1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Tachwedd 2017.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau anghydraddoldeb yng Nghymru? OAQ51350
Gwnaf. Mae cydraddoldeb yn ganolog i waith Llywodraeth Cymru a'n gweledigaeth ar gyfer Cymru, fel y nodir yn 'Ffyniant i Bawb'. Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol ar gyfer 2017-20 yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb, ac mae'r amcanion hynny yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sydd wedi ymwreiddio fwyaf yng Nghymru.
Un o'r anghydraddoldebau sydd wedi ymwreiddio yng Nghymru yw'r anghydraddoldeb rhwng ansawdd y gwasanaeth iechyd ac amseriad y gwasanaeth iechyd yn y gogledd o'i gymharu â rhannau eraill o'r wlad. Pam, Prif Weinidog, mae fy etholwyr i ddwywaith mor debygol ag etholwyr ym mwrdd iechyd Cwm Taf, er enghraifft, i fod mewn adran achosion brys am bedair awr neu fwy, a pham, yn y gogledd, mae un o bob 11 o gleifion yn aros 36 wythnos neu fwy o atgyfeiriad i driniaeth, o'i gymharu â dim ond un o bob 83 i lawr yma yng Nghaerdydd a'r Fro? Mae'r anghydraddoldeb hwn yn amlwg yn annerbyniol. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi bod hynny'n annerbyniol. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd i unioni'r sefyllfa hon, o gofio bod y bwrdd iechyd hwn yn destun mesurau arbennig?
Wel, wrth gwrs, bydd gwahaniaethau rhwng byrddau iechyd. Er enghraifft, Betsi Cadwaladr yw'r bwrdd iechyd sydd wedi perfformio orau yn hanesyddol o ran triniaeth canser yng Nghymru. Ond ceir anghydraddoldebau. Wrth gwrs, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a llesiant yn ymwybodol, rydym ni'n ceisio unioni'r anghydraddoldebau hynny a chymryd camau pan fo hynny'n angenrheidiol. Pan fo angen, er enghraifft, recriwtio, rydym ni'n ceisio recriwtio a gweithio gyda byrddau iechyd er mwyn recriwtio'r lefel briodol o staff meddygol sydd ei hangen arnynt i ddarparu'r gwasanaeth yr ydym yn credu sy'n briodol ac yn iawn i'r bobl sy'n byw ym mhob rhan o Gymru.
Prif Weinidog, mae mynegai amddifadedd lluosog Cymru yn awgrymu bod gan aelwydydd lle ceir plant gyfradd uwch o amddifadedd incwm na'r boblogaeth yn gyffredinol, gyda 24 y cant o aelwydydd o'r fath mewn amddifadedd, o'i gymharu ag 16 y cant yn gyffredinol. Mae Aelodau yn y Senedd hon yn ymwybodol iawn bod credyd cynhwysol, y taliad misol sengl sy'n disodli'r chwe budd-dal oedran gweithio presennol, yn cael ei gyflwyno ledled Cymru. Er gwaethaf y gwaith rhagorol a rhagweithiol sy'n cael ei wneud yng Nghymru i gynorthwyo, cynghori a helpu'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan ddiwygio lles, mae'n anochel y bydd credyd cynhwysol yn cael effaith negyddol ar fywydau'r bobl fwyaf agored i niwed ar draws ein gwlad, trwy weithrediad proses y mae'n ymddangos sydd wedi ei chynllunio'n fwriadol i wthio pobl i dlodi a dyled. Pa sylwadau all Llywodraeth Cymru eu gwneud i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau i alw ar Lywodraeth Dorïaidd y DU i ailystyried polisi hynod atchweliadol a dinistriol?
Mae'r cyflwyniad o gredyd cynhwysol yn llanastr. Mae pobl yn cael eu gadael heb arian—pobl sydd angen arian ar sail wythnosol. Mae pobl yn cael eu gadael mewn sefyllfa lle na allant fforddio prynu pethau. Mae pobl yn cael eu gadael mewn sefyllfa o ansicrwydd, ac rydym ni'n gwybod mai ymateb Llywodraeth y DU i hyn i gyd yw, 'Beth yw'r ots?' fwy neu lai. Wel, mae ots i ni ar yr ochr hon i'r Siambr. Rydym ni'n annog Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr bod pobl sydd angen yr arian hwnnw yn cael yr arian hwnnw a'u bod yn rhoi terfyn ar y toriadau y maen nhw'n eu gwneud i'r system fudd-daliadau, a'r toriadau y maen nhw'n ei gwneud i'r gwariant yr ydym ni fel cymdeithas wedi ei wario yn hanesyddol ar y rheini sydd fwyaf agored i niwed. Byddwn bob amser yn sefyll dros y rhai sydd fwyaf agored i niwed.