3. Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal

– Senedd Cymru am 2:49 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:49, 28 Tachwedd 2017

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ar wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ac rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Huw Irranca-Davies. 

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:50, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein dull cydweithredol o wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru.

Mae'n amlwg y ceir consensws ymhlith yr Aelodau o'r holl bleidiau y dylai plant sy'n derbyn gofal gael yr un dechrau mewn bywyd a chyfleoedd â phob plentyn arall. Rydym yn nodi hyn yn glir fel ein gweledigaeth a'n hymrwymiad i blant sy'n derbyn gofal yn y rhaglen lywodraethu 'Symud Cymru Ymlaen' a'r strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb'. Roeddwn i'n falch o gael y cyfle i drafod y dull traws-lywodraethol i wireddu'r weledigaeth hon â fy nghyd-Aelodau o'r Cabinet yn fy nghyfarfod Cabinet cyntaf yn gynharach y mis hwn.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi aros yn gyson uchel. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 5,662 o blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, a bod tua 700 o bobl ifanc yn gadael gofal bob blwyddyn. Drwy ganolbwyntio yn fwy ar atal ac ymyrraeth gynnar, rwyf eisiau gweld gostyngiad yn nifer y plant sy'n dod i mewn i ofal, gan barhau i sicrhau y gwneir y penderfyniadau cywir ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Ni ellir cyflawni hyn heblaw drwy ddefnyddio dull cydweithredol, drwy weithio gyda gweithwyr proffesiynol rheng flaen, rheolwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau.

Nawr, rwy'n credu fy mod i ar dir cadarn wrth ddweud bod pob un ohonom yn dymuno gweithio mewn modd cydweithredol. Ac i mi, mae cydweithio i wella bywydau plant sy'n derbyn gofal yn un o'r cyfleoedd gorau sydd gennym i ddangos gwerth gwaith traws-lywodraethol.

Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o blant yn ffynnu wrth gael eu caru ac wrth dderbyn gofal yn eu teuluoedd eu hunain. Ond, wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu y dylid gadael plant gyda'u teuluoedd doed a ddelo. Rydym yn cydnabod bod adegau pan fo'n rhaid i awdurdodau ymyrryd er lles a diogelwch plant. Fodd bynnag, po fwyaf y gallwn ni helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd yn ystod adegau anodd, drwy gynnig y lefel gywir o gymorth yn yr amgylchedd cywir, y mwyaf y gallwn ni ei wneud ar gyfer y plant nad ydyn nhw'n gallu aros gartref.

Rwyf i wedi penderfynu y bydd y grŵp cynghori'r gweinidog a sefydlwyd gan y cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn parhau. Mae'r grŵp hwn yn allweddol wrth arwain y gwaith hwn a fy nghynghori i, a daw ei aelodaeth o bob rhan o'r Llywodraeth ac o bob sector sy'n darparu gwasanaethau uniongyrchol i deuluoedd. Cyfarfûm â'r Cadeirydd, yr Aelod Cynulliad David Melding, yr wythnos diwethaf i drafod gwaith arloesol y grŵp cynghori hwn. Mae David wedi bod yn arwain y gwaith hwn yn fedrus ac rwy'n falch o gadarnhau ei fod wedi cytuno i barhau yn y swyddogaeth hon.

Mae cyflawni ein cydweledigaeth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn gofyn am ymagwedd system gyfan ac rwy'n falch ein bod ni wedi gallu cynorthwyo drwy ddarparu cyllid hael gan y Llywodraeth. Dim ond eleni, rydym ni wedi buddsoddi £8 miliwn i ysgogi newid a gwella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i wneud newidiadau cynaliadwy a fydd, yn y pen draw, yn lleihau nifer y plant sy'n dod i mewn i ofal. Mae hyn yn cynnwys £5 miliwn i ehangu gwasanaethau ar ffiniau gofal awdurdodau lleol; £850,000 i ehangu'r prosiect Adlewyrchu i'r saith rhanbarth yng Nghymru͏—mae hwn yn brosiect sy'n gweithio gyda mamau ifanc i dorri'r cylch o ailfeichiogi ac achosion gofal rheolaidd; £1.625 miliwn i helpu pobl sy'n gadael gofal ar eu taith tuag at annibyniaeth drwy wella cynlluniau prentisiaeth a hyfforddiant  awdurdodau lleol ac ymestyn y gallu i gael defnyddio gwasanaethau cynghorwyr personol hyd at 25 oed; £400,000 i gyflawni'r Fframwaith Maethu Cymru; a £125,000 i ddatblygu gwaith cymorth mabwysiadu ledled y wlad.

Hefyd, mae ein cronfa Dydd Gŵyl Dewi gwerth £1 miliwn, a lansiwyd gennym ym mis Mawrth, yn darparu cymorth hyblyg, ariannol uniongyrchol i'r rhai sy'n gadael gofal yn yr un modd ag y mae pobl ifanc eraill yn cael cymorth ariannol gan rieni. Roedd Carl Sargeant yn angerddol am y gronfa hon, a byddai'n falch o'r effaith gadarnhaol y mae eisoes yn ei chael ar y rhai sy'n gadael gofal ledled Cymru.

Mae'r grŵp wedi datblygu rhaglen o newid yn seiliedig ar dair thema, sef: yn gyntaf, atal plant rhag dechrau derbyn gofal, ac ymyrraeth gynnar — y dull ataliol; yn ail, gwella canlyniadau ar gyfer plant sydd eisoes yn derbyn gofal; ac yn drydydd, cefnogi'r rhai sy'n gadael gofal i ddyfodol annibynnol llwyddiannus. Trwy weithio gyda'n gilydd, rydym ni eisoes wedi gwneud cynnydd da, ac rwy'n ddiolchgar i'n partneriaid am eu hymrwymiad a'u hymroddiad i weithio gyda ni. Erbyn hyn, rydym ni ar gam pryd y gallwn ni gynyddu cyflymder y gwelliant a gosod nodau traws-lywodraethol, heriol i gyflawni newidiadau gwirioneddol arwyddocaol i wella bywydau plant sy'n derbyn gofal.

Dengys ymchwil bod cysylltiad cryf rhwng nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal ac amddifadedd mewn ardaloedd lleol. Trwy fynd i'r afael â thlodi a meithrin cydnerthedd cymunedol, byddwn yn helpu i gadw teuluoedd gyda'i gilydd yn ystod adegau o argyfwng. Eleni, rydym ni wedi buddsoddi mewn amrywiaeth o fesurau atal ac ymyrraeth gynnar i gefnogi teuluoedd ac i leihau nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal. Yn ogystal â'r buddsoddiad o £5 miliwn mewn gwasanaethau ar ffiniau gofal y cyfeiriais ato, rydym ni wedi darparu £76 miliwn i awdurdodau lleol ar gyfer Dechrau'n Deg a £38 miliwn ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf. Mae ein pwyslais wrth fwrw ymlaen ar y blynyddoedd cynnar hynny. Rydym ni'n cydnabod bod hwn yn gyfnod tyngedfennol o ran datblygiad plant a chanlyniadau, yn enwedig ar gyfer y rhai sy'n byw mewn amddifadedd. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu system blynyddoedd cynnar integredig i sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth cywir.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:55, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

I wella canlyniadau ar gyfer plant sydd eisoes yn derbyn gofal, gwyddom fod lleoliadau sefydlog yn hanfodol i blant deimlo'n ddiogel, i gael ymdeimlad o berthyn a gallu cyflawni eu potensial. Felly, mae gennym ni gynllun addysg a gwasanaethau cymdeithasol tair blynedd, o'r enw 'Codi uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru'. Cefnogir y cynllun hwn gan fuddsoddiad o £4 miliwn drwy'r grant datblygu disgyblion, ac mae'n darparu cymorth addysgol wedi'i dargedu i blant sydd wedi cael profiad o dderbyn gofal. Er ei fod yn galonogol, yng nghyfnod allweddol 4, bod 23 y cant o'r plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi cyflawni lefel 2 cynhwysol—cynnydd o 10 y cant o 2013—mae llawer i'w wneud o hyd i leihau'r bwlch cyrhaeddiad.

