Diogelu'r Amgylchedd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:56, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Talaf deyrnged i'm cyd-Aelod Lesley Griffiths a'r rheini a oedd yn gwneud y swydd o'i blaen am y gwaith ardderchog a wnaed o ran ailgylchu. Yn ôl yn 2000, roeddem ni'n ailgylchu tua 4 y cant o sgil-gynhyrchion gwastraff yng Nghymru. Ceir targedau ymestynnol ar gyfer y dyfodol, ond mae angen hefyd i ni weithio gydag eraill i wneud yn siŵr bod llai o ddeunydd pacio. Mae'n anodd gwneud hynny ar lefel Cymru, gan fod y rhan fwyaf o'r hyn a ddaw i Gymru yn cael ei becynnu a'i brynu mewn mannau eraill, ond byddai gweithredu Ewropeaidd cydgysylltiedig, gweithredu byd-eang, yn wir, i leihau deunydd pacio yn y lle cyntaf yn lleihau sgil-gynhyrchion gwastraff ac yn ei gwneud yn haws fyth i ni gynyddu ein lefel o ailgylchu.