1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Tachwedd 2017.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllideb Rhentu Doeth Cymru? OAQ51384
Gwnaf. Mae Rhentu Doeth Cymru yn ariannu ei hun drwy ffioedd. Rydym ni, fodd bynnag, yn cynorthwyo awdurdodau lleol i hyrwyddo a gorfodi cofrestriad gyda Rhentu Doeth Cymru.
Prif Weinidog, yn ôl y cais rhyddid gwybodaeth a wnaed gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl, mae Rhentu Doeth Cymru yn gweithredu ar dros ddwbl ei gost rhagamcanol ar hyn o bryd. Erbyn diwedd mis Chwefror 2017, roedd wedi cyflogi 50 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn i weinyddu'r cynllun, sydd bum gwaith yr amcanestyniad o'ch asesiad effaith rheoleiddiol. A oedd Llywodraeth Cymru yn naïf yn ei hamcangyfrifon o gostau gweinyddol Rhentu Doeth Cymru, neu ai aneffeithlonrwydd yn Rhentu Doeth Cymru sydd ar fai?
Fel y dywedais, mae Rhentu Doeth Cymru yn ariannu ei hun yn llwyr. Telir amdano drwy ffioedd ar gyfer cofrestru a thrwyddedu landlordiaid ac asiantau, a mater i Rhentu Doeth Cymru, wrth gwrs, sy'n cael ei redeg gan gyngor Caerdydd, yw esbonio ei gostau gweithredu a'r hyn y mae'n ei wneud gyda'r personél sydd ganddo.
Prif Weinidog, sut mae gwaith Rhentu Doeth Cymru yn helpu tuag at gynorthwyo aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas sy'n byw mewn llety rhent preifat?
Mae Rhentu Doeth Cymru yn sicrhau bod unrhyw un sy'n ymwneud â gosod a rheoli adeiladau yn addas a phriodol ac wedi ei hyfforddi. Mae'r prawf person addas a phriodol yn gwneud yn siŵr na all neb ag euogfarnau troseddol heb eu disbyddu gael unrhyw gyswllt â thenant, sy'n arbennig o bwysig, wrth gwrs, wrth ymdrin â thenantiaid agored i niwed. Ac mae hyfforddiant yn sicrhau bod landlord neu asiant yn ymwybodol o'i gyfrifoldebau cyfreithiol, yn enwedig o ran diogelwch yr adeilad y mae'n ei osod.
Prif Weinidog, dangosodd ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf bod 86,238 o landlordiaid wedi eu cofrestru erbyn hyn, sy'n golygu bod amcangyfrif o 3,762 yn gosod adeiladau yn anghyfreithlon. Mae cofrestru fel landlordiaid yn costio £33.50 os caiff ei wneud ar-lein, ac £80.50 ar bapur, waeth faint o adeiladau sydd ganddyn nhw. Lansiwyd y cynllun ar 23 Tachwedd 2015, gan roi 12 mis i landlordiaid gofrestru, cyn iddo ddod yn gyfraith y llynedd. Prif Weinidog, onid yw'n bryd i bob landlord ddilyn esiampl y mwyafrif llethol a chyflawni eu rhwymedigaethau cymdeithasol i'w tenantiaid, cydymffurfio â'r gyfraith a darparu amodau tai addas yng Nghymru? A beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i ddod â'r rheini sydd, am ba reswm bynnag, yn parhau dorri'r gyfraith—?
Wel, rwy'n cytuno'n llwyr bod angen i'r landlordiaid hynny sydd wedi methu, hyd yma, â dod ymlaen, wneud hynny nawr. Maen nhw'n torri'r gyfraith. Os daw landlordiaid ymlaen nawr, efallai y byddan nhw'n osgoi unrhyw gosbau ariannol am beidio â chydymffurfio. Os na fyddan nhw'n dod ymlaen nawr ac yn cael eu darganfod yn ddiweddarach, yna, wrth gwrs, gallai Rhentu Doeth Cymru gyflwyno dirwyon, mynd â nhw i'r llys i'w herlyn, ac mae'r grym ganddyn nhw hyd yn oed i ddiddymu eu gallu i osod neu reoli adeiladau. Felly, mae'r cosbau yno. Mae'n hynod bwysig bod landlordiaid yn osgoi'r cosbau hynny trwy gydymffurfio â'r gyfraith.