Felly, yn ogystal â gwella cyrhaeddiad addysg, mae bod â lleoliad sefydlog hefyd yn gwella cydnerthedd a lles emosiynol plant. Ceir mwy o achosion o iechyd meddwl gwael ymhlith plant sydd wedi cael profiad o dderbyn gofal. I leihau'r trawma a achosir gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, rydym ni wedi buddsoddi er mwyn sefydlu canolfan genedlaethol i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a, thrwy ein cynllun cyflawni 'Law yn llaw dros Blant a Phobl Ifanc', rydym ni wedi cyhoeddi llwybr gofal y cytunwyd arno ar gyfer pobl ifanc sy'n agored i niwed, gan gynnwys y rhai hynny sy'n derbyn gofal i sicrhau y gwneir atgyfeiriadau priodol i gael mynediad at gymorth therapiwtig.

Ar gyfer teuluoedd a gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â gofal maeth, rydym ni wedi darparu cyllid ar gyfer cynllun treialu addysgeg gymdeithasol arloesol, sy'n archwilio effaith ymagwedd gyfannol at addysg a sgiliau bywyd.

Fel y mae plant yn datblygu ac yn gwneud eu ffordd trwy fywyd, rydym ni'n dymuno iddyn nhw fod yn uchelgeisiol ac i fanteisio ar gyfleoedd er mwyn iddyn nhw fod yn ddinasyddion economaidd weithgar. Ac eto, gwyddom nad yw 43 y cant o blant sy'n derbyn gofal mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Felly, drwy fframwaith ymgysylltu a dilyniant pobl ifanc y Llywodraeth, mae llawer o waith yn mynd rhagddo gyda Gyrfa Cymru, gwasanaethau ieuenctid, ysgolion, colegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith i nodi a chefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant neu sydd mewn perygl o fod yn hynny.

O ran addysg uwch, rydym ni'n gwneud cynnydd ar yr argymhellion o adolygiad Diamond ac yn paratoi i ddeddfu er budd y rhai sy'n gadael gofal er mwyn iddyn nhw allu derbyn uchafswm y grant cynhaliaeth i gefnogi eu haddysg o 2018-19 ymlaen.

Byddwn ar fai heddiw pe na byddwn yn cydnabod y ffaith bwysig bod rhwng 20 a 30 y cant o bobl ifanc ddigartref wedi bod yn derbyn gofal. I'r perwyl hwn, rydym ni wedi buddsoddi £83,000 yn y bartneriaeth End Youth Homelessness Cymru, y mae Llamau yn ei chynnal ar ein rhan ac sydd wedi cymeradwyo £2.6 miliwn ar gyfer prosiectau digartrefedd yn ddiweddar. O'r dros 60 o brosiectau a ariennir, nod benodol 15 ohonynt yw atal digartrefedd i bobl ifanc drwy ddilyn y dull llwybr cadarnhaol.

Yn olaf, rydym ni'n ystyried ffyrdd arloesol eraill y gallwn ni eu defnyddio i helpu pobl ifanc sy'n gadael gofal ar eu ffordd i annibyniaeth. Er enghraifft, rydym ni'n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ystyried dileu'r rwymedigaeth i dalu'r dreth gyngor i bob un sy'n gadael gofal sydd rhwng 18 a 25 oed. Mae'r gwaith i gyflawni hyn yn y camau cynnar, ond credwn y bydd cymorth ymarferol fel hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae cyflawni newid arwyddocaol yn y canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn her polisi cyhoeddus allweddol i bob un ohonom ni yma yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth wedi pennu cyfeiriad polisi clir a bydd yn parhau i wrando ar gyngor y grŵp cynghori'r gweinidog, a lleisiau'r gweithwyr proffesiynol rheng flaen a'r plant a'r bobl ifanc sy'n cael eu heffeithio. Gyda chymorth y Cynulliad hwn, mae'n rhaid i helpu i weddnewid canlyniadau i blant fod yn uchelgais i ni, a hynny drwy roi mwy o bwyslais ar atal ac ymyrraeth gynnar, lleihau nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal, gwella canlyniadau y rhai sydd eisoes yn derbyn gofal, a chefnogi'r rhai sy'n gadael gofal i fyw bywydau annibynnol a llwyddiannus. Diolch.

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:00, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ei gwneud yn glir fy mod i'n siarad ar hyn o bryd yn fy swyddogaeth fel Cadeirydd y grŵp cynghori'r gweinidog? Dirprwy Lywydd, dyma'r cyfle cyntaf yr wyf wedi'i gael i dalu teyrnged i Carl Sargeant, felly byddaf yn manteisio ar y cyfle hwnnw, oherwydd dangosodd Carl weledigaeth ac arweinyddiaeth gref yn y maes hwn. Rwy'n credu bod y ffaith iddo sefydlu'r grŵp fel grŵp cynghori'r gweinidog o dan gadeiryddiaeth Aelod o'r wrthblaid, yn pwysleisio natur amhleidiol yr her wleidyddol hon, ond hefyd bod arnom angen cadernid ac atebolrwydd gweithredu gweinidogol, a, gyda'r cyfuniad hwnnw, gallwn ni godi safonau o ddifrif. Felly, mae gennym ni lawer i ddiolch i Carl amdano, a byddwn yn gwneud hynny wrth i'r gwaith ddatblygu yn ystod y blynyddoedd nesaf.

A gaf i hefyd gofnodi fy niolch i'r Gweinidog am ei hyder ynof i barhau fel cadeirydd y grŵp cynghori'r gweinidog, yn enwedig oherwydd rhagoriaeth ei aelodau a'r cyfraniadau niferus y maen nhw wedi'u gwneud eisoes? Rwy'n falch o ddweud bod y grŵp cynghori'r gweinidog yn rhannu eich gweledigaeth yn llawn, Gweinidog, a gweledigaeth y cyn Ysgrifennydd y Cabinet, mai ymyrraeth amserol effeithiol a chynnar, sy'n sicrhau mai dim ond y plant hynny sydd angen derbyn gofal sy'n mynd i mewn i ofal mewn gwirionedd a'n bod ni'n cefnogi'r plant hynny ar ffiniau gofal yn eu sefyllfa deuluol, sydd wrth wraidd y mater. Rwy'n credu bod yn rhaid i hynny fod wir wrth wraidd y diwygio, ac roedd y grŵp cynghori'r gweinidog wedi'i galonogi gan yr £8 miliwn sydd wedi'i fuddsoddi mewn ysgogi'r math hwn o newid, a £5 miliwn o hynny mewn datblygu gwasanaeth ffiniau gofal.

Hoffwn i ddweud hefyd fod rhai pethau wedi dod i'r amlwg yn y grŵp sydd erbyn hyn wedi eu hadlewyrchu'n glir mewn datganiadau gan y Llywodraeth. Roedd y cyswllt rhwng amddifadedd a nifer y bobl sy'n derbyn gofal yn rhywbeth y buom yn ei ystyried yn benodol yn y grŵp cynghori'r gweinidog, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn dymuno ymuno â mi i ganmol yn arbennig gwaith un o'n haelodau, yr Athro Jonathan Scourfield o Brifysgol Caerdydd, sydd wedi gwneud cymaint o ran dadansoddi'r mater hwn yn ystadegol, ac sydd wedi sicrhau y ceir pwyslais ar y rhan y mae tlodi ac anghydraddoldeb yn ei chwarae mewn unrhyw ymagwedd at ddatblygu polisi yn y meysydd hyn.

Hoffwn i ddweud hefyd bod gwaith ar gyrhaeddiad addysgol wedi datblygu'n eithaf sylweddol. Mae'r bwlch cyrhaeddiad yn dal i fod yn eang, ac mae angen yr uchelgais hwnnw er mwyn ei gau. Mae angen iddo gysylltu, yn amlwg, â phethau megis swyddogaeth gofalwyr maeth wrth ddarparu'r cymorth hwnnw yn y cartref i blant sy'n derbyn gofal. Felly, mae yna lawer o bethau y mae angen eu cysylltu â'i gilydd er mwyn cyflawni'r ymagwedd integredig hon. Ond rydym ni wedi cael yr argoelion cyntaf o ddatblygu strategaethau addysgol sydd mewn gwirionedd yn dechrau gwireddu potensial llawn plant sy'n derbyn gofal a cheisio cyflawni hynny'n benodol.

