Part of the debate – Senedd Cymru ar 22 Tachwedd 2017.
Cynnig NDM6571 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu adolygiad y Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid o effaith cyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru ac yn nodi ei argymhellion.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yr argymhellion a gyflwynwyd gan yr adolygiad i sicrhau y darperir yr holl gymorth sydd ar gael i bersonél milwrol, cyn-filwyr a'u teuluoedd yng Nghymru.