynny'n rhan bwysig iawn o'r cyfamod sydd gennym gyda hwy pan fyddant wedi cyflawni'r gwasanaethau hyn ar ein rhan. Am lawer iawn o resymau, gan gynnwys y rhesymau dyngarol y cyfeiriodd Mohammad Asghar atynt, maent yn haeddu'r gefnogaeth lawnaf y gallwn ei rhoi iddynt mewn gwirionedd, ac rwy'n falch iawn o gefnogi'r cynnig hwn.
Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus—Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy roi teyrnged i waith Carl Sargeant, a wnaeth ysgogi yn ogystal ag arwain llawer o'r gwaith ar y maes hwn. Mae Aelodau ar bob ochr i'r Siambr wedi talu teyrnged i Carl a'i waith yn ystod y ddadl hon y prynhawn yma, ac mae'n dyst i'r gwaith a wnaeth fel deiliad portffolio a oedd yn gyfrifol am y gwaith ar y lluoedd arfog yng Nghymru ein bod wedi cyrraedd lle'r ydym heddiw. Credaf fod pob ohonom yn ddiolchgar i Carl Sargeant am y gwaith a wnaeth yn y maes hwn.
Ar yr un pryd, rwyf hefyd yn ddiolchgar i Darren Millar am y gwaith y mae'n ei wneud fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog. Mewn gwirionedd, rwy'n credu fy mod yn un o'r aelodau a sefydlodd y grŵp hwnnw gryn dipyn o amser yn ôl. Mae'n dangos gwerth a phwysigrwydd grwpiau trawsbleidiol fod gennym adroddiad ger ein bron y prynhawn yma o'r ansawdd a welsom. Rwyf am ddweud bod Darren wedi ysgrifennu ataf fel cadeirydd y grŵp hollbleidiol, yn fy ngwahodd i gyfarfod yn y dyfodol. Mae hwnnw'n wahoddiad rwy'n ddiolchgar iawn amdano a byddaf yn falch o'i dderbyn. Buaswn yn falch iawn o fynychu cyfarfod o'r grŵp i ystyried yr adroddiad a'r argymhellion y maent wedi eu gwneud. Credaf fod yr holl argymhellion yn gadarn o ran y dadleuon a wnaed drostynt ac maent yn atgyfnerthu'r ddyled go iawn sydd arnom i'n lluoedd arfog.
Clywsom y prynhawn yma fod mis Tachwedd yn adeg ar gyfer coffáu. Mae'n adeg i fyfyrio ar gyfraniad y lluoedd arfog i'n gwlad a'r ddyled sydd arnom i bawb sydd wedi gwasanaethu. Rwy'n meddwl bod gennym gyfrifoldeb go iawn, wrth inni gofio'r digwyddiadau erchyll ganrif yn ôl, i gofio hefyd am y rhai sy'n byw yn ein cymunedau heddiw sydd wedi gwasanaethu mewn rhyfeloedd mwy diweddar. Mae gennym gyfrifoldeb llwyr i bawb sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a gobeithiaf fod y gwaith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud nid yn unig yn cyflawni geiriad y cyfamod hwnnw ond ei ysbryd yn ogystal.
Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi gwneud datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn rai wythnosau yn ôl, ac yn y datganiad ysgrifenedig hwnnw ceisiais amlinellu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i gymuned y lluoedd arfog. Rydym yn gwneud cynnydd da ledled Cymru, fel y mae'r Aelodau wedi cydnabod, ac rwy'n hyderus y gallwn adeiladu ar y llwyddiant hwn drwy barhau â'r dull hwn o weithredu, a rhannu adnoddau ac arferion gorau. Mae'r cynnig yn gynnig y bydd y Llywodraeth hon yn ceisio'i ddiwygio a'i gefnogi. Byddwn hefyd yn cefnogi dau welliant Plaid Cymru.
Rwyf am edrych yn gadarnhaol ar holl argymhellion adroddiad y grŵp trawsbleidiol ac edrych ar sut y gallwn barhau i adeiladu ar y sylfeini a wnaethom. Rwy'n ystyried bod y cynnig a'r adroddiad yn adeiladu ar y gwaith da a gwblhawyd eisoes gan Lywodraeth Cymru ac yn ategu'r gwaith hwnnw. Rwy'n ystyried bod yr adroddiad hwn yn cyfrannu at weledigaeth gadarnhaol o'r dyfodol a fydd yn ein galluogi fel Llywodraeth Cymru, gyda chymuned y lluoedd arfog, i weithio i barhau i ddarparu cymorth a gwasanaethau i gymuned ein lluoedd arfog.