Rwy'n credu, wrth edrych ar y rhai sy'n gadael gofal, mae'n debyg mai tai yw'r peth pwysicaf iddynt. I blant sy'n derbyn gofal, cyrhaeddiad addysgol ydyw fel arfer, o ran beth fydd eu cyfleoedd mewn bywyd, ac mae hynny'n dibynnu ar sefydlogrwydd eu lleoliad gofal, oherwydd, os yw hwnnw'n ansefydlog ac maen nhw'n symud o gwmpas, mae hynny'n gallu creu cryn drafferthion. Yn aml, mae'n golygu eu bod yn symud ysgol, er enghraifft. Ond, i'r rhai sy'n gadael gofal, tai a sicrhau— drwy ddulliau arloesol megis Housing First, pan fyddwn yn cadw'r denantiaeth honno'n llwyr ac yn ei chefnogi, ac yn sicrhau bod y sefydlogrwydd hwnnw ar gael i'r rhai sy'n gadael gofal.

A gaf i gloi drwy ddweud fy mod i'n credu mai swyddogaeth bob un ohonom, yn enwedig ein cydweithwyr mewn Llywodraeth Leol, fel gwleidyddion—mae rhianta corfforaethol yn hanfodol yn y maes hwn? Y fantais fawr sydd gennym yw ei fod yn amhleidiol. Ni cheir rhaniad gwleidyddol ynghylch sut y mae angen inni barhau, na'r pwysigrwydd y mae'r holl bleidiau yn ei roi ar hyn, ond mae angen inni roi arweiniad gwleidyddol, hefyd, oherwydd ni fu'n wir erioed, yn yr arena wleidyddol, bod y pwyslais priodol wedi'i roi ar mater hwn, nac yn y gymuned ehangach na'r cyfryngau, weithiau. Felly, mae angen inni fod yn gyntaf, ac, wrth sôn am rianta corfforaethol, rwy'n credu bod hynny'n wir am y Gweinidog, mae'n wir am Aelodau'r Cynulliad hwn, er ei fod yn rhan fwy uniongyrchol o waith ein cydweithwyr a'n cyfeillion mewn Llywodraeth Leol. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 3:04, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i David am ei sylwadau, yn enwedig ynghylch ein cyn gyd-Aelod, Carl, a'i waith yn y maes hwn, a llawer o feysydd eraill hefyd. Mae'n iawn i ddweud, yn y gorffennol, na chafodd y maes hwn y sylw dyledus mae'n debyg. Roedd yn hawdd ei anwybyddu. Mae hi mor hawdd anghofio'r mater cyfan o blant a phobl ifanc mewn lleoliadau gofal, oherwydd dim ond pan aiff rywbeth o chwith y mae'n cyrraedd penawdau'r newyddion, yn wahanol i'r dull cydweithredol, fel yr ydym yn ymdrechu i'w gyflawni erbyn hyn, a all gael effaith eithaf sylweddol mewn gwirionedd ar ganlyniadau a chyfleoedd bywyd pobl ifanc. Ac, yn sicr, gwelodd Carl hynny'n glir iawn. Yn wir, bu'n allweddol wrth sefydlu'r grŵp cynghori'r Gweinidog a sicrhau, mewn gwirionedd, bod ganddo'r annibyniaeth honno a'r awdurdod hwnnw a ddaw yn sgil y llais annibynnol hwnnw. Mae'n amlwg yn amhleidiol. Mae'n defnyddio dull cydweithredol iawn. Mae'n gwbl groes i bwyntio bys. Yr unig bwyntio bys a wneir yw at y bylchau mewn darpariaeth neu wybodaeth neu ddata neu strategaeth neu gynlluniau a dweud, 'Iawn, sut yr ydym ni i gyd am gydweithio i ymdrin â hyn?'

Rwy'n falch bod David wedi cytuno i barhau i'w gadeirio, oherwydd, gan ei fod wedi cyflawni'r swyddogaeth cystal eisoes, rwy'n credu bod y parhad yn bwysig iawn. Fel y dywedais, rwy'n credu bod y gwaith y mae'r grŵp yn ei wneud—y grŵp cynghori'r Gweinidog—i wella canlyniadau, wedi cyrraedd pwynt lle, mae ganddo eisoes amrywiaeth drawiadol o ffrydiau gwaith y mae'n gysylltiedig â nhw, sydd wedi arwain at ganlyniadau pendant a newidiadau mewn polisi, ac ymddengys ei fod ar y pwynt hwnnw pan fo'n paratoi ar gyfer newid sylweddol arall. Nid oes gennyf amheuaeth, unwaith eto, y bydd yn cael effaith uniongyrchol ar y plant a'r bobl ifanc dan sylw.

Yn wir, rwy'n ymwybodol o waith Jonathan Scourfield ac rwy'n gobeithio cyfarfod ag ef cyn bo hir hefyd i drafod y gwaith gydag ef a'i ddull cyfannol iawn o fynd i'r afael â'r materion hyn, gan gynnwys y materion ehangach hynny o dlodi ac amgylchiadau teuluol, ac nid canolbwyntio ar y plentyn neu'r person ifanc yn unig.

Felly, hyderaf ac rwyf yn gwbl ffyddiog yn swyddogaeth David, yn y Cynulliad hwn, ac fel Aelod o'r Cynulliad hwn, ond hefyd wrth gadeirio'r grŵp hwnnw, i herio'r Llywodraeth, ond hefyd i wneud hynny mewn ffordd sy'n dweud, 'Dyma'r ffordd y gallwn ni ddatrys y materion hyn', yn hytrach na dim ond dweud, 'Wel, rhowch ddigon o arian i ni a gallwn ei ddatrys'. Mae pob un ohonom yn gwybod nad yw mor syml â hynny, ond yn hytrach yn fater o ymyraethau clyfar a deallus mewn modd cynaliadwy.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:07, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol am ei ddatganiad ar wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal? Yn amlwg, fel y trafodwyd gennym yr wythnos diwethaf, yn y ddadl yn y fan yma ar gamddefnyddio sylweddau, mae rhai plant yn cael dechrau erchyll mewn bywyd—yn cael eu hesgeuluso, eu cam-drin, eu poenydio, a'u hamddifadu o gariad. Mae llawer o hyn yn y diwedd yn achosi problemau â chyffuriau ac alcohol, a digartrefedd hefyd, fel y trafodwyd yr wythnos diwethaf. Mae'n iawn i ganmol gwaith Llamau, fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi'i wneud yn ei ddatganiad—gwaith rhagorol dros y blynyddoedd, gan Llamau, o ran cydnabod a helpu i ddatrys problemau digartrefedd ymhlith ein pobl ifanc.

Rwy'n hoffi'r syniad, fel y dywedodd y Gweinidog yn y fan yma yn ei baragraff olaf ond un, o gael gwared ar y rhwymedigaeth treth gyngor i bawb sy'n gadael gofal rhwng 18 a 25 oed. Rwy'n hoffi'r syniad hwnnw, ac rwy'n gobeithio y bydd yn dwyn ffrwyth. Mae'n rhaid inni aros i weld. Yn amlwg, ar ôl dechrau mor erchyll, yn anochel gall plant fynd i dderbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn y pen draw. Ydyn, mae rhai ohonom ni wedi bod yn gynghorwyr sir hefyd yn ein tro ac rydym ni'n ymwybodol iawn o'n swyddogaeth rhianta corfforaethol parhaus nawr, ond dechreuodd hynny yn ein dyddiau awdurdod lleol.

Yn ôl at y datganiad a'i bwyslais ar yr agenda ataliol, mae un neu ddau o gwestiynau yn dod i'r meddwl. Yr un cyntaf: yn amlwg, mae ansawdd gofal maeth yn hollbwysig, ac rwy'n deall bod y fframwaith cenedlaethol ar gyfer maethu yn cael ei drafod. Tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud mwy wrthym am hynny, gan gynnwys, er enghraifft, y buddsoddiad ychwanegol y bydd yn ei roi i hyfforddiant a chefnogi gofalwyr maeth.

