Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Dyma ddyn a bleidleisiodd o blaid preifateiddio trydan a nwy. Dyna'r rheswm pam mae prisiau wedi codi. Y ffaith yw nad oes unrhyw gystadleuaeth mewn gwirionedd, nid yw pobl wir yn deall sut i gael y tariff gorau, er gwaethaf ymdrechion gorau pobl i wneud hynny. A dweud y gwir, roedd y gwasanaeth yn well o lawer pan oedd gennym ni ddarparwr gwladoledig, ac mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn ei weld yn dychwelyd yn y dyfodol. Nid yw'n ymwneud o gwbl â threthi gwyrdd. Mae'n ymwneud yn gyfan gwbl â'r ffaith fod cwmnïau preifat yn gwneud elw ar draul pobl gyffredin, rhywbeth y gwnaeth ef ei gefnogi ac, yn wir, y mae'r blaid yna draw fan acw yn ei gefnogi hefyd.