Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:37, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae gennym ni ymgyrch recriwtio ar waith, wrth gwrs, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Rydym ni wedi neilltuo adnoddau ychwanegol i CAMHS pan oedd hynny'n angenrheidiol, pan ddaeth galw yn uchel iawn a bod angen bodloni'r galw hwnnw. Gallaf ddweud bod mwy na 154,000 o bobl wedi eu gweld gan wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol ers eu cyflwyno, yn rhan o weithrediad y Mesur yn 2012, ac mae dros 82,000 o bobl wedi derbyn ymyraethau therapiwtig gan eu LPMHSS. Felly, rydym ni'n gwybod bod llawer o bobl wedi elwa ar y Mesur hwnnw, a gallwn weld, wrth gwrs, bod y gyllideb wedi ei neilltuo ar gyfer iechyd meddwl, i sicrhau bod adnoddau digonol ar gael.