3. Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 3:27, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, a gaf innau hefyd ddiolch i chi am y datganiad heddiw a'ch croesawu i'ch swydd newydd? Llongyfarchiadau. Hefyd, rwy'n dilyn yr Aelodau eraill wrth dalu teyrnged i Carl Sargeant am ei waith pwysig yn y maes hwn dros flynyddoedd lawer. Nid yw'n faes hawdd i ymdrin ag ef, ond fe wnaeth hynny gyda phenderfyniad a steil. Mae'n rhyfedd nad yw ef yma yn y Siambr hon pan fo'r mater hwn yn cael ei drafod.

Hoffwn ddweud ychydig o eiriau, o gofio y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lansio ein hymchwiliad i blant sy'n derbyn gofal, neu blant sydd wedi cael profiad o dderbyn gofal fel y mae'n well gennym eu galw, yn y flwyddyn newydd. Bydd yn ymchwiliad pellgyrhaeddol a fydd yn bennaf yn ystyried effeithiolrwydd y gwariant ar y maes hwn o gyllideb Cymru, oherwydd fel dywedasoch, mae'n faes sylweddol o wariant, ac rydym ni'n dymuno cael y budd mwyaf posibl ar gyfer y plant mewn angen hynny yr ydych chi wedi'u nodi. Mae hefyd yn bwnc y mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn bwriadu dychwelyd ato gam wrth gam dros weddill tymor y Cynulliad hwn, yn hytrach na'i fod yn ymchwiliad untro a fydd wedyn yn cael ei adael. Rydym ni'n credu ei fod yn ddigon pwysig i'w ailystyried.

Mae'r ffigurau yr ydych chi wedi eu crybwyll yn cyfiawnhau'r dull. Mae nifer y plant mewn gofal yng Nghymru yn 90 o blant fesul 10,000 o bobl, o'i gymharu â chyfradd is o 60 fesul 10,000 o bobl yn Lloegr. Felly, os ydych chi'n cyfuno hynny â'r ystadegyn bod gwariant ar wasanaethau wedi cynyddu'n sylweddol ers 2011, yn amlwg, mae llawer o gwestiynau y mae angen rhoi sylw iddynt.

Gan droi at eich datganiad yn arbennig, mae eich datganiad yn canolbwyntio ar gyflawni'r rhaglen lywodraethu. A gaf i ofyn i chi—? Rydych chi'n nodi yn helaeth yn eich datganiad bod cydweithio yn hollbwysig i helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hamcanion. Sut y byddwch chi'n sicrhau bod y cydweithio effeithiol hwnnw rhwng gweithwyr proffesiynol rheng flaen, rheolwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn gweithio mewn gwirionedd yn ymarferol ar lawr gwlad? Mae'n amcan clodwiw ar gyfer strategaeth, ond mae angen iddo fod yn fwy na hynny. Rydym ni wedi clywed llawer o amcanion clodwiw yn y Siambr hon a llawer o strategaethau dros lawer o flynyddoedd—gallaf weld y bydd yr ysgrifennydd dros gyllid yn cytuno â mi—ond mae'n ymwneud â throsi'r amcanion hynny yn gynnydd gwirioneddol ar lawr gwlad yr hoffai pob un ohonom ei weld.

Ac yn hollbwysig, mae'n debyg, pa adnoddau fydd yn cael eu hymrwymo i ddarparu'r agwedd hon ar 'Ffyniant i Bawb'? Nid yw'r gost o hyrwyddo gwaith traws-lywodraethol bob amser yn hawdd i'w hamcangyfrif, rwy'n gwybod, ond mae angen cael rhyw syniad sylfaenol o beth fydd y gost a sut y caiff hynny ei ariannu dros y blynyddoedd sydd i ddod—y tu hwnt i'ch sylw yn gynharach, mewn ymateb i Michelle Brown rwy'n credu, na ddylech chi weld hyn fel darnau bach o gyllid mewn gwahanol gyllidebau, ond dylech chi fod yn edrych ar y darlun cyfannol.