Rydym eisoes yn gwybod bod llawer o gamau cadarnhaol wedi'u cymryd i wella'r cymorth sydd ar gael i gyn-filwyr a'u teuluoedd. Cydnabuwyd y cynnydd hwn, a gobeithiaf fod ein gwelliant i'r cynnig hwn yn cydnabod hynny. Mae hefyd yn ceisio cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan y grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog. Gyda'i aelodaeth amlasiantaethol gref, bydd yn parhau i'n helpu i nodi'r materion sy'n effeithio ar gymuned y lluoedd arfog a gweithio i fynd i'r afael â'r holl faterion hynny. Rwy'n falch fod y grŵp er enghraifft yn ystyried y cysylltiadau rhwng rhai sy'n gadael y lluoedd arfog yn gynnar a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy i ddeall pam y mae aelodau o'r lluoedd arfog yn dewis gadael yn gynnar, ac rwy'n ymrwymo, Ddirprwy Lywydd, i rannu'r canfyddiadau gyda'r Aelodau cyn gynted ag y gallwn wneud hynny.
Mae'r grŵp arbenigol eisoes wedi ystyried y syniad o gael comisiynydd y lluoedd arfog. Er nad wyf eto yn argyhoeddedig y byddai comisiynydd yn ychwanegu gwerth at y strwythurau sydd eisoes ar waith gennym, rwy'n agored i'r sgwrs honno. Nid yw'n ddrws rwyf am ei gau y prynhawn yma; mae'n sgwrs yr hoffwn ei chael ac yn sgwrs rwy'n ei chroesawu. Rwyf hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol y bydd cyfrifiad 2021 yn cynnwys cwestiynau i ganfod maint ac anghenion cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod rhan o'r grŵp arbenigol wedi ystyried y syniad o gerdyn adnabod i gyn-filwyr o'r blaen, ac wedi dod i'r casgliad mai cyfyngedig fuasai ei werth. Cytunwyd i roi cyhoeddusrwydd i'r cerdyn braint amddiffyn a'i hyrwyddo fel dewis cyntaf. Roedd hon yn ymgyrch hynod o lwyddiannus, gyda chynnydd yn yr aelodaeth o 89 y cant o gymharu â 39 y cant yng ngweddill y Deyrnas Unedig, gan alluogi aelodau'r cynllun i fanteisio ar ostyngiadau ar draws amrywiaeth eang o siopau.
Mae llawer iawn o gymorth ar gael i gymuned ein lluoedd arfog yng Nghymru. Fel y nodir yn ein gwelliant, rydym yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau sydd ar gael ar gyfer personél y lluoedd arfog a chyn-filwyr a'u teuluoedd. Rwy'n gobeithio y bydd ein polisïau sy'n datblygu yn parhau i adlewyrchu eu hanghenion newidiol, ac rwy'n rhoi addewid i'r Siambr—. Gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr a fuasem yn parhau i adrodd yn ôl i'r Siambr; rwy'n rhoi'r addewid hwn y prynhawn yma y byddwn yn parhau i adrodd yn ôl i'r Siambr yn rheolaidd ar y cynnydd a wneir.
Ar yr un pryd, Ddirprwy Lywydd, mae GIG Cymru i gyn-filwyr yn parhau i ddatblygu. Fe'i sefydlwyd yn 2010, ac mae'r gwasanaeth wedi derbyn tua 2,900 o atgyfeiriadau hyd yn hyn. Mae ei ddulliau arloesol, megis therapïau siarad a thechnegau rhithwir, yn helpu cyn-filwyr i ymdopi â thrawma personol o ganlyniad i brofiadau tra ar wasanaeth. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes wedi cyhoeddi £100,000 blynyddol o gyllid ychwanegol i gynyddu capasiti GIG Cymru i gyn-filwyr, gan ddod â chyfanswm cyllid Llywodraeth Cymru i bron £700,000 y flwyddyn. Rydym yn rhoi addewid y byddwn yn parhau i edrych ar ffyrdd o sicrhau bod hwn yn parhau i ddiwallu anghenion cyn-filwyr yn ein gwasanaeth iechyd. Hwn yw'r unig wasanaeth o'i fath yn y Deyrnas Unedig, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonom yn ymuno i ganmol ei lwyddiant.
Gwyddom hefyd y gall rhai cyn-filwyr gael trafferth dod o hyd i rywle i fyw. Mae gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu llwybr tai i helpu cyn-filwyr a'u teuluoedd i wneud dewis gwybodus ynglŷn â'u hanghenion llety wrth ddychwelyd at fywyd sifil. Ar y sail hon, rwy'n hapus iawn i gefnogi gwelliant 2 Plaid Cymru. Mae'r llwybr tai yn llwyddiant, a buaswn yn hapus i barhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Rwyf hefyd yn hapus i gefnogi gwelliant 3, a byddaf yn cynnwys y wybodaeth hon mewn sgyrsiau a dadleuon yn y dyfodol.
