Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Prif Weinidog, yn ôl y cais rhyddid gwybodaeth a wnaed gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl, mae Rhentu Doeth Cymru yn gweithredu ar dros ddwbl ei gost rhagamcanol ar hyn o bryd. Erbyn diwedd mis Chwefror 2017, roedd wedi cyflogi 50 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn i weinyddu'r cynllun, sydd bum gwaith yr amcanestyniad o'ch asesiad effaith rheoleiddiol. A oedd Llywodraeth Cymru yn naïf yn ei hamcangyfrifon o gostau gweinyddol Rhentu Doeth Cymru, neu ai aneffeithlonrwydd yn Rhentu Doeth Cymru sydd ar fai?