Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Ydw, ac rwy'n credu bod Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 wedi ein rhoi ar flaen y gad ymhlith gwledydd y DU o ran diogelu a rheoli'r amgylchedd hanesyddol. Mae cyfran fawr o'r Ddeddf honno wedi ei gweithredu erbyn hyn. Hefyd, wrth gwrs, soniais yn gynharach bod Cadw wedi dyrannu dros £22 miliwn o gyllid cyfalaf i gynorthwyo'r gwaith o gynnal a chadw adeiladau hanesyddol a henebion rhestredig yng Nghymru ers 2011, gyda tua £6.5 miliwn o gymorth refeniw ar gyfer cynnal a chadw. Felly, mae arian ar gael, ac rydym ni eisiau sicrhau ein bod ni'n gallu diogelu cymaint o dreftadaeth ddiwydiannol Cymru â phosibl.