Grŵp 3. Gwybodaeth i denantiaid a darpar denantiaid: gofynion ar Weinidogion Cymru (Gwelliannau 7, 8)

– Senedd Cymru am 5:33 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:33, 28 Tachwedd 2017

Y grŵp nesaf, felly, o welliannau yw grŵp 3, sy'n ymwneud â gwybodaeth i denantiaid a darpar denantiaid a gofynion ar Weinidogion Cymru. Gwelliant 7 yw'r prif welliant. Rydw i'n galw ar David Melding i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp. David Melding. 

Cynigiwyd gwelliant 7 (David Melding).

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:33, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Diben gwelliant 7—a hoffwn gynnig gwelliant 7—yw ymgorffori'r argymhellion a wneir yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sef bod adran 8 o'r Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwybodaeth sydd i'w darparu i landlordiaid a thenantiaid am effeithiau'r Bil hwn. Mae'r gwelliant hwn yn gosod dyletswydd absoliwt ar Weinidogion Cymru i hysbysu'r holl landlordiaid cymwys yng Nghymru. Fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, mae'r ddyletswydd i wneud hynny yn un gymwysedig yn unig. Mae gwelliant 8 yn welliant canlyniadol ar welliant 7, sy'n sicrhau bod y prif welliant yn effeithiol.

Llywydd, mae diben y prif welliant hwn yn syml, a, gobeithio, yn llai dadleuol—er efallai mai gobaith ofer yw hwnnw, bydd yn rhaid inni weld. Rwy'n credu os oedd un agwedd drwy gydol Cyfnod 1 a gafodd gytundeb cyffredinol y Pwyllgor, honno oedd bod angen i'r wybodaeth i denantiaid a darpar denantiaid fod yn fanwl ac wedi'i dosbarthu'n eang. Dyma hefyd farn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, fel y dangosir yn ei argymhelliad, yr wyf yn ei gyflwyno yn y grŵp hwn. Dyma hefyd pam y byddaf i'n cefnogi gwelliant Bethan Jenkins yn y grŵp nesaf.

Credaf ei bod yn hanfodol bwysig bod yr holl denantiaid yn ymwybodol o'r opsiynau sydd ar gael iddynt, ynghyd â dyddiadau arwyddocaol yn y polisi a'r ystyriaethau ariannol y mae angen iddynt fod yn ymwybodol ohonynt, os ydynt yn dymuno prynu eu heiddo. Nodaf yn nhystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei fod yn amharod i ymrwymo dyletswydd absoliwt oherwydd efallai y bydd rhai landlordiaid yn Lloegr, ac felly'n gweithredu gydag un neu ddau o denantiaethau yng Nghymru nad ydym yn ymwybodol ohonynt. Roedd hon yn ddadl a ategwyd yn wir yng Nghyfnod 2 y Bil.

Ond nid yw'r ddadl hon yn argyhoeddi. Mae'r gwelliant hwn yn cynnig y rhoddir dyletswydd absoliwt ar Lywodraeth Cymru i hysbysu'r holl landlordiaid cymwysedig yng Nghymru. Mae'r ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i landlordiaid y tu allan i Gymru yn parhau i fod yn gymwysedig, sy'n golygu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd pob cam rhesymol i'w hysbysu. Mae hyn yn golygu, pe na ellid dod o hyd i gwpl o landlordiaid y tu allan i Gymru er gwaethaf pob cam rhesymol, na ellir ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi methu yn ei dyletswydd i hysbysu dan y gwelliant hwn.

Mae diffyg dyletswydd yn y cyswllt hwn yn lleihau unrhyw bwysau ar y Llywodraeth iddynt ei gwneud yn flaenoriaeth absoliwt i sicrhau bod holl denantiaid Cymru yn cael eu hysbysu o'r diddymiad a'u hysbysu o'r manylion ynddo. Mae'n amlwg bod nod i wanhau unrhyw ddyletswydd statudol o ran eu cyfrifoldebau eu hunain o ran hysbysu'r tenantiaid hynny yng Nghymru a gaiff eu heffeithio gan y Bil hwn. Mae CLAC wedi codi'r pwynt hwn ac mae'n rhywbeth yr ydym yn ei adleisio ar yr ochr hon i'r Siambr, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r gwelliant hwn. Diolch i chi.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:37, 28 Tachwedd 2017

Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans. 

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Llywydd. Mae'r grŵp hwn o welliannau yn ymwneud ag adran 8, sef dyletswyddau Gweinidogion Cymru i ddarparu gwybodaeth i landlordiaid. Wrth gwrs, rwy'n rhannu dymuniad David Melding i sicrhau bod pob parti perthnasol yn ymwybodol o'r diddymu, ac rwy'n ymrwymo i wneud pob ymdrech i sicrhau bod pob landlord yn ymwybodol o'i ddyletswydd yn hyn o beth.

Yn wir, fe wnaeth gwelliannau'r Llywodraeth yng Nghyfnod 2 ddiwygio'r Bil yn dilyn argymhelliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddarparu copi o'r wybodaeth berthnasol i gyrff sy'n cynrychioli tenantiaid, ac i bennu gwybodaeth ofynnol y mae'n ofynnol i landlordiaid cymwys ei darparu i denantiaid ynghylch diddymu. Felly, cryfhawyd y Bil yng Nghyfnod 2.

Mae gwelliant 7 yn ceisio rhoi dyletswydd absoliwt ar Weinidogion Cymru i anfon yr wybodaeth at landlordiaid yng Nghymru, ac mae gwelliant 8 yn gosod dyletswydd cymwysedig ar Weinidogion Cymru i anfon yr wybodaeth at landlordiaid y tu allan i Gymru. Fodd bynnag, rwy'n gofyn i'r Aelodau wrthod y gwelliannau hyn. Rydym ni o'r farn nad oes angen dyletswydd absoliwt ar Weinidogion Cymru i ddarparu'r wybodaeth i landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn oherwydd ein bod ni'n gwbl ymwybodol o'r holl landlordiaid cymwys yng Nghymru a byddwn yn cysylltu â nhw yn unol â hynny.

Hefyd, nid ydym ni o'r farn y dylid diwygio'r Bil fel bod y ddyletswydd gymwysedig bresennol i hysbysu landlordiaid yn berthnasol i landlordiaid y tu allan i Gymru yn unig. Mae'r drafft presennol yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar drydydd parti, sef yr Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau, i roi i ni fanylion y landlordiaid cymdeithasol o'r tu allan i Gymru sy'n berchen ar gartrefi i'w rhentu yng Nghymru.

Felly, gofynnaf i'r Aelodau wrthod y gwelliannau hyn.

Photo of David Melding David Melding Conservative

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae'n debyg y byddwch wedi gweld erbyn hyn fy mod yn eithaf parod i dderbyn fy nhynged. Ond mae'n rhaid imi ddweud ei bod yn gysyniad newydd nad oes angen dyletswydd absoliwt arnom oherwydd ein bod eisoes yn gwybod pwy ydyn nhw. Wel, wyddoch chi, mae hynny'n mynd i fod yn drylwyr dros y blynyddoedd, onid yw, os bydd gennych chi ddull tebyg mewn meysydd eraill? Rwy'n credu'n gryf ei bod yn bwysig bod gennych chi ddyletswydd absoliwt, oherwydd hyd yn oed os ydych chi'n ymwybodol, a'ch bod yn iawn eich bod yn gwybod am yr holl landlordiaid ar hyn o bryd, rwy'n credu y dylid ei nodi'n gwbl glir er mwyn diogelu hawliau tenantiaid yn llwyr a bod hyn yn ddyletswydd. Nid oes unrhyw reswm da dros beidio â gwneud hynny, a dyna pam mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi eich annog i wneud hynny. Dylech, hyd yn oed mor ddiweddar â hyn, dderbyn y pwynt.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:39, 28 Tachwedd 2017

Os na dderbynnir gwelliant 7, bydd gwelliant 8 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 7.

Gwelliant 7: O blaid: 15, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 567 Gwelliant 7

Ie: 15 ASau

Na: 35 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Methodd gwelliant 8.