Grŵp 1. Dileu’r ataliad dros dro presennol ar yr hawl i brynu (Gwelliannau 5, 14, 9, 11, 1, 3)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:48, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Ac rwyf yn cynnig gwelliant 5. Cyn imi siarad am welliant 5, a gaf i ddweud ychydig eiriau am Carl Sargeant, a oedd, wrth gwrs, yn Ysgrifennydd y Cabinet yng Nghyfnodau 1 a 2 y Bil hwn? Rhaid imi ddweud, ar ôl cwblhau cyfnod 2, lle'r oedd llawer o ddadleuon difrifol iawn ynghylch materion o egwyddor, ni chredais am eiliad y byddwn yn y sefyllfa hon o orfod gwthio fy ngwelliannau yng Nghyfnod 3 a chael person gwahanol yn ymateb.

Drwy gydol y ddadl, roeddwn yn ystyried Carl i fod yn gwrtais, yn deg ac yn anodd ei drechu, rhaid dweud. Ac ni chafwyd llawer o ymatebion o ran ildio i'r hyn yr oeddem yn galw amdano yng Nghyfnod 2, ond rwy'n siŵr y byddai wedi disgwyl imi roi'r ddadl lawn yma yn y cyfarfod llawn ar gyfer pwyntiau dilys o egwyddor lle'r ydym yn anghytuno, ond, mewn perthynas â'r Bil hwn, lle credwn y byddai'n gwella'r Bil, o ystyried bod y Cynulliad yn awr yn ystyried rhyw fath o ddiddymu.

Felly, os caf gynnig, Llywydd, i bwrpas gwelliant 5, sydd yn cael gwared ar ataliadau dros dro ar yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn yr ardaloedd sydd wedi'u dynodi i fod wedi'u hatal dros dro ar hyn o bryd dan Fesur Tai (Cymru) 2011. Ar hyn o bryd, y rhain yw Caerdydd, Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Bydd hyn yn galluogi tenantiaid cymwys yn yr ardaloedd hynny i arfer eu hawliau fel unrhyw denantiaid cymwys eraill ledled Cymru, hyd nes bydd y diddymiad yn dod i rym.

Mae gwelliannau 14, 9, 11, 1 a 3 yn welliannau canlyniadol y mae eu hangen i wneud y prif welliant yn effeithiol.

Llywydd, rwyf wedi cyflwyno gwelliant 5 oherwydd credaf y byddai Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) wedi bod yn annheg, pe byddai'n cael ei weithredu fel y saif ar hyn o bryd. Os yw'r Llywodraeth yn benderfynol o gael gwared yn gyfan gwbl ar yr hawl i ddefnyddio'r hawl i brynu ar gyfer y tenantiaid hynny yn y chwe awdurdod a ataliwyd dros dro, tra'n ymestyn cyfnod gras i denantiaid yn yr 16 awdurdod sy'n weddill, yna i bob pwrpas byddai'r Llywodraeth yn creu dau gategori o denantiaid ar y mater sylfaenol hwn. Gallai fod, yn fy marn i, oblygiadau hawliau dynol difrifol ar y mater hwn, ac nid wyf yn credu bod y Llywodraeth wedi ymateb yn ddigonol hyd yma i'r pryderon hyn yn ystod unrhyw gam o'r ystyriaethau hyd yn hyn.

Yn ystod sesiynau tystiolaeth Cyfnod 1 y Pwyllgor, gwelsom gymaint o broblem oedd hyn. Amlygodd rhai o'r cyfranwyr, mewn ardaloedd lle'r oedd ataliad dros dro ar waith ar hyn o bryd, y gellid ystyried bod peidio â rhoi'r cyfle i denantiaid brynu eu cartref cyn diddymu yn annheg. Credaf fod y pwynt hwn wedi cael ei bwysleisio ar bob aelod o'r Pwyllgor, hyd yn oed os na wnaethant newid eu safbwynt yn y pen draw. Roedd y dystiolaeth yn gryf.

Yn ystod y sesiynau tystiolaeth, dywedodd cynrychiolwyr o Ddinas a Sir Abertawe eu bod eisoes wedi cael profiad o denantiaid oedd yn mynegi cwynion ynghylch annhegwch peidio â chael cyfle i brynu eu cartrefi cyn i'r diddymu ddod i rym. Pwysleisiodd ymatebwyr eraill, gan gynnwys Shelter Cymru, y dylid rhoi mwy o ystyriaeth i'r mater hwn o ecwiti.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef ei bod wedi cael sylwadau gan denantiaid unigol, a gwn y gall pob un ohonom werthfawrogi hynny oherwydd rwyf i wedi derbyn llawer o ymatebion hefyd gan etholwyr pryderus. Yn wir, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet, pan ymatebodd i'r gwelliant hwn yng Nghyfnod 2, ildio'r pwynt a dweud ei fod yn deall y rhesymeg y tu ôl i'r gwelliannau hyn mewn cysylltiad â gwneud sylwadau unigolion.

Credaf fod y gwelliant hwn yn hanfodol os ydym i fod yn deg â'r holl denantiaid ledled Cymru, wrth gynnig iddynt un cyfle olaf i brynu eu cartref, a gobeithio y bydd y Siambr yn cadw hyn mewn cof wrth ystyried y gwelliant