Gan symud ymlaen, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol fod â chynlluniau gofal y tu hwnt i 18 oed ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, gan gynnwys ariannu lleoliadau maeth parhaus, pan fo'r ddwy ochr yn dymuno hynny. O ran parhau i ariannu lleoliadau maeth, faint o'r cynlluniau hyn sydd wedi digwydd, a beth yw'r canlyniad? Rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn falch o gael y wybodaeth honno i law. Yn amlwg, er bod gwaith i atal plant rhag mynd i mewn i'r system gofal yn hollbwysig, pa gamau diogelu sydd wedi'u sefydlu i sicrhau nad yw plant yn cael eu niweidio hyd yn oed mwy oherwydd ymgais annoeth i'w hatal rhag mynd i'r system ofal? Yn olaf, er bod cymorth ar gael i ofalwyr maeth a mabwysiadwyr ar gyfer unrhyw broblemau ymddygiad, nid yw'n ymddangos bod ymwybyddiaeth ehangach yn y system addysgol, ac nid yw rhai ysgolion, mae'n debyg, yn cymryd i ystyriaeth y gallai dechrau gwael mewn bywyd fod yn gyfrifol am rywfaint o'r ymddygiad heriol ac ni fyddai angen i hynny ddigwydd pe byddai ysgolion yn rhoi ystyriaeth resymol i hyn. Bu sawl enghraifft dros y blynyddoedd—pe byddai pobl ond wedi bod yn fwy ymwybodol. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allem ni ofyn i'r Gweinidog weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i sicrhau bod hyfforddiant i athrawon yn cynnwys hyfforddiant ar broblemau esgeulustod, cam-drin ac anhwylder ymlyniad. Diolch yn fawr.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 3:11, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Dai, diolch yn fawr iawn am y sylwadau yna a'r cwestiynau hefyd, ac fe geisiaf ymateb iddynt. Yn gyntaf oll, mae'r ddeialog yr ydym wedi ei chael ar draws y Cabinet, gan gynnwys gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ar y mater o nodi y rhai hynny sydd angen cymorth ychwanegol gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y rheng flaen, fel athrawon, cynorthwywyr athrawon ac yn y blaen, yn fater allweddol. Mae'n rhaid iddo fod, er mwyn gwybod mewn gwirionedd, wedyn, beth yw'r cymorth cywir y mae angen ei roi ar waith a'r cymorth ychwanegol cywir y mae angen ei roi ar waith. Rydym ni'n gwybod, gyda llaw, fel y gŵyr Dai, ar gyfer dwy ran o dair o'r plant sydd mewn sefyllfaoedd derbyn gofal bod y dystiolaeth yn awgrymu bod ganddyn nhw ryw fath o anghenion addysgol arbennig. Felly, nid yw hyn yn golygu dim ond nodi'r sefyllfa o fod yn derbyn gofal, ond gallai llawer ohonynt fod ag anghenion addysgol ychwanegol.

Rwy'n credu mai'r peth y gallwn ni i gyd gytuno arno yn y Siambr hon wrth inni geisio gweithio ar draws y Llywodraeth, ond hefyd gyda phartneriaid eraill ar lawr gwlad, yw bod darparu gwasanaeth dinod, derbyn gwasanaeth dinod, o ran cyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yn syml yn annerbyniol. Dylem ni fod mor uchelgeisiol ar gyfer pob plentyn unigol, ar bob agwedd. A beth bynnag sydd gennym ni i'w gyfrannu at hynny—. Rhan o hynny, gyda llaw, yw—. Cyfeiriais yn gynharach, yn benodol ym maes gofal maeth, y soniodd Dai amdano, ein bod ni'n ariannu'r pedagogypeda-gogy neu peda-godgy, dydw i byth yn ei ddweud yn iawn [Torri ar draws.] Diolch. Peda-godgy; diolch yn fawr iawn—cymdeithasol hwn, sydd â'r nod o wella cyrhaeddiad addysgol plant, yn enwedig mewn gofal maeth. Bwriad y prosiect hwn yw cefnogi rhieni maeth i gymryd rhan fwy gweithredol yn addysg eu plant maeth, a'u helpu i ddatblygu cysylltiadau gwell gyda'r system addysg, yr ydym yn gwybod hefyd ei fod yn beth allweddol—y rhieni yn cymryd rhan yn addysg y person ifanc, nid dim ond camu i ffwrdd oddi wrtho, sefyll yn ôl. Wedi'i gynnwys yn hynny, gyda llaw, mae cyfres o ddosbarthiadau meistr ar gyfer pobl sy'n ymwneud â maethu, pa un ai ar sail bersonol neu hyd yn oed ar lefel broffesiynol. Mae llawer iawn o bobl wedi'u mynychu, ac mae'r adborth yr ydym wedi'i gael wedi bod yn ardderchog hefyd.

Gwnaethoch chi sôn am y broblem o ddigartrefedd, a'r ffigurau llwm hynny y soniais amdanyn nhw, ein bod yn gwybod bod 20 y cant i 30 y cant o'r bobl hynny yr ydym yn eu canfod yn ddigartref wedi bod mewn sefyllfaoedd gofal. Felly, rydym ni wedi datblygu llwybr cadarnhaol digartrefedd ieuenctid Cymru, a lansiwyd yn 2016 gan gyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. Mae'n ddull cynhwysfawr iawn o helpu pobl ifanc i osgoi digartrefedd, ac rydym ni'n credu mai dyma'r dull gorau o gynllunio gwasanaethau lleol—gwasanaethau rheng flaen—ar gyfer pobl ifanc. Ond rydym ni'n gwybod bod angen gwneud mwy, gyda llaw, i ymwreiddio hyn ar draws y Llywodraeth, yn enwedig o ran gwasanaethau iechyd meddwl.

Fe wnaethoch chi gyfeirio hefyd at y broblem o gamddefnyddio sylweddau. Rydym ni wedi nodi hyn fel un o'r materion ACE—y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod—sy'n gallu newid datblygiad cynnar plentyn. Bydd Dai, sydd hefyd yn feddyg, yn gwybod bod gormod o amlygiad i rai o'r sylweddau hyn yn gallu effeithio ar—os yw'r plentyn yn agored iddynt yn uniongyrchol—ddatblygiad niwrolegol hefyd, pethau fel systemau hormonaidd ac ati. Roedd bron i 5,000 o achosion o blant mewn angen oherwydd bod eu rhieni yn camddefnyddio sylweddau yn 2016. Rydym ni'n buddsoddi £50 miliwn i fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â hyn.

Ond mae Dai yn llygad ei le: wrth weithredu'r holl ddulliau hyn, mae angen inni wneud y penderfyniad cywir ar gyfer y plentyn cywir dan yr amgylchiadau cywir, ac er y dylai ein pwyslais, mewn gwirionedd, fod ar ymyrraeth gynnar ac atal, ceir adegau, fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, lle mae'n angenrheidiol weithiai i dynnu'r plentyn o amgylchedd. Ond, yn gyntaf oll, mae'n rhaid inni wneud popeth i geisio gwneud yn siŵr, os gallwn ni, y cânt aros yn yr amgylchedd cartref hwnnw, a dim ond eu symud ar ôl hynny.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 3:15, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. A gaf i ddweud 'llongyfarchiadau' ar eich penodiad diweddar? Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau eraill yma yn cytuno â mi, mewn byd delfrydol, ni fyddai unrhyw blentyn yn cael eu cymryd oddi ar ei deulu i dderbyn gofal gan y wladwriaeth. Ni waeth pa mor ofalgar neu ymroddgar yw'r staff sy'n gofalu am blant sy'n derbyn gofal, nid yw hynny cystal â diogelwch amgylchedd teuluol sefydlog, beth bynnag yw natur y teulu hwnnw. Ond wrth gwrs mae'n digwydd. Weithiau mae'n anghenraid ofnadwy bod yn rhaid i blentyn gael ei dynnu oddi wrth ei deulu, ac rwy'n falch o weld bod cynlluniau ar waith i leihau nifer y plant sy'n derbyn gofal yn y lle cyntaf a bod pethau'n cael eu rhoi ar waith i ddarparu cymorth iddyn nhw pan fyddan nhw'n gadael gofal. Hoffwn weld, er hyn, mwy o gymorth yn cael ei roi i blant sy'n derbyn gofal, ond byddaf yn dod at hynny yn y man.

Mae gweithio gyda mamau ifanc i dorri'r cylch o feichiogrwydd dro ar ôl tro yn syniad da, fel y mae ymestyn y cymorth sydd ar gael gan gynghorwyr personol hyd at 25 oed. Ond yr hyn sy'n fy mhoeni i, er fy mod yn cydnabod nad yw arian yn ddiderfyn, nad yw'r symiau a nodir yn eich datganiad y bwriedir eu gwario ar 5,500 neu fwy o blant sy'n derbyn gofal gan Lywodraeth Cymru yn ymddangos yn arbennig o fawr i mi: mae £400,000 i gyflawni'r rhwydwaith maethu yn swm cymharol fach, ac mae £125,000 i ddatblygu gwaith cymorth mabwysiadu ar draws y wlad yn cynrychioli swm bach iawn o arian. Dim ond £25,000 fesul rhanbarth yw hynny. Felly, sut ydych chi'n gweld yr arian hwn yn cael ei wario, a faint o wahaniaeth ydych chi'n meddwl y mae'n mynd i'w wneud i ganlyniadau plant sy'n derbyn gofal? Mae'r swm sydd wedi'i neilltuo i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn fach iawn, o ystyried nifer y bobl ddigartref a'r rhai sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru.

