2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:31, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am y cwestiynau pwysig iawn hynny. O ran casglu gwastraff domestig, mater i awdurdodau lleol unigol yn sicr yw penderfynu sut i ddarparu gwasanaethau casglu yn y modd gorau i'w trigolion. Mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau casglu wythnosol cynhwysfawr ar gyfer deunydd ailgylchu sych a gwastraff bwyd, gan ystyried mai ychydig iawn sydd gan y trigolion sy'n gwneud defnydd llawn o'r gwasanaeth ailgylchu wythnosol i'w roi yn y biniau neu fagiau gwastraff gweddillol. Yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, bydd yr Aelod wedi clywed ateb lle cafwyd canmoliaeth i Gymru sydd â chyfradd eithriadol dda o ran ailgylchu, ac yn gwbl briodol felly, Byddwn i'n dweud wrth yr Aelod, os yw ei awdurdod lleol ef yn cael trafferth â hyn, y dylen nhw ofyn am gymorth gan awdurdodau lleol eraill sydd ag ymarfer da iawn yn y maes hwn.

O ran cam-drin gwŷr ar yr aelwyd, fe welais i'r rhaglen yr oedd yr Aelod yn cyfeirio ati, ac mae'n fater difrifol iawn. Ac, wrth gwrs, mae angen inni weithio tuag at gael Cymru'n wlad lle mae trais yn erbyn unrhyw un mewn unrhyw sefyllfa yn gwbl annerbyniol. Mae ein Ddeddf arloesol yn ymdrin â thrais yn erbyn menywod a merched, sydd yn broblem ddifrifol iawn—lleddir dwy fenyw yr wythnos o hyd o ganlyniad i drais ar sail eu rhyw—ond, wrth gwrs, mae angen inni wneud yn siŵr bod gwasanaethau yn bodoli ar gyfer holl ddioddefwyr cam-drin ar yr aelwyd lle bynnag y bo hynny'n codi.