Diogelu'r Amgylchedd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 1:55, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dangos, drwy ei dull rhagweithiol o reoleiddio, gorfodi a mentrau ehangach, y gellir gwneud cynnydd mawr i ddiogelu amgylchedd Cymru. Gwelir hyn yn amlwg yn uchelgais rhagweithiol Llywodraeth Lafur Cymru i Gymru ailgylchu 70 y cant o'r holl wastraff erbyn 2025 a bod yn ddi-wastraff erbyn 2050, gyda dros 60 y cant o'n gwastraff dinesig yng Nghymru yn cael ei ailgylchu ar hyn o bryd. Pa gamau pellach, felly, all Llywodraeth Cymru eu cymryd i wella'r cyflawniad gwych a strategol hwn?