Mae plant sy'n derbyn gofal eisoes dan anfantais oherwydd yr amgylchiadau a aeth â nhw i mewn i ofal yn y lle cyntaf. Bydd eu haddysg wedi dioddef hefyd. Mae'n hollbwysig bod y plant hyn yn cael cymorth i ddod o hyd i well dyfodol, ac mae darparu cefnogaeth addysgol ychwanegol yn bwysig iawn, iawn. Mae'r arian a addawyd ac y cyfeiriwyd ato yn eich datganiad o fod ar gyfer y diben hwnnw wedi'i gynnwys yn y grant amddifadedd disgyblion o £4 miliwn, ond mae'n rhaid i'r £4 miliwn hwnnw ddarparu cymorth addysgol ar gyfer plant difreintiedig nad ydynt yn derbyn gofal hefyd. Felly, faint o'r grant amddifadedd disgyblion fydd yn cael ei wario ar wella deilliannau addysgol plant sy'n derbyn gofal yn benodol, a sut y gallwch chi ein sicrhau ni y bydd yr arian a neilltuwyd yn ddigonol i sicrhau canlyniadau sylweddol?

Rwy'n croesawu'r cynigion i eithrio'r rhai sy'n gadael gofal rhag y dreth gyngor; rwy'n credu bod hwnnw'n syniad gwych. A dweud y gwir, byddwn i'n annog awdurdodau lleol ledled Cymru i fabwysiadu'r cynnig. Fel y dywedais, mae'r cynlluniau y cyfeiriwyd atynt yn eich datganiad yn galonogol, ac, fel y dywedais, mae gennyf amheuon ynghylch a oes digon o adnoddau yn cael eu rhoi ar waith, ond rwyf wir yn gobeithio y bydd y buddsoddiad yr ydych chi wedi cyfeirio ato, a'r cynlluniau yr ydych chi wedi cyfeirio atynt, yn cyflawni'r hyn yr ydych chi a'r gweddill ohonom yn gobeithio amdano. Diolch.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 3:18, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Michelle, diolch yn fawr iawn. Credaf mai hanfod eich dadl—. A gyda llaw, a gaf i ddiolch ichi am groesawu'r dull yr ydym ni'n ei arddel a'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni gyda'r canlyniadau? Oherwydd, mae hyn yn sicr yn canolbwyntio ar y canlyniadau, yn hytrach na dim ond dweud, 'Rydym ni'n ticio blychau, rydym ni'n dosbarthu grantiau, ac rydym ni'n cadw ein bysedd wedi'u croesi ac yn gobeithio am y gorau'. Mae hyn i gyd yn seiliedig ar y syniad o gydweithio â phartneriaid allan yna, gyda llywodraeth leol ac eraill, a gyda chynlluniau sydd eisoes yn bodoli ar lawr gwlad, fel y rhaglen Dechrau'n Deg, y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, ac ati, er mwyn cyflawni'r newid hwnnw ym mywyd plentyn neu berson ifanc, yn ei sefyllfa deuluol, a fydd yn barhaus ac a fydd yn para'n hir.

Felly, yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrthych chi, Michelle, yw: er bod rhai o'r symiau unigol yn edrych yn fach—dydyn nhw ddim yn ddibwys, gyda llaw, oherwydd mae'n rhaid inni ddod o hyd iddyn nhw o gyllideb sy'n crebachu, a dweud y gwir—dydyn nhw ddim, oherwydd, pan fyddwch chi'n eu targedu yn y ffordd gywir—. A dyma'r dull: cymryd cyngor, gyda llaw; nid dim ond Llywodraeth Cymru yn ei wneud ei hun a dweud, 'Wel, mae'n ychydig o arian yn y fan yma ac ychydig fan draw'. Mae wedi'i lywio i raddau helaeth gan farn gweithwyr proffesiynol rheng flaen, gan y rhai hynny sydd mewn sefyllfaoedd gofal eu hunain, gan grŵp cynghori'r Gweinidog hefyd, sydd yn dweud mai dyma'r ymyraethau cywir.

Rwyf am ddweud, pe byddai gennym ni ddigon o arian, a dweud y gwir, a bod y llyfr sieciau gennyf i, byddwn i'n ysgrifennu siec 10 gwaith yn fwy, a byddwn yn ei weddnewid yfory, ac erbyn y flwyddyn nesaf. Dydyn ni ddim yn y sefyllfa honno. Rydym ni ble'r ydym ni, ond mae'r hyn y gallwn ni ei wneud yw fwy craff drwy weithio llawer yn glyfrach ar lawr gwlad, a gwneud yr ymyraethau cywir, fel bod y gwasanaethau ar ffiniau gofal hynny, er enghraifft, a'r £8 miliwn ychwanegol yr ydym ni newydd ei roi i'r maes gwaith hwnnw—dyna'n union y math o beth. Gall yr £8 miliwn hwnnw fynd yn bell yn y sefyllfa iawn i fynd i'r afael â mater hwnnw o helpu i gadw plant a phobl ifanc mewn sefyllfa teuluol pan fo hynny'n briodol, drwy ddarparu gwasanaethau cofleidiol iddyn nhw. Pan fyddwch chi'n ychwanegu hynny at Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf ac ymyraethau eraill, mae hynny'n gallu cyflawni llawer iawn.

Felly, nid yw'n gwestiwn o roi un blwch draw fan hyn a dweud, 'Bydd hyn yn datrys y broblem'. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â gwasanaethau integredig a chydweithredol ar lawr gwlad sy'n nodi'r person ifanc, yn nodi'r cymorth sydd ei angen arno, ac sy'n trefnu'r cymorth hwnnw o'i amgylch. Byddwn i'n dweud yn syml: peidiwch ag edrych ar ddarnau bach o arian. Edrych ar lawr gwlad, a lle ceir y canlyniadau. Oherwydd, mae mesur llwyddiant hyn yn gysylltiedig iawn â'r canlyniadau: a yw hyn yn golygu bod yr effeithiau ar gyfer plant sydd mewn sefyllfaoedd derbyn gofal yn well? A yw'n golygu bod y rhai hynny sy'n gadael i fyw bywydau annibynnol yn well? A yw'n golygu, mewn gwirionedd, bod y rhai hynny sydd ar ffiniau gofal—bod eu cyfleoedd hwythau wedi gwella, a'u bod weithiau yn cael eu cadw yn y sefyllfa deuluol hefyd drwy ofal cofleidiol gwell?

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 3:21, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, rwy'n ategu sylwadau David Melding am y cyn-Weinidog a natur amhleidiol hyn. Hoffwn innau hefyd estyn llongyfarchiadau i chi ar eich swydd newydd.

Mae llawer o bethau da yma, ac rwyf wedi clywed llawer o bethau da yr ydych chi wedi eu dweud heddiw. Sylwais eich bod wedi dweud yr hoffech chi weld gostyngiad yn nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal. Sylwais eich bod yn dweud po fwyaf y gallwn ni helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd yn ystod cyfnodau anodd, drwy gynnig y lefel gywir o gymorth'— mai dyna'r ffordd iawn o wneud pethau. Ond yr hyn sy'n fy mhoeni i am yr achosion a gaf i dro ar ôl tro ar ôl tro yw ei bod yn ymddangos bod rhieni sy'n awyddus iawn i gadw eu plant yn y rhanbarth hwn, Canol De Cymru, yn eu colli am amrywiaeth eang o resymau, ac yn aml, nid yw diogelwch yn un ohonynt. Mae gennyf achos ar fy llyfrau lle y cydnabyddir bod y rhieni yn caru'r plant, y plant yn caru'r rhieni, ac yn anffodus i'r rhieni, eu bod wedi galw ar y gwasanaethau plant am gymorth, ac yna wedi colli'r plant, ac maen nhw'n ymladd yn daer i'w cael yn ôl, oherwydd bod yr adran gwasanaethau plant benodol honno yn dweud nad oes gan y rhieni hyn y sgiliau i fod yn rhieni.