Mae'r adroddiad yn amlinellu efallai y bydd rhai sy'n gadael y lluoedd arfog, cyn-filwyr a'r lluoedd wrth gefn angen cymorth i sicrhau cyflogaeth. Gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn datblygu llwybr cyflogaeth gyda'n partneriaid allweddol. Wrth anelu at nodi dewisiadau cyflogaeth a chymorth sydd ar gael, bydd y llwybr yn darparu opsiynau ar gyfer y rhai sy'n chwilio am waith. Mae ein pecyn cymorth yn dangos yn glir ein hymrwymiad i gefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog yng Nghymru. Cafodd ei ddatblygu ar y cyd â 'n partneriaid, ac mae'n cynnwys meysydd polisi Llywodraeth Cymru, mentrau allweddol a gwybodaeth gan sefydliadau cymorth eraill.
Rwy'n ymwybodol y gall plant aelodau'r lluoedd arfog wynebu heriau o ganlyniad i adleoli. Er nad wyf eto yn argyhoeddedig mai ein gwasanaeth premiwm disgybl fuasai'r ffordd orau ymlaen, rwy'n cydnabod hefyd fod hon yn sgwrs y gallwn barhau i'w chael. Mewn gohebiaeth at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, rydym wedi gofyn am roi ystyriaeth bellach i barhad y gronfa gymorth ar gyfer addysg plant y lluoedd arfog. Hoffwn ddweud hefyd, Ddirprwy Lywydd, ein bod wedi cyhoeddi pecyn 'Croeso i Gymru' wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer ein lluoedd arfog a'u teuluoedd. Ni ddylai fod gan yr Aelodau unrhyw amheuaeth ynglŷn â phwysigrwydd cyflawni'r cyfamod i'r Llywodraeth hon yng Nghymru.
Rwyf am orffen fy nghyfraniad heddiw drwy ddweud pa mor falch wyf fi o'r hyn a gyflawnwyd gennym ni a'n partneriaid yn y lluoedd arfog wrth geisio cyflawni'r ymrwymiad a wnaethom. Byddaf yn mynychu bwrdd gweinidogol y DU ar y cyfamod a chyn-filwyr sydd newydd gael ei sefydlu. Bydd ein presenoldeb yn helpu i ddatblygu gwaith y cyfamod mewn cydweithrediad â'n cymheiriaid yn y Deyrnas Unedig yn ogystal â'n grŵp arbenigol ein hunain ar y lluoedd arfog. Mae angen i bawb ohonom ddysgu oddi wrth ein gilydd a rhannu arferion da.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n meddwl bod natur a chywair y ddadl y prynhawn yma wedi dangos pŵer undod ar bob ochr i'r Siambr hon. Mae arnom ddyled i'n lluoedd arfog na allwn byth mo'i had-dalu, ond mae'r Llywodraeth hon, a'r Cynulliad cyfan, yn sefyll ochr yn ochr â chymuned y lluoedd arfog, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod pob cyn-filwr a holl aelodau'r lluoedd arfog yng Nghymru yn cael y gefnogaeth y maent ei hangen ac yn ei haeddu. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Galwaf ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch pawb sydd wedi cymryd rhan yn yr hyn a oedd, yn fy marn i, yn ddadl bwysig iawn ar argymhellion gweddus a safonol iawn mewn adroddiad a oedd yn ganlyniad i waith sylweddol gan y grŵp trawsbleidiol? Credaf fod hwn yn adroddiad sydd â photensial i ychwanegu at y gwaith aruthrol sydd eisoes wedi'i wneud yma yng Nghymru i wella bywydau personél y lluoedd arfog a chyn-filwyr yn ein gwlad. Fel y dywedodd nifer o bobl yn gwbl briodol, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol—mwy o gynnydd, rwy'n credu, nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig—ac mae honno'n record rwy'n falch o fod wedi cael rhan fach i chwarae ynddi fel Aelod Cynulliad yn gweithio ar y cyd â'r holl Aelodau ym mhob plaid yn y Cynulliad hwn i ddatblygu'r agenda honno.
Hoffwn dalu teyrnged hefyd—fel y gwnaeth y Gweinidog ac fel y gwnaeth Andrew R.T. Davies—i waith Carl Sargeant fel deiliad blaenorol y portffolio. Roedd yn allweddol yn sicrhau bod rhai o'r gwelliannau sylweddol a welsom yn y blynyddoedd diwethaf wedi'u cyflawni. Un o rannau pwysicaf hynny oedd dod â chymuned y lluoedd arfog at ei gilydd mewn gwirionedd, yn enwedig y sector gwirfoddol, sy'n aml yn y gorffennol wedi bod yn wasgaredig, mewn seilos ac yn gweithio mewn ffyrdd nad oeddent yn gydweithredol. Mae'r ffordd y mae gennym gynhadledd flynyddol y lluoedd arfog bellach—un yn y de, un yn y gogledd—wedi helpu'n fawr i oresgyn rhai o'r rhwystrau hynny.
