Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Brif Weinidog, byddwch chi’n ymwybodol fy mod i, am flynyddoedd bellach, wedi dadlau y dylai awdurdodau lleol fod â dyletswydd statudol i ddiogelu ein cofebion rhyfel. Rydw i’n cydnabod, fel rhan o goffáu y rhyfel byd cyntaf, fod eich Llywodraeth chi wedi lansio cynllun grant i gefnogi atgyweirio a chadw cofebion rhyfel yma yng Nghymru. Yn wir, rydw i yn deall bod grantiau o hyd at £10,000 ar gael o dan y cynllun. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa mor llwyddiannus y mae’r cynllun wedi bod hyd yn hyn? A hefyd, a fyddech chi’n fodlon ymrwymo i gyhoeddi dadansoddiad o ble mae’r arian hwnnw wedi ei dderbyn, fel y gallwn ni weld bod pob rhan o Gymru wedi elwa o’r arian yma?