Rwyf i'n amau'r farn honno, oherwydd yn rhy aml o lawer mae rhieni yn dweud wrthyf bod mabwysiadu a gofal bron â bod yn ddiwydiant, ac mae'r ymgysylltu yr wyf i wedi ei gael â theuluoedd —. Yn eironig, dim ond heddiw cefais neges gan fam sydd eisiau imi fynd i ymweld â hi oherwydd ei bod mewn perygl o golli ei phlentyn. Byddwn i'n dweud, mewn gwirionedd, fel cyn-athro proffesiynol, bod angen cymorth ar deuluoedd, ond yr hyn y maen nhw'n ei gael yw system wrthwynebol iawn sy'n cwestiynu, bron, a cheir dull ticio blychau gan weithwyr cymdeithasol sydd o dan bwysau aruthrol. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed beth oedd eich barn am y pethau hynny a pha un a ydych chi'n edrych ar wledydd ledled y byd lle na cheir unrhyw fabwysiadu gorfodol, gan fod mabwysiadu gorfodol yn rhywbeth sy'n peri llawer o bryder i mi, mewn gwirionedd, wrth edrych ar y math o achosion yr wyf i wedi edrych arnynt am ormod o amser o lawer, mewn gwirionedd, nid yn unig yn y fan hon, ond dros y ffordd hefyd.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 3:24, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Neil, diolch ichi am hynna. A gaf i ddweud ein bod bob amser yn edrych o amgylch y byd am arferion gorau? Ond fe allwn ni hefyd edrych ar garreg y drws, oherwydd yr hyn a wyddom yw y ceir amrywiadau yn y dulliau lleol ledled Cymru, fel y ceir yn Lloegr, gyda llaw, hefyd. Ond yn sicr mae'n rhywfaint o'r buddsoddiad hwnnw yn y ddarpariaeth gofleidiol i deuluoedd. Os ydych chi'n ystyried rhywbeth fel Teuluoedd yn Gyntaf, er enghraifft, mae'n aml yn cael ei ddiystyru oherwydd, os ydych chi'n dweud 'Teuluoedd yn Gyntaf', mae pobl yn meddwl mai rhywbeth clyd a hyfryd yw hwnnw, ond mewn gwirionedd, dyna'r union ddull amlasiantaeth i deulu sy'n dweud lle mae'r meysydd cymhwysedd, arbenigedd, gwybodaeth sydd eu hangen ar y teulu hwnnw er mwyn darparu amgylchedd teuluol sefydlog a chadarn ar gyfer plant.

Mae buddsoddi mewn pethau fel Teuluoedd yn Gyntaf yn cael ei ategu gan ein dadansoddiad o bethau fel y canolfannau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yr ydym wedi buddsoddi ynddynt erbyn hyn, sy'n nodi'r meysydd hynny o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Rydym ni'n gwybod os ydych chi'n profi dau neu dri neu bedwar ohonynt, mae'n fwy tebygol bod y plentyn hwnnw yn mynd i ddioddef anhawster, os nad mynd i dderbyn gofal, mewn gwirionedd. Felly, sut mae pethau fel Teuluoedd yn Gyntaf yn helpu i osgoi'r sefyllfa honno? Sut mae'n cofleidio'r teulu hwnnw? Rydym ni wedi rhoi £270 miliwn yn y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf ers 2012. Mae'n darparu'r amgylchedd cefnogol, cyfoethog hwnnw i blant. Mae'n lleihau nifer yr achosion o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae'r dull gweithredu hwn yn darparu pecynnau cydlynol o gymorth i deuluoedd, drwy ddull amlasiantaeth sy'n eu helpu nhw fel teulu i ddatblygu sgiliau ar eu cyfer nhw, ond ar gyfer eu plant hefyd. Y math hwn o ddull yw'r ffordd ymlaen yn bendant. Rydym ni'n gwybod hyn oherwydd ei fod yn cyflawni'r canlyniadau yr ydym ni wedi bod yn siarad amdanyn nhw. Ond mae'n golygu buddsoddiad hirdymor, parhaus, gan weithio gyda theuluoedd, i wneud hynny.

Y pwynt lle y byddwn yn cytuno ac y mae angen inni ei ystyried yw sut yr ydym ni am symud y gromlin, gan gydnabod bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn buddsoddi yn y canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n gadael gofal a'r bobl hynny sydd yn derbyn gofal ar hyn o bryd. Mae'n rhaid inni wneud hynny, ond mae'n rhaid i ni hefyd rywsut newid y duedd i wneud yn siŵr ein bod yn buddsoddi mwy yn y blynyddoedd cynnar a gwasanaethau atal, oherwydd dyna beth fydd yn rhoi i'r teuluoedd hynny y cymorth a fydd yn osgoi'r angen yn y dyfodol i fwy o blant orfod derbyn gofal. Ond, weithiau, mae'n anochel mai'r peth iawn ar gyfer y plentyn sydd mewn sefyllfa benodol ei fod yn dechrau derbyn gofal. Mewn amgylchiadau o'r fath, mae angen inni wneud yn siŵr bod hynny'n cael ei wneud gyda'r farn fwyaf arbenigol, gyda'r trugaredd mwyaf, a hefyd ei fod yn cael ei wneud gan rannu arferion gorau, nid dim ond o dramor, ond i fyny'r ffordd, mewn gwirionedd, o rannau o Gymru hefyd.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 3:27, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, a gaf innau hefyd ddiolch i chi am y datganiad heddiw a'ch croesawu i'ch swydd newydd? Llongyfarchiadau. Hefyd, rwy'n dilyn yr Aelodau eraill wrth dalu teyrnged i Carl Sargeant am ei waith pwysig yn y maes hwn dros flynyddoedd lawer. Nid yw'n faes hawdd i ymdrin ag ef, ond fe wnaeth hynny gyda phenderfyniad a steil. Mae'n rhyfedd nad yw ef yma yn y Siambr hon pan fo'r mater hwn yn cael ei drafod.

Hoffwn ddweud ychydig o eiriau, o gofio y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lansio ein hymchwiliad i blant sy'n derbyn gofal, neu blant sydd wedi cael profiad o dderbyn gofal fel y mae'n well gennym eu galw, yn y flwyddyn newydd. Bydd yn ymchwiliad pellgyrhaeddol a fydd yn bennaf yn ystyried effeithiolrwydd y gwariant ar y maes hwn o gyllideb Cymru, oherwydd fel dywedasoch, mae'n faes sylweddol o wariant, ac rydym ni'n dymuno cael y budd mwyaf posibl ar gyfer y plant mewn angen hynny yr ydych chi wedi'u nodi. Mae hefyd yn bwnc y mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn bwriadu dychwelyd ato gam wrth gam dros weddill tymor y Cynulliad hwn, yn hytrach na'i fod yn ymchwiliad untro a fydd wedyn yn cael ei adael. Rydym ni'n credu ei fod yn ddigon pwysig i'w ailystyried.

Mae'r ffigurau yr ydych chi wedi eu crybwyll yn cyfiawnhau'r dull. Mae nifer y plant mewn gofal yng Nghymru yn 90 o blant fesul 10,000 o bobl, o'i gymharu â chyfradd is o 60 fesul 10,000 o bobl yn Lloegr. Felly, os ydych chi'n cyfuno hynny â'r ystadegyn bod gwariant ar wasanaethau wedi cynyddu'n sylweddol ers 2011, yn amlwg, mae llawer o gwestiynau y mae angen rhoi sylw iddynt.

Gan droi at eich datganiad yn arbennig, mae eich datganiad yn canolbwyntio ar gyflawni'r rhaglen lywodraethu. A gaf i ofyn i chi—? Rydych chi'n nodi yn helaeth yn eich datganiad bod cydweithio yn hollbwysig i helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hamcanion. Sut y byddwch chi'n sicrhau bod y cydweithio effeithiol hwnnw rhwng gweithwyr proffesiynol rheng flaen, rheolwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn gweithio mewn gwirionedd yn ymarferol ar lawr gwlad? Mae'n amcan clodwiw ar gyfer strategaeth, ond mae angen iddo fod yn fwy na hynny. Rydym ni wedi clywed llawer o amcanion clodwiw yn y Siambr hon a llawer o strategaethau dros lawer o flynyddoedd—gallaf weld y bydd yr ysgrifennydd dros gyllid yn cytuno â mi—ond mae'n ymwneud â throsi'r amcanion hynny yn gynnydd gwirioneddol ar lawr gwlad yr hoffai pob un ohonom ei weld.

