Grŵp 3. Gwybodaeth i denantiaid a darpar denantiaid: gofynion ar Weinidogion Cymru (Gwelliannau 7, 8)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:37, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Llywydd. Mae'r grŵp hwn o welliannau yn ymwneud ag adran 8, sef dyletswyddau Gweinidogion Cymru i ddarparu gwybodaeth i landlordiaid. Wrth gwrs, rwy'n rhannu dymuniad David Melding i sicrhau bod pob parti perthnasol yn ymwybodol o'r diddymu, ac rwy'n ymrwymo i wneud pob ymdrech i sicrhau bod pob landlord yn ymwybodol o'i ddyletswydd yn hyn o beth.

Yn wir, fe wnaeth gwelliannau'r Llywodraeth yng Nghyfnod 2 ddiwygio'r Bil yn dilyn argymhelliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddarparu copi o'r wybodaeth berthnasol i gyrff sy'n cynrychioli tenantiaid, ac i bennu gwybodaeth ofynnol y mae'n ofynnol i landlordiaid cymwys ei darparu i denantiaid ynghylch diddymu. Felly, cryfhawyd y Bil yng Nghyfnod 2.

Mae gwelliant 7 yn ceisio rhoi dyletswydd absoliwt ar Weinidogion Cymru i anfon yr wybodaeth at landlordiaid yng Nghymru, ac mae gwelliant 8 yn gosod dyletswydd cymwysedig ar Weinidogion Cymru i anfon yr wybodaeth at landlordiaid y tu allan i Gymru. Fodd bynnag, rwy'n gofyn i'r Aelodau wrthod y gwelliannau hyn. Rydym ni o'r farn nad oes angen dyletswydd absoliwt ar Weinidogion Cymru i ddarparu'r wybodaeth i landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn oherwydd ein bod ni'n gwbl ymwybodol o'r holl landlordiaid cymwys yng Nghymru a byddwn yn cysylltu â nhw yn unol â hynny.

Hefyd, nid ydym ni o'r farn y dylid diwygio'r Bil fel bod y ddyletswydd gymwysedig bresennol i hysbysu landlordiaid yn berthnasol i landlordiaid y tu allan i Gymru yn unig. Mae'r drafft presennol yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar drydydd parti, sef yr Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau, i roi i ni fanylion y landlordiaid cymdeithasol o'r tu allan i Gymru sy'n berchen ar gartrefi i'w rhentu yng Nghymru.

Felly, gofynnaf i'r Aelodau wrthod y gwelliannau hyn.