A gaf i groesawu, fel y gwnaethoch chi, waith fy nghyd-Aelod David Melding a grŵp cynghori'r gweinidog dros gryn amser erbyn hyn? Gwn eu bod wedi gwneud llawer o waith da yn y maes hwn. Dros amser, hoffai pawb ohonom weld gostyngiad yn nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal, ond wrth gwrs mae'n rhaid cydbwyso hyn ag angen i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar y plant hynny sydd angen derbyn gofal, o ran y ffordd y mae ei angen arnynt, a phan fo ei angen arnynt. Felly, sut ydych chi'n bwriadu sicrhau, o dan yr amgylchiadau hyn, bod gofal wedi'i deilwra i anghenion unigol pobl ifanc a'n bod yn osgoi pecyn gofal sydd yr un fath i bawb?

Rwy'n credu eich bod wedi rhagweld fy nghwestiwn yn gynharach, pan wnaethoch chi sôn am—wel, dydw i ddim yn meddwl eich bod wedi ei alw'n 'gydgynhyrchu' ond yn sicr mae'r egwyddorion o ganolbwyntio ar y dinesydd a theilwra gofal i anghenion penodol yr unigolyn yn flaenoriaeth yn eich meddwl, rwy'n credu. Ac rwy'n credu y gall hynny fod yn wahaniaeth mawr yma, y tu hwnt i'r materion cyllido. Os gallwch chi roi'r plentyn sydd wedi cael profiad o dderbyn gofal wrth wraidd y broses honno, nid yn unig wrth wraidd gofal, ond wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau wrth benderfynu sut maen nhw'n mynd i dderbyn gofal, yna gallwch wneud gwahaniaeth mawr fel Gweinidog drwy gyflawni'r nod hwnnw.

Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae angen inni, wrth gwrs, roi sylw i'r mater o beth sy'n digwydd ar ôl gofal, unwaith eto, rhywbeth y gwnaethoch chi ei grybwyll. Rwy'n croesawu eich uchelgais i dynnu baich y dreth gyngor oddi ar bobl ifanc sy'n gadael gofal tan eu bod yn 25 oed. Credaf fod llawer o botensial i hynny ac mae wir yn werth ei archwilio. Mae hwnnw'n ddatblygiad da. Yn ystadegol, gwyddom fod oedolion sydd wedi bod drwy'r system ofal yn fwy tebygol o ddioddef problemau, gan gynnwys camddefnyddio cyffuriau, ac yn fwy tebygol o fod yn y carchar. Mae cyfran y boblogaeth sydd yn y carchar ac sydd wedi bod yn derbyn gofal yn nodedig ac mae'n amlwg yn ceisio dweud rhywbeth wrthym ni.

Rydych chi wedi dweud hefyd yn eich datganiad bod hyd at 30 y cant o bobl ddigartref wedi bod yn derbyn gofal ar ryw adeg. Felly, sut ydym ni am sicrhau bod gofal yn parhau ar ryw ffurf, cyhyd ag y bo modd, ac nad yw'r cyfan yn dod i ben pan fydd person ifanc yn cyrraedd 18 oed, oherwydd yn rhy aml maen nhw'n cael eu hystyried yn oedolion ar yr adeg honno, a gwyddom, mewn gwirionedd, nad ydych chi'n sydyn yn mynd o fod yn derbyn gofal i fod allan ar eich pen eich hun yn y byd pan fo'r cloc yn taro 12 a'ch bod yn sydyn yn 18 oed. Mae angen cymorth ar bobl ar ôl hynny. A dydw i ddim yn meddwl ei fod wedi bod ar gael bob amser neu nad yw wedi bod yn amlwg bob amser yn y gorffennol. Rwy'n credu unwaith eto bod hwn yn faes y gallwch chi fel Gweinidog wneud rhai newidiadau mawr, mewn gwirionedd, i'r ffordd y mae plant sy'n cael profiad o dderbyn gofal neu blant sy'n derbyn gofal yn cael gofal yng Nghymru. Ac rwy'n dymuno llwyddiant i chi yn y fenter honno ac yn edrych ymlaen at weithio gyda chi pan fydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dechrau ein hymchwiliad i'r maes pwysig hwn y flwyddyn nesaf.