Safleoedd o Ddiddordeb Hanesyddol

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative

6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi safleoedd o ddiddordeb hanesyddol ledled Cymru? OAQ51347

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 28 Tachwedd 2017

Mae yna 4,000 o henebion ar draws Cymru wedi cael eu rhestru, a thua 30,000 o adeiladau ar draws y wlad yn cael eu gwarchod drwy restru hefyd.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative

Brif Weinidog, byddwch chi’n ymwybodol fy mod i, am flynyddoedd bellach, wedi dadlau y dylai awdurdodau lleol fod â dyletswydd statudol i ddiogelu ein cofebion rhyfel. Rydw i’n cydnabod, fel rhan o goffáu y rhyfel byd cyntaf, fod eich Llywodraeth chi wedi lansio cynllun grant i gefnogi atgyweirio a chadw cofebion rhyfel yma yng Nghymru. Yn wir, rydw i yn deall bod grantiau o hyd at £10,000 ar gael o dan y cynllun. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa mor llwyddiannus y mae’r cynllun wedi bod hyd yn hyn? A hefyd, a fyddech chi’n fodlon ymrwymo i gyhoeddi dadansoddiad o ble mae’r arian hwnnw wedi ei dderbyn, fel y gallwn ni weld bod pob rhan o Gymru wedi elwa o’r arian yma?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:03, 28 Tachwedd 2017

Rydym yn hyderus iawn bod y cynllun wedi bod yn un llwyddiannus dros ben. Roeddem ni'n moyn sicrhau, wrth gofio’r ffaith bod canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf wedi bod gyda ni dros y blynyddoedd diwethaf, fod yna ffordd i sicrhau bod cofebion yn cael eu hailwneud a'u hadnewyddu mewn ffordd lle mae pobl yn gallu deall beth ydyn nhw a bod yna ddigon o falchder yn cael ei roi iddyn nhw hefyd. Rydym ni yn rhoi, wrth gwrs, arian i Cadw, er mwyn sicrhau bod arian cyfalaf gyda nhw hefyd. Nid oes problem gennyf i ynglŷn â sicrhau bod yna restr yn cael ei rhoi i Aelodau ynglŷn â ble mae’r arian wedi mynd. Rwy'n siŵr y gall hynny gael ei wneud, ac rydym ni’n hyderus bod y cynllun wedi bod yn llwyddiannus iawn.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 2:04, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, rwyf wedi siarad droeon yn y Siambr am yr angen i fanteisio ar dreftadaeth ddiwydiannol Merthyr Tudful yn rhan o strategaeth economaidd ar gyfer yr ardal gyfan, ac rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i ddiolch i'r trefnwyr a'r arbenigwyr lu a roddodd o'u hamser yn ddiweddar yn y digwyddiad treftadaeth ddiwydiannol a gynhaliwyd yng Nghastell Cyfarthfa, a ystyriodd ffyrdd newydd ac arloesol i ddatblygu rhai o'r safleoedd treftadaeth anhygoel a datblygu atyniad unigryw. A ydych chi'n cytuno, wrth geisio diogelu safleoedd hanesyddol, bod yn rhaid i ni ganfod ffyrdd o warchod dyfodol safleoedd fel y ffwrneisi chwyth yng Nghyfarthfa cyn i ni eu colli am byth, ac, ar yr un pryd, colli'r cyfleoedd posibl y maen nhw'n eu cynnig i gryfhau'r economi leol?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Ydw, ac rwy'n credu bod Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 wedi ein rhoi ar flaen y gad ymhlith gwledydd y DU o ran diogelu a rheoli'r amgylchedd hanesyddol. Mae cyfran fawr o'r Ddeddf honno wedi ei gweithredu erbyn hyn. Hefyd, wrth gwrs, soniais yn gynharach bod Cadw wedi dyrannu dros £22 miliwn o gyllid cyfalaf i gynorthwyo'r gwaith o gynnal a chadw adeiladau hanesyddol a henebion rhestredig yng Nghymru ers 2011, gyda tua £6.5 miliwn o gymorth refeniw ar gyfer cynnal a chadw. Felly, mae arian ar gael, ac rydym ni eisiau sicrhau ein bod ni'n gallu diogelu cymaint o dreftadaeth ddiwydiannol Cymru â phosibl.