Yn gwbl briodol, mae nifer o sefydliadau'r trydydd sector wedi'u crybwyll yn y ddadl heddiw, o Woody's Lodge y cyfeiriodd David Melding ato, i sefydliadau mwy o faint fel y Lleng Brydeinig Frenhinol, SSAFA, Combat Stress ac eraill. Mae llawer o'r sefydliadau hyn yn aelodau partner o'r grŵp trawsbleidiol. Maent yn mynychu'n rheolaidd ac yn cyfrannu at ein gwaith ac yn helpu i lywio ein hagenda. Rwyf am gofnodi fy niolch i bob un ohonynt am eu cyfraniad.
Na foed inni anghofio byth fod ein lluoedd arfog—lluoedd arfog Prydain—yn cyrraedd y tu hwnt i'n glannau. Fel y dywedodd Mohammad Asghar yn gwbl briodol, maent wedi bod â rôl enfawr i'w chwarae yn hanesyddol o amgylch y byd, yn gwneud cyfraniad cadarnhaol ym mhob math o ffyrdd gwahanol i bob math o wledydd. Yn y flwyddyn hon pan ydym yn coffáu canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad, tri deg pum mlynedd ers rhyfel y Falklands, ac yn y flwyddyn i ddod pan fyddwn yn nodi canmlwyddiant sefydlu'r Awyrlu Brenhinol, mae'n werth inni gofio bod ein lluoedd arfog yn symud yn gyson o un pen-blwydd i'r nesaf yn ddi-dor. Dyna pam y mae'n bwysig iawn adeiladu ar y llwyddiant a welsom o raglen ddigwyddiadau Cymru'n Cofio a drefnwyd gan Syr Deian Hopkin, a gwneud yn siŵr fod yr etifeddiaeth o goffáu yn parhau yn y dyfodol.
Nid wyf am fynd drwy bob un o'r argymhellion, ond y prif argymhelliad yn yr adroddiad oedd yr angen i gael comisiynydd y lluoedd arfog. Rwy'n falch iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, nad ydych wedi cau'r drws ar y cynnig hwnnw, oherwydd rydym yn gwybod ei fod wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau cyn-filwyr yn yr Alban, lle mae ganddynt gomisiynydd cyn-filwyr. Roedd y grŵp trawsbleidiol yn awyddus iawn i weld yr egwyddor honno'n cael ei hymestyn nid yn unig i gymuned y cyn-filwyr, ond i gael comisiynydd a fuasai'n gyfrifol am wella bywydau holl aelodau'r lluoedd arfog, a sicrhau bod egwyddorion y cyfamod y mae Cymru wedi cydsynio iddo yn cael eu cyflawni. Roeddwn yn falch iawn o'r ffaith mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i weld pob un o'r 22 awdurdod lleol yn cydsynio i'r cyfamod, i weld ei Llywodraeth ei hun yn cydsynio i'r cyfamod ac i weld yr holl fyrddau iechyd yn cydsynio i'r cyfamod. Mae gennym hyrwyddwyr ym mhob un o'r lleoedd hyn, ond fel grŵp trawsbleidiol, credwn y buasai cael comisiynydd y lluoedd arfog sy'n gallu dwyn pob un o'r cyrff cyfansoddol i gyfrif am eu cyflawniad yn erbyn egwyddorion y cyfamod yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf posibl i sicrhau bod y cyfamod yn cael ei gyflawni'n llawn. Felly, roeddwn yn falch o glywed eich bod yn cadw'r drws yn agored ar yr awgrym hwnnw, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi yn rhinwedd eich swydd fel deiliad y portffolio—ac mae'n benodiad i'w groesawu'n fawr yn wir. Gwn am eich ymrwymiad a'ch ymroddiad i'r lluoedd arfog yn hanesyddol ac fel rydych yn nodi'n hollol gywir, roeddech yn un o sylfaenwyr y grŵp trawsbleidiol, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i gyflawni cynifer o'r argymhellion hyn â phosibl yn y dyfodol. Felly, diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl ac edrychwn ymlaen at weld y trafodaethau'n parhau.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. [Gwrthwynebiad.] Roedd hynny ychydig yn—. O'r gorau, iawn, felly gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Fe wnaethoch fy stopio ar ganol cymryd anadl yn y fan honno; roeddech yn ffodus iawn.