Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Wrth i Ddydd Sadwrn y Busnesau Bychain agosáu, rwyf i a'm cyd-Aelodau o'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r ddadl ar entrepreneuriaeth yng Nghymru, ac yn rhoi croeso gwresog iawn i'r egwyddorion sy'n sail i gynnig y Llywodraeth. Rwy'n cytuno bod rhyddhau entrepreneuriaeth yn hanfodol er mwyn creu economi gref a llewyrchus. Cytunaf hefyd bod gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth allweddol o ran creu'r amgylchedd cywir er mwyn i'r doniau entrepreneuraidd sylfaenol hyn ffynnu. Hefyd, yn ei sylwadau agoriadol, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet siarad am adeiladu'r sylfaen busnes cywir hefyd, yr wyf i hefyd yn cytuno ag ef. Rwyf i hefyd yn cytuno'n llwyr ei bod yn bwysig iawn i annog a dathlu llwyddiant pobl ifanc pan fyddant yn sefydlu eu busnes eu hunain. Rwyf yn sicr yn gefnogwr brwd o bobl ysbrydoledig yn mynd i ysgolion i ddweud wrth bobl iau am y dewis bywyd cadarnhaol sydd ar gael iddyn nhw drwy fod yn hunangyflogedig a rhedeg eu busnes eu hunain.
O ran gwelliant Plaid Cymru, roeddwn i braidd yn amheus ar y dechrau oherwydd fy mhryder i yw nad ydym ni eisiau gweld llawer o adeiladau gwag wrth greu mwy o ganolfannau. Ond rwyf wedi clywed yr esboniad ehangach gan Plaid Cymru o ran eu gwelliant, ac rwy'n hapus i ddangos ein cefnogaeth i'r gwelliant hwnnw y prynhawn yma.
Mae'r Anghenraid Cenedlaethol am Entrepreneuriaeth yn bodoli heddiw, fel yr oedd 18 mlynedd yn ôl, pan sefydlwyd y Cynulliad gyntaf. Nid wyf yn credu, mewn 18 mlynedd, ein bod ni wedi dod yn agos at harneisio potensial entrepreneuraidd, fel y dylem ni, efallai, fod wedi gwneud. Mae'n rhaid imi ddweud, yn anffodus, fy mod i'n credu bod y data yn siarad drosto'i hun. Rwy'n gwybod y soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am gynnydd yn nifer y mentrau newydd, ond, o'r ymchwil yr wyf i wedi ei wneud, mae llai o fentrau newydd cofrestredig yng Nghymru nag yn y DU yn ei chyfanrwydd, ac mae sefydlu busnesau yng Nghymru yn cynrychioli cyfran lai o fusnesau nag unrhyw ranbarth arall yn y DU.
Mae'n amlwg bod economi gref, hunangynhaliol a diwylliant o entrepreneuriaeth yn seiliedig ar gymorth busnes priodol. Rydym ni'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn draddodiadol wedi ffafrio benthyciadau nad oes angen eu talu'n ôl, sy'n dal yn cyfrif am dros ddwy ran o dair o'r holl fenthyca cyfalaf cyfan i gwmnïau Cymru, ac mae hyn er gwaethaf, wrth gwrs, nod datganedig Llywodraeth Cymru i drosglwyddo i ddiwylliant ble mae pwyslais mwy ar fuddsoddi o ran arferion benthyca busnesau. O'm safbwynt i, mae cwmnïau Cymru'n llawn haeddu cymorth ariannol Llywodraeth Cymru, ond hefyd mae trethdalwyr Cymru yn haeddu ymrwymiadau cryf gan Lywodraeth Cymru y caiff yr arian a roddwyd i gwmnïau preifat ei ad-dalu yn y pen draw a'i ailgylchu er budd busnesau newydd eraill a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill. Felly, yn hyn o beth, rwyf yn credu bod Llywodraeth Cymru yn methu â chreu'r amgylchiadau busnes cywir a phriodol. Wedi dweud hynny, credaf mai'r banc datblygu yw'r sefydliad cywir i gefnogi busnesau bach a chanolig dros y tymor hir. Bydd hi'n hanfodol, wrth gwrs, y caiff y banc y lefel gywir o gyllid i ddarparu cymorth ariannol doeth a mwy penodol i hybu twf ymhlith busnesau bach a chanolig.
Mewn amgylchedd lle'r ydym ni wedi gweld 25% yn llai o fusnesau newydd yn cael eu sefydlu, rwyf yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddangos bod Cymru'n rhoi croeso mawr i fusnesau, a chael gwared ar rai o'r rhwystrau a'r llyffetheiriau sy'n wynebu entrepreneuriaid, drwy gynllun parhaol ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau bach a ffordd newydd o ymdrin â'r ardaloedd menter, y credaf y buont, mae'n drist gen i ddweud, yn fethiant, o ystyried y data a gawsom ni hyd yma. Nid yw'r ffigurau yn rhai cadarnhaol. Mae pob swydd newydd a grëwyd o ganlyniad i'r polisi blaenllaw hwn wedi dod ar gost o £74,000, gyda £221 miliwn wedi'i fuddsoddi ers 2012. Nawr, sefydlwyd ardaloedd menter gan Lywodraeth Cymru i hybu'r economi leol ac i ddarparu swyddi newydd, ond ychydig o dystiolaeth sydd o hynny hyd yn hyn. Rwy'n sylweddoli y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud, yn ei 40 eiliad, bod yn rhaid iddo gael dull tymor hwy yn y fan yma. Ie, gadewch i ni weld hynny'n digwydd. Gobeithio'n wir mai dyna sut y bydd hi.
Rwy'n awgrymu bod angen ffordd newydd o weithio a fydd yn gweld Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos â Llywodraeth y DU ar y strategaeth ddiwydiannol i helpu busnesau Cymru i greu swyddi gwell sy'n talu'n well. Yn hynny o beth, mae'r strategaeth yn gwneud ymrwymiadau clir iawn i hyrwyddo bargeinion dinesig Cymru a bargeinion twf Cymru. Fe'm calonogwyd yr wythnos diwethaf pan gyfeiriodd y Canghellor at fargen twf Canolbarth Cymru. Fe'm calonogwyd yn fawr gan hynny, ac mae hynny, wrth gwrs, yn argymhelliad a wnaeth y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau yn ddiweddar hefyd. Rwy'n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth yn ymateb yn gadarnhaol i hynny. Rwy'n edrych ar y cloc ac mae fy amser ar ben, ond rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn llwyddo i fynd i'r afael â llawer o'm mhwyntiau i yn y 40 eiliad sydd ganddo.