Lleihau Anghydraddoldeb

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:06, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, wrth gwrs, bydd gwahaniaethau rhwng byrddau iechyd. Er enghraifft, Betsi Cadwaladr yw'r bwrdd iechyd sydd wedi perfformio orau yn hanesyddol o ran triniaeth canser yng Nghymru. Ond ceir anghydraddoldebau. Wrth gwrs, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a llesiant yn ymwybodol, rydym ni'n ceisio unioni'r anghydraddoldebau hynny a chymryd camau pan fo hynny'n angenrheidiol. Pan fo angen, er enghraifft, recriwtio, rydym ni'n ceisio recriwtio a gweithio gyda byrddau iechyd er mwyn recriwtio'r lefel briodol o staff meddygol sydd ei hangen arnynt i ddarparu'r gwasanaeth yr ydym yn credu sy'n briodol ac yn iawn i'r bobl sy'n byw ym mhob rhan o Gymru.