Prynwyr Tro Cyntaf

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:01, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Bu llawer iawn o gamfanteisio ar lesddaliadau pan oedd lesoedd wedi dod i ben. Wrth gwrs, ceir rhai meysydd, fel y bydd fy ffrind yn gwybod, fel fflatiau, lle mae lesddaliad yn tueddu i fod yn rhywbeth eithaf normal. Pan ddaw i dai, fodd bynnag, mae gan Gymru hanes, pan fo lesddaliadau wedi dod i ben yn y gorffennol, pan godwyd symiau mawr ar bobl i brynu'r tir y mae eu tai yn eistedd arno. Rwy'n credu, yn y dyfodol, ei bod yn bwysig dros ben mai rhydd-ddaliad yw'r denantiaeth sy'n arferol, cyn belled ag y mae tai yn y cwestiwn. Efallai y bydd enghreifftiau, fel ymddiriedolaethau tir cymunedol, lle na fyddai hynny'n briodol, dim ond i wneud yn siŵr bod prisiau tai yn cael eu cadw i lawr. Ond ydym, rydym ni'n sicr eisiau gwneud popeth y gallwn i sicrhau nad yw pobl yn dioddef camfanteisio pan fydd lesddaliadau yn dod i ben, ar ôl cyfnod o fwy na chanrif yn aml iawn.