Ac yn hollbwysig, mae'n debyg, pa adnoddau fydd yn cael eu hymrwymo i ddarparu'r agwedd hon ar 'Ffyniant i Bawb'? Nid yw'r gost o hyrwyddo gwaith traws-lywodraethol bob amser yn hawdd i'w hamcangyfrif, rwy'n gwybod, ond mae angen cael rhyw syniad sylfaenol o beth fydd y gost a sut y caiff hynny ei ariannu dros y blynyddoedd sydd i ddod—y tu hwnt i'ch sylw yn gynharach, mewn ymateb i Michelle Brown rwy'n credu, na ddylech chi weld hyn fel darnau bach o gyllid mewn gwahanol gyllidebau, ond dylech chi fod yn edrych ar y darlun cyfannol.

A gaf i groesawu, fel y gwnaethoch chi, waith fy nghyd-Aelod David Melding a grŵp cynghori'r gweinidog dros gryn amser erbyn hyn? Gwn eu bod wedi gwneud llawer o waith da yn y maes hwn. Dros amser, hoffai pawb ohonom weld gostyngiad yn nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal, ond wrth gwrs mae'n rhaid cydbwyso hyn ag angen i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar y plant hynny sydd angen derbyn gofal, o ran y ffordd y mae ei angen arnynt, a phan fo ei angen arnynt. Felly, sut ydych chi'n bwriadu sicrhau, o dan yr amgylchiadau hyn, bod gofal wedi'i deilwra i anghenion unigol pobl ifanc a'n bod yn osgoi pecyn gofal sydd yr un fath i bawb?

Rwy'n credu eich bod wedi rhagweld fy nghwestiwn yn gynharach, pan wnaethoch chi sôn am—wel, dydw i ddim yn meddwl eich bod wedi ei alw'n 'gydgynhyrchu' ond yn sicr mae'r egwyddorion o ganolbwyntio ar y dinesydd a theilwra gofal i anghenion penodol yr unigolyn yn flaenoriaeth yn eich meddwl, rwy'n credu. Ac rwy'n credu y gall hynny fod yn wahaniaeth mawr yma, y tu hwnt i'r materion cyllido. Os gallwch chi roi'r plentyn sydd wedi cael profiad o dderbyn gofal wrth wraidd y broses honno, nid yn unig wrth wraidd gofal, ond wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau wrth benderfynu sut maen nhw'n mynd i dderbyn gofal, yna gallwch wneud gwahaniaeth mawr fel Gweinidog drwy gyflawni'r nod hwnnw.

Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae angen inni, wrth gwrs, roi sylw i'r mater o beth sy'n digwydd ar ôl gofal, unwaith eto, rhywbeth y gwnaethoch chi ei grybwyll. Rwy'n croesawu eich uchelgais i dynnu baich y dreth gyngor oddi ar bobl ifanc sy'n gadael gofal tan eu bod yn 25 oed. Credaf fod llawer o botensial i hynny ac mae wir yn werth ei archwilio. Mae hwnnw'n ddatblygiad da. Yn ystadegol, gwyddom fod oedolion sydd wedi bod drwy'r system ofal yn fwy tebygol o ddioddef problemau, gan gynnwys camddefnyddio cyffuriau, ac yn fwy tebygol o fod yn y carchar. Mae cyfran y boblogaeth sydd yn y carchar ac sydd wedi bod yn derbyn gofal yn nodedig ac mae'n amlwg yn ceisio dweud rhywbeth wrthym ni.

Rydych chi wedi dweud hefyd yn eich datganiad bod hyd at 30 y cant o bobl ddigartref wedi bod yn derbyn gofal ar ryw adeg. Felly, sut ydym ni am sicrhau bod gofal yn parhau ar ryw ffurf, cyhyd ag y bo modd, ac nad yw'r cyfan yn dod i ben pan fydd person ifanc yn cyrraedd 18 oed, oherwydd yn rhy aml maen nhw'n cael eu hystyried yn oedolion ar yr adeg honno, a gwyddom, mewn gwirionedd, nad ydych chi'n sydyn yn mynd o fod yn derbyn gofal i fod allan ar eich pen eich hun yn y byd pan fo'r cloc yn taro 12 a'ch bod yn sydyn yn 18 oed. Mae angen cymorth ar bobl ar ôl hynny. A dydw i ddim yn meddwl ei fod wedi bod ar gael bob amser neu nad yw wedi bod yn amlwg bob amser yn y gorffennol. Rwy'n credu unwaith eto bod hwn yn faes y gallwch chi fel Gweinidog wneud rhai newidiadau mawr, mewn gwirionedd, i'r ffordd y mae plant sy'n cael profiad o dderbyn gofal neu blant sy'n derbyn gofal yn cael gofal yng Nghymru. Ac rwy'n dymuno llwyddiant i chi yn y fenter honno ac yn edrych ymlaen at weithio gyda chi pan fydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dechrau ein hymchwiliad i'r maes pwysig hwn y flwyddyn nesaf.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 3:32, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ac rwyf am ymateb drwy ddweud fy mod i'n edrych ymlaen at gynorthwyo'r Pwyllgor yn ei waith, naill ai yn bersonol neu drwy roi tystiolaeth, pa un bynnag yr ydych chi ei angen, pa mor aml yr ydych chi ei angen—nid pob wythnos efallai, ond pryd bynnag y byddwch chi fy angen i yno. A gaf i ddiolch ichi hefyd am eich cydnabyddiaeth, Nick, o'r hyn y gwnaethoch, rwy'n credu, ei alw'n gyllid sylweddol sy'n cael ei roi, nid yn unig ar ei ben hun o ran y cyllid sydd wedi'i dargedu ar gyfer ymyraethau i blant sy'n derbyn gofal, neu'r rhai hynny sydd ar fin dod yn blant sy'n derbyn gofal, ond hefyd yn rhan o'r pecyn ehangach o ofal yn y fan yna? Rydych chi'n gwneud y pwynt pwysig iawn ynghylch sut yr ydym ni'n sicrhau bod hyn yn hollol glir. Wel, mae hyn wedi'i ymwreiddio'n sylfaenol erbyn hyn: mae yno yn ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol ac mae'n uchelgais allweddol i ni. Mae gwella canlyniadau plant sy'n derbyn gofal yn uchelgais allweddol yn 'Symud Cymru ymlaen'. Mae yn y blaenoriaethau yn y strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb'. Ac fel y gwyddoch chi, mae rhai o'r dogfennau hynny wedi cael eu beirniadu am fod yn brin o eiriau, ond mae yno—mae wedi'i osod yn gadarn yno fel blaenoriaeth. Rydym ni'n ymrwymedig, yn gwbl ymrwymedig, i sicrhau bod pob plentyn sy'n derbyn gofal yn manteisio ar yr un cyfleoedd mewn bywyd â phlant eraill. Ond bydd llawer o hyn, mae'n rhaid imi ddweud, yn cael ei ddatblygu gan y gwaith sydd eisoes ar y gweill, gan gynnwys y gwaith a wneir gan grŵp cynghori'r Gweinidog ar wella canlyniadau ar gyfer plant. Gadewch imi sôn am rai o'r rheini oherwydd eu bod nhw'n arwyddocaol ar gyfer y ffordd y caiff hyn ei ddatblygu yn y dyfodol.

Diolch unwaith eto am y geiriau caredig am Carl. O dan Carl y cafodd cam 1 ei ddatblygu, yn ôl yn 2015-16. Mae rhaglen cam 2 eisoes ar y gweill, dan gadeiryddiaeth fedrus David Melding. Mae'n seiliedig ar y tair thema a ddisgrifiais yn gynharach. Mae proses gydweithredu yn hanfodol i hyn, ond mae'n ddiddorol gweld sut y mae'n datblygu'r cydweithredu hwnnw yn benodol. Felly, mae'n rhaglen sy'n ymestyn yn eang, ac yn rhan o gam 2, mae'n ystyried pethau fel arfer proffesiynol, asesu risg a gwasanaethau ar ffiniau gofal, cynllunio ar gyfer parhad, creu lleoliadau sefydlog. Mae pob ffrwd waith yn cael ei chadeirio gan bennaeth gwasanaethau plant awdurdod lleol. Cynrychiolydd o'r trydydd sector fydd yr is-gadeirydd. Mae 25 o feysydd gwaith yn y rhaglen waith honno. Maen nhw'n cwmpasu gwaith ymchwil, prosiectau treialu, datblygu polisïau, gwelliannau, gwelliannau sylweddol i arfer proffesiynol ac ati, ac mae'r grŵp wedi llunio ei fframwaith ar gyfer gweithredu, sy'n rhoi manylion gwirioneddol am y llwybrau y byddwn yn cyflawni'r canlyniadau gwell hyn drwyddynt. Ac, wrth gwrs, ategir hynny gan yr arian ychwanegol yr ydym yn ei roi ar gael. Felly, nid oes unrhyw amheuaeth ynghylch ymrwymiad y Llywodraeth hon i gyflawni hyn, ond i wneud hynny drwy weithio ar y cyd â'r rhai hynny ar y rheng flaen, ar y cyd â'r plant a'r bobl ifanc eu hunain, a gwaith grŵp cynghori'r Gweinidog. Mae wedi ei ymwreiddio'n ddwfn o fewn y Llywodraeth. Ac rwy'n awyddus—ac rwy'n diolch ichi am eich geiriau caredig yn dilyn fy mhenodiad i'r swydd hon—i ddatblygu'r gwaith hwn, ac i weld y newid sylweddol hwnnw y credaf y gallwn ni ei wneud erbyn hyn.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:35, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Yn olaf, Caroline Jones.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog. A hoffwn i hefyd dalu teyrnged i waith ac ymroddiad Carl Sargeant yn y maes hwn.

