Lleihau Anghydraddoldeb

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:05, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Mae cydraddoldeb yn ganolog i waith Llywodraeth Cymru a'n gweledigaeth ar gyfer Cymru, fel y nodir yn 'Ffyniant i Bawb'. Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol ar gyfer 2017-20 yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb, ac mae'r amcanion hynny yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sydd wedi ymwreiddio fwyaf yng Nghymru.