Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:42, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Ydw, mi ydwyf. Mae'n iawn i ddweud, er enghraifft, gyda CAMHS, bod y galw'n fwy na'r hyn a oedd ar gael. Nid oes unrhyw amheuaeth am hynny a dyna pam y gwnaethom ni roi'r £8 miliwn ychwanegol y flwyddyn wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed er mwyn ymdrin â hynny. Os edrychwn ni ar y cyllid newydd sydd yn cael ei gyhoeddi ar gyfer iechyd meddwl, y tu hwnt i'r cynnydd cyffredinol, targedwyd £22 miliwn o gyllid newydd at wella mynediad at nifer o wasanaethau penodol: felly, £8 miliwn y flwyddyn ar gyfer iechyd meddwl pobl hŷn; yr £8 miliwn yr wyf i newydd ei grybwyll ar gyfer CAMHS; £3 miliwn y flwyddyn ar gyfer therapïau seicolegol ar gyfer gwasanaethau i oedolion; mwy na £0.5 miliwn y flwyddyn ar gyfer gwasanaethau amenedigol cymunedol, a £1.5 miliwn y flwyddyn mewn gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol i gefnogi ymhellach y Mesur yn 2012.