2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:21, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y Tŷ, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gennych chi, os gwelwch yn dda? Un o'r rhain yw datganiad gan y Gweinidog dros yr economi a thrafnidiaeth ar y gorwariant posibl a nodwyd yn ei ddatganiad ysgrifenedig ddoe o fwy na £50 miliwn ar ffordd Blaenau'r Cymoedd, ar y rhan y maen nhw'n ei wella ar hyn o bryd ar y pen dwyreiniol, a goblygiadau y gorwariant hwnnw ar ei gyllideb ar gyfer prosiectau ledled gweddill Cymru. Mae £50 miliwn a throsodd yn wariant cyfalaf sylweddol, ac rwy'n cymryd na chyllidwyd ar ei gyfer, ond fe fydd yna oblygiadau o ran y gyllideb honno. Ac mae'n bwysig bod gennym ni, fel Aelodau Cynulliad, atebion i hynny pan fyddwn ni dan bwysau yn ein cymunedau ni i ddweud beth fydd effaith debygol hynny. Mewn byd delfrydol, da o beth fyddai inni gael datganiad llafar, os oes modd, oherwydd, hyd yma, ymdriniwyd â'r ymchwiliad, a'r gorwariant, a gomisiynwyd gan y Gweinidog drwy ddatganiadau ysgrifenedig ac ni bu cyfle i holi'r Gweinidog ar lawr y cyfarfod llawn yma. Felly gobeithio y byddwch yn gofyn am ddatganiad llafar ar ran yr Aelodau gan y Gweinidog cyn toriad y Nadolig.

Yn ail, yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ddoe—gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet ac aelodau eraill o'r Llywodraeth yno yn gweld y gorau o amaethyddiaeth Cymru a'r gorau o'r economi wledig. Sylw a wneir dro ar ôl tro—ac, a bod yn deg, gwn fod y Gweinidog wedi gwneud cynnydd ar hyn—yw ynghylch biwrocratiaeth yn y sector amaethyddol. Ond ceir y teimlad, ac mewn rhai achosion mae hynny'n realiti, fod cryn dipyn o hynny'n digwydd mewn rhai cynlluniau a gefnogir gan y Llywodraeth. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch pa fesurau sydd wedi cael eu cyflwyno gan y Llywodraeth dros yr 16 mis diwethaf ers yr etholiad i geisio chwalu rhai o'r mythau hynny sy'n bodoli, ac mewn gwirionedd sut mae cael trefn ar y fiwrocratiaeth hon sy'n atal ceisiadau rhag cael eu cyflwyno ac sy'n ei gwneud yn hunllef fiwrocrataidd i rai ymgeiswyr? Gwn nad yw hynny'n fwriad gan y cynlluniau, ond, eto i gyd, mae'r teimlad hwn yn bodoli mewn gwirionedd mewn rhai achosion ac mae pobl yn teimlo mai peth beichus iawn yw gwneud cais am rai o'r grantiau hyn.