Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:34, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Rydym ni yn disgwyl, wrth gwrs, i gyrff cyhoeddus gydymffurfio â'r gyfraith. Mae hi'n gofyn pa strwythur ddylai fod ar waith. Gan adael o'r neilltu y mater o faint o arian sydd ar gael, mae ein strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', yn mabwysiadu dull poblogaeth o wella llesiant meddyliol pobl yng Nghymru a chynorthwyo pobl â salwch meddwl. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr y gall pobl gael mynediad at therapïau siarad, er enghraifft. Rydym ni'n ystyried ffyrdd o helpu pobl ifanc hyd yn oed yn fwy, a bydd yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r arian sy'n cael ei roi ar waith ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Ond rydym ni'n sicr yn disgwyl, pan ddisgwylir i gyrff cyhoeddus gydymffurfio â deddfwriaeth, eu bod nhw'n gwneud hynny.