Fel y mae eraill wedi amlygu, mae canlyniadau plant sy'n derbyn gofal yn llawer is nag ar gyfer plant nad ydynt yn ein system gofal. Mae'n rhaid i ni ddarparu cymorth ychwanegol ar gyfer y plant hyn, sydd eisoes wedi cael y dechrau gwaethaf posibl mewn bywyd. Fodd bynnag, yn ôl Gweithredu dros Blant Cymru, mae'r cymorth sydd ar gael i blant sy'n derbyn gofal yn loteri cod post. Mae hyn yn annerbyniol. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hyn, ac wedi neilltuo cyllid ychwanegol i wella cyfleoedd bywyd y bobl ifanc hyn. Hoffwn hefyd gydnabod y gwaith a wnaed gan David Melding, sydd â hanes hir a rhagorol o gefnogi plant sy'n derbyn gofal. Ac rwy'n falch y bydd David yn parhau i gadeirio grŵp cynghori'r Gweinidog.

Mae gennyf i un neu ddau o gwestiynau i chi, Weinidog. Mae nifer o bryderon wedi eu codi ynghylch gwasanaethau plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a dywedir wrthym ni bod y llysoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi colli ffydd yng ngallu'r awdurdod lleol i gyflawni ei ddyletswyddau o ran plant sy'n derbyn gofal. Mae hyn wedi arwain at nifer o blant yn cael eu lleoli y tu allan i'r sir. Gweinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i roi terfyn ar y loteri cod post, y cyfeiriodd Gweithredu dros Blant ato? Sut y byddwch chi'n sicrhau bod gwasanaethau plant yn gallu cyflawni eu dyletswyddau i ddiogelu pobl ifanc, sicrhau eu bod yn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl, a rhoi diwedd ar leoliadau y tu allan i'r sir pan fo hynny'n bosibl?

Gweinidog, rwy'n falch o weld bod arian ychwanegol wedi ei roi ar gael i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal ar eu taith tuag at annibyniaeth. Mae hwn yn faes yr ydym ni wedi methu ynddo yn y gorffennol. Roedd y rhaglen DIY SOS Plant Mewn Angen yn ddiweddar yn tynnu sylw at y gwaith hollol wych a wneir gan y Roots Foundation yn fy rhanbarth i. Yn ogystal â rhedeg canolfan weithgareddau i bobl ifanc sy'n derbyn gofal, mae Roots wedi darparu tai â chymorth i bobl ifanc sy'n derbyn gofal ac sy'n gadael gofal. Maen nhw'n helpu i ddarparu'r sgiliau angenrheidiol i alluogi pobl ifanc sy'n gadael gofal i fyw'n annibynnol. Gweinidog, a oes gan eich Llywodraeth chi unrhyw gynlluniau i ail-greu gwaith y Roots Foundation mewn rhannau eraill o Gymru? Ac yn olaf, Gweinidog, beth mae eich Llywodraeth chi'n ei wneud i gefnogi elusennau fel Roots, sy'n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi plant sy'n derbyn gofal, ac yn helpu i wella canlyniadau'r bobl ifanc hyn sy'n agored i niwed?

Diolch i chi unwaith eto am eich datganiad, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni i gyd weithio gyda'i gilydd, ar y cyd, i wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Diolch.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 3:38, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am y sylwadau yna, ac am eich croeso eto, a'r gydnabyddiaeth ar gyfer gwaith Carl yn y maes hwn hefyd.

Un o'r ffyrdd yr ydym ni'n edrych arni i symud y cam hwnnw ymlaen, ac i osgoi'r sefyllfa hon o'r loteri cod post hon, y ffaith y gwelir gwahaniaethau, amrywioldeb—. Rydym ni eisiau, gyda llaw, gweld arloesi—rydym ni eisiau arloesi. Rydym ni eisiau iddo fod yn seiliedig ar anghenion y boblogaeth leol, ac ar hyn yw anghenion sydd gan y plant hynny sy'n derbyn gofal, neu blant sy'n wynebu'r sefyllfa o fod yn derbyn gofal. Ond mae angen inni wneud yn siŵr bod cymorth o ansawdd da a gwasanaeth o ansawdd da ar gael iddyn nhw. Nawr, rhan o hynny yw, o ran, er enghraifft, yr ymyrraeth gynnar, a'r blynyddoedd cynnar, ceisio cyflwyno'r wybodaeth orau a'r arferion gorau ar yr hyn sy'n gweithio mewn gwirionedd, ac yna caniatáu i ardaloedd lleol fanteisio ar y gorau oll, yn hytrach na dechrau o'r dechrau drwy'r amser.

Nawr, un agwedd ar hynny yw, ein bod yn gweithredu dull o integreiddio'r blynyddoedd cynnar, yn seiliedig ar ymyrraeth gynnar ac atal—system y blynyddoedd cynnar integredig ar gyfer teuluoedd a rhieni. Nawr, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw sicrhau bod yr holl raglenni a gwasanaethau ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn dod at ei gilydd yn ddi-dor, i gael y gwerth gorau i rieni a phlant. Rydym ni'n gwybod bod rhai yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr; bod yno rai rhaglenni unigol da iawn ar gyfer teuluoedd a phobl ifanc. Sut ydych chi'n eu tynnu ynghyd yn ddi-dor? Mae'n rhaid imi gydnabod unwaith eto yr adnoddau prin sydd ar gael. Mewn gwirionedd, mae hynny'n rhoi cymhelliant ychwanegol—gwneud yn siŵr eu bod yn gweithio gyda'i gilydd yn dda.

Felly, mae fy swyddogion wedi dechrau trafodaethau â chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru, o'r gwasanaethau cymdeithasol, iechyd ac addysg, i ystyried sut i ddatblygu hyn, gyda'r nod o sicrhau dull llawer mwy ystyrlon a phenodol ar gyfer y blynyddoedd cynnar hynny. Ac elfen allweddol o'r rhaglen hon fydd prosiect dwys gyda dau fwrdd gwasanaethau cyhoeddus, un yn y Cymoedd ac un yn y gogledd, i weld sut y gellid ad-drefnu gwasanaethau'r blynyddoedd cynnar yn seiliedig ar gydweithio agosach rhwng y byrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Felly, y syniad yw ein bod ni'n cynllunio gwasanaethau sy'n cefnogi'r dull ataliol hirdymor hwn, a gallai o bosibl fod yn fodel i'w ddefnyddio yn ehangach ledled Cymru. Nawr, dyna'r dull yr ydym ni'n ei ystyried ar wahanol lefelau o ymyrraeth—sut i'w wneud yn ddi-dor a sut y gallwn ni ddysgu arferion gorau a'u rhannu ar draws Cymru?

Fe wnaethoch gyfeirio at sefydliad diddorol—Roots. Hoffwn i gael gwybod mwy am hynny er mwyn edrych arno. Nid wyf yn credu ein bod ni bellach mewn cyfnod pan fyddwn ni'n nodi grŵp ac yn dweud, 'Wel, dyma grant gan Lywodraeth Cymru.' Fodd bynnag, rydym ni yn y busnes o ddweud y dylai'r partneriaid lleol ar lawr gwlad fod, gyda'r cyllid sydd ar gael, yn edrych ar ba anghenion sydd gan y boblogaeth leol ac wedyn penderfynu pwy all ddarparu orau ar gyfer hynny. Ond hoffwn i glywed mwy am y prosiect hwnnw—efallai y gallwn ni gael sgwrs neu cewch ysgrifennu ataf. Diolch.