Grŵp 3. Gwybodaeth i denantiaid a darpar denantiaid: gofynion ar Weinidogion Cymru (Gwelliannau 7, 8)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:33, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Diben gwelliant 7—a hoffwn gynnig gwelliant 7—yw ymgorffori'r argymhellion a wneir yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sef bod adran 8 o'r Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwybodaeth sydd i'w darparu i landlordiaid a thenantiaid am effeithiau'r Bil hwn. Mae'r gwelliant hwn yn gosod dyletswydd absoliwt ar Weinidogion Cymru i hysbysu'r holl landlordiaid cymwys yng Nghymru. Fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, mae'r ddyletswydd i wneud hynny yn un gymwysedig yn unig. Mae gwelliant 8 yn welliant canlyniadol ar welliant 7, sy'n sicrhau bod y prif welliant yn effeithiol.

Llywydd, mae diben y prif welliant hwn yn syml, a, gobeithio, yn llai dadleuol—er efallai mai gobaith ofer yw hwnnw, bydd yn rhaid inni weld. Rwy'n credu os oedd un agwedd drwy gydol Cyfnod 1 a gafodd gytundeb cyffredinol y Pwyllgor, honno oedd bod angen i'r wybodaeth i denantiaid a darpar denantiaid fod yn fanwl ac wedi'i dosbarthu'n eang. Dyma hefyd farn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, fel y dangosir yn ei argymhelliad, yr wyf yn ei gyflwyno yn y grŵp hwn. Dyma hefyd pam y byddaf i'n cefnogi gwelliant Bethan Jenkins yn y grŵp nesaf.

Credaf ei bod yn hanfodol bwysig bod yr holl denantiaid yn ymwybodol o'r opsiynau sydd ar gael iddynt, ynghyd â dyddiadau arwyddocaol yn y polisi a'r ystyriaethau ariannol y mae angen iddynt fod yn ymwybodol ohonynt, os ydynt yn dymuno prynu eu heiddo. Nodaf yn nhystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei fod yn amharod i ymrwymo dyletswydd absoliwt oherwydd efallai y bydd rhai landlordiaid yn Lloegr, ac felly'n gweithredu gydag un neu ddau o denantiaethau yng Nghymru nad ydym yn ymwybodol ohonynt. Roedd hon yn ddadl a ategwyd yn wir yng Nghyfnod 2 y Bil.

Ond nid yw'r ddadl hon yn argyhoeddi. Mae'r gwelliant hwn yn cynnig y rhoddir dyletswydd absoliwt ar Lywodraeth Cymru i hysbysu'r holl landlordiaid cymwysedig yng Nghymru. Mae'r ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i landlordiaid y tu allan i Gymru yn parhau i fod yn gymwysedig, sy'n golygu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd pob cam rhesymol i'w hysbysu. Mae hyn yn golygu, pe na ellid dod o hyd i gwpl o landlordiaid y tu allan i Gymru er gwaethaf pob cam rhesymol, na ellir ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi methu yn ei dyletswydd i hysbysu dan y gwelliant hwn.

Mae diffyg dyletswydd yn y cyswllt hwn yn lleihau unrhyw bwysau ar y Llywodraeth iddynt ei gwneud yn flaenoriaeth absoliwt i sicrhau bod holl denantiaid Cymru yn cael eu hysbysu o'r diddymiad a'u hysbysu o'r manylion ynddo. Mae'n amlwg bod nod i wanhau unrhyw ddyletswydd statudol o ran eu cyfrifoldebau eu hunain o ran hysbysu'r tenantiaid hynny yng Nghymru a gaiff eu heffeithio gan y Bil hwn. Mae CLAC wedi codi'r pwynt hwn ac mae'n rhywbeth yr ydym yn ei adleisio ar yr ochr hon i'r Siambr, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r gwelliant hwn. Diolch i chi.