Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Ar yr un pryd, Ddirprwy Lywydd, mae GIG Cymru i gyn-filwyr yn parhau i ddatblygu. Fe'i sefydlwyd yn 2010, ac mae'r gwasanaeth wedi derbyn tua 2,900 o atgyfeiriadau hyd yn hyn. Mae ei ddulliau arloesol, megis therapïau siarad a thechnegau rhithwir, yn helpu cyn-filwyr i ymdopi â thrawma personol o ganlyniad i brofiadau tra ar wasanaeth. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes wedi cyhoeddi £100,000 blynyddol o gyllid ychwanegol i gynyddu capasiti GIG Cymru i gyn-filwyr, gan ddod â chyfanswm cyllid Llywodraeth Cymru i bron £700,000 y flwyddyn. Rydym yn rhoi addewid y byddwn yn parhau i edrych ar ffyrdd o sicrhau bod hwn yn parhau i ddiwallu anghenion cyn-filwyr yn ein gwasanaeth iechyd. Hwn yw'r unig wasanaeth o'i fath yn y Deyrnas Unedig, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonom yn ymuno i ganmol ei lwyddiant.
Gwyddom hefyd y gall rhai cyn-filwyr gael trafferth dod o hyd i rywle i fyw. Mae gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu llwybr tai i helpu cyn-filwyr a'u teuluoedd i wneud dewis gwybodus ynglŷn â'u hanghenion llety wrth ddychwelyd at fywyd sifil. Ar y sail hon, rwy'n hapus iawn i gefnogi gwelliant 2 Plaid Cymru. Mae'r llwybr tai yn llwyddiant, a buaswn yn hapus i barhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Rwyf hefyd yn hapus i gefnogi gwelliant 3, a byddaf yn cynnwys y wybodaeth hon mewn sgyrsiau a dadleuon yn y dyfodol.
Mae'r adroddiad yn amlinellu efallai y bydd rhai sy'n gadael y lluoedd arfog, cyn-filwyr a'r lluoedd wrth gefn angen cymorth i sicrhau cyflogaeth. Gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn datblygu llwybr cyflogaeth gyda'n partneriaid allweddol. Wrth anelu at nodi dewisiadau cyflogaeth a chymorth sydd ar gael, bydd y llwybr yn darparu opsiynau ar gyfer y rhai sy'n chwilio am waith. Mae ein pecyn cymorth yn dangos yn glir ein hymrwymiad i gefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog yng Nghymru. Cafodd ei ddatblygu ar y cyd â 'n partneriaid, ac mae'n cynnwys meysydd polisi Llywodraeth Cymru, mentrau allweddol a gwybodaeth gan sefydliadau cymorth eraill.
Rwy'n ymwybodol y gall plant aelodau'r lluoedd arfog wynebu heriau o ganlyniad i adleoli. Er nad wyf eto yn argyhoeddedig mai ein gwasanaeth premiwm disgybl fuasai'r ffordd orau ymlaen, rwy'n cydnabod hefyd fod hon yn sgwrs y gallwn barhau i'w chael. Mewn gohebiaeth at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, rydym wedi gofyn am roi ystyriaeth bellach i barhad y gronfa gymorth ar gyfer addysg plant y lluoedd arfog. Hoffwn ddweud hefyd, Ddirprwy Lywydd, ein bod wedi cyhoeddi pecyn 'Croeso i Gymru' wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer ein lluoedd arfog a'u teuluoedd. Ni ddylai fod gan yr Aelodau unrhyw amheuaeth ynglŷn â phwysigrwydd cyflawni'r cyfamod i'r Llywodraeth hon yng Nghymru.
Rwyf am orffen fy nghyfraniad heddiw drwy ddweud pa mor falch wyf fi o'r hyn a gyflawnwyd gennym ni a'n partneriaid yn y lluoedd arfog wrth geisio cyflawni'r ymrwymiad a wnaethom. Byddaf yn mynychu bwrdd gweinidogol y DU ar y cyfamod a chyn-filwyr sydd newydd gael ei sefydlu. Bydd ein presenoldeb yn helpu i ddatblygu gwaith y cyfamod mewn cydweithrediad â'n cymheiriaid yn y Deyrnas Unedig yn ogystal â'n grŵp arbenigol ein hunain ar y lluoedd arfog. Mae angen i bawb ohonom ddysgu oddi wrth ein gilydd a rhannu arferion da.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n meddwl bod natur a chywair y ddadl y prynhawn yma wedi dangos pŵer undod ar bob ochr i'r Siambr hon. Mae arnom ddyled i'n lluoedd arfog na allwn byth mo'i had-dalu, ond mae'r Llywodraeth hon, a'r Cynulliad cyfan, yn sefyll ochr yn ochr â chymuned y lluoedd arfog, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod pob cyn-filwr a holl aelodau'r lluoedd arfog yng Nghymru yn cael y gefnogaeth y maent ei hangen ac yn ei haeddu. Diolch yn fawr iawn.