2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:19, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Ar y datganiad ar gredyd cynhwysol, gwyddom fod amserlen wedi ei diwygio ar gyfer cyflwyno credyd cynhwysol yn dilyn y newidiadau yng nghyllideb yr Hydref ar gyfer y DU, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae hynny'n cadarnhau y bydd pob canolfan byd gwaith, ac eithrio Caerdydd, yn gweithredu'r broses gyflwyno credyd cynhwysol ychydig fisoedd yn hwyrach. Rydym yn croesawu'n fawr yr oedi hwn yn y broses gyflwyno. Rydym wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU i'w weithredu ers peth amser. Mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi ysgrifennu at y Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth yn gofyn am fwy o fanylion mewn cysylltiad â newidiadau yng nghyllideb yr Hydref ar gyfer y DU, yn enwedig o ran hawlwyr cyffredinol sy'n derbyn costau tai, i ddeall sut y bydd trefniadau cymorth newydd yn gweithio ar gyfer hawlwyr wrth iddyn nhw symud tuag at gredyd cymhwysol. Mae'r Gweinidog hefyd yn ceisio sicrwydd y bydd yr adran Gwaith a Phensiynau yn gallu cynnig cymorth ariannol i hawlwyr y credyd cynhwysol dros gyfnod y Nadolig gan fy mod i'n credu, Llywydd, fod nifer fawr ohonom ni yn y Siambr wedi bod yn bryderus iawn am yr adroddiadau y gallai hawlwyr y credyd cynhwysol fod dan anfantais ddifrifol iawn, yn enwedig os cân nhw eu talu yn wythnosol.

Rydym ni hefyd yn deall bod ceisiadau ar gyfer credyd cynhwysol yn Gymraeg yn bosibl ar hyn o bryd dim ond drwy wasanaeth ffôn am ddim a ddarperir gan ganolfan gwasanaethau yr adran Gwaith a Phensiynau. Fodd bynnag, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ddiweddar eu bod yn gweithio tuag at gael ceisiadau am gredyd cynhwysol yn Gymraeg ar-lein wrth iddyn nhw symud at y cam datblygu terfynol.

Felly, rwy'n credu ein bod yn falch, yn gyffredinol, eu bod nhw wedi cydnabod y problemau sy'n bodoli o ran credyd cynhwysol. Bydden ni wedi hoffi eu gweld nhw'n cydnabod hyn yn gynt. Bydden ni hefyd yn hoffi eu gweld nhw'n cydnabod bod problem wirioneddol gyda phobl yn gyffredinol yn gweld gostyngiad yn eu hincwm o ganlyniad i gyflwyno'r credyd cynhwysol. Ac er ein bod yn croesawu'r ffaith bod y cyfnod aros o saith diwrnod ar gyfer y taliad cyntaf o gredyd cynhwysol wedi'i ddiddymu, rydym yn dal i bryderu bod hawlwyr y credyd cynhwysol yn aros am fwy na chwe wythnos am eu taliad cyntaf.