2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:28, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y Tŷ, a gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, ar sbwriel a chasgliadau bagiau sbwriel—pethau sydd yn aml yn cael eu codi yma, ond nid yn y rhan hon o Gymru yr wyf yn mynd i gyfeirio ati. Codwyd pryderon gyda mi yn Sir y Fflint, o Kinnerton Uchaf i Dreffynnon, nad yw pobl mwyach yn cael gadael unrhyw fagiau bin du ychwanegol ochr yn ochr â bagiau bin du a ddarparwyd gan y cyngor. Dywedodd un etholwr wrthyf ei bod hi wedi ffonio Neuadd y Sir a dywedwyd wrthi y penderfynwyd ar hynny er mwyn gorfodi pobl i ailgylchu, ond ychwanegodd:

Mae gen i a llawer un arall sbwriel na ellir ei ailgylchu y mae'n rhaid cael gwared arno o bryd i'w gilydd, a dyma pryd mae polisi'r cyngor yn chwalu ac yn arwain at dipio anghyfreithlon.

Dywedodd fod y polisi gan y Cyngor i godi tâl o £50 am gasglu un eitem, yn ei geiriau hi, yn warthus, ac nid yw'n gallu deall o gwbl pam mae'n well gan y Cyngor anfon lorïau unigol i ymdrin â thipio anghyfreithlon yn hytrach na chasglu popeth ar yr un pryd o'r palmant. Daeth hi i'r casgliad hwn:

Rwy'n ysgrifennu atoch chi i'ch annog i godi'r mater hwn—un o'r pethau hynny sy'n effeithio'n wirioneddol ar fywydau pobl o ddydd i ddydd.

Ac felly rwy'n ei godi yn y Siambr gyda chi heddiw.

Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad ar gymorth i wŷr sy'n dioddef o gamdriniaeth ar yr aelwyd? Efallai eich bod wedi gweld y sylw a roddwyd yn y wasg i loches dynion yn Sir y Fflint yr wythnos diwethaf—yr uned diogelwch rhag cam-drin ar yr aelwyd yn Shotton. Wel, nid yw'r uned wedi ei lleoli yno mewn gwirionedd ond yn cael ei chynnal gan—. Ac roedd yn adrodd am ddyn a oedd wedi dianc rhag ei wraig a oedd yn ymosod arno ac wedi cael ei symud i loches, gan ddweud ei fod wedi mynd i'r fath ystâd fel ei fod yn rhy ofnus i adael y tŷ. Ymwelais—neu fe ddylwn i ddweud ymwelais eto—â'r uned diogelwch rhag cam-drin ar y aelwyd ddydd Gwener diwethaf, ar eu cais nhw. Roedden nhw eto yn pwysleisio ac yn cydnabod y dystiolaeth sy'n dangos bod menywod a merched yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan drais, a bod hon yn drosedd yn erbyn hawliau dynol ac yn achos ac yn ganlyniad anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Ond maen nhw hefyd wedi dewis darparu gwasanaeth niwtral o ran rhyw, oherwydd eu bod yn dweud bod cam-drin ar yr aelwyd a thrais rhywiol yn effeithio ar ddynion a menywod. Dywedasant wrthyf fod y lloches ar gyfer dynion wedi cael pum atgyfeiriad ar y diwrnod cyntaf ar gyfer dim ond dau le, ac mae wedi bod yn llawn ers hynny, er bod 30 o atgyfeiriadau wedi eu gwrthod, yn rhannol oherwydd ei bod yn llawn, yn rhannol oherwydd asesiadau risg; mae rhestrau aros yn eu lle ar hyn o bryd; maent yn cael atgyfeiriadau ledled Cymru, a ledled y DU, ac, er enghraifft, mae rhywun sy'n preswylio gyda nhw ar hyn o bryd wedi dod o Sir Conwy, nad yw'n darparu unrhyw welyau ar gyfer dynion, ond yn eu hatgyfeirio i Sir y Fflint am nad oes unman arall i fynd iddo. Deallaf mai hon yw'r unig loches i ddynion yn y Gogledd, sydd yn cael ei hariannu ar hyn o bryd gan y Cyngor, gan gefnogi pobl hyd fis Mawrth 2018, gyda chyllid ar gyfer dioddefwyr sy'n fenywod hyd 2019. A gaf i alw am ddatganiad yn unol â hynny?