Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:36, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r aelod yn rhoi enghraifft yn y fan yna sy'n haeddu ymchwiliad pellach. Mae'n anodd iawn gwneud sylwadau ar hynny heb wybod mwy am y peth, ond, os hoffai ysgrifennu ataf gyda rhagor o fanylion, byddwn wrth gwrs yn falch o ymchwilio i hynny ar ei ran. Gofynnodd y cwestiwn hefyd am wariant iechyd meddwl. Wel, wrth gwrs, mae gwariant ar iechyd meddwl wedi ei neilltuo yng Nghymru, ac rydym ni'n bwriadu cynyddu'r cyllid hwnnw gan £20 miliwn ychwanegol i bron i £650 miliwn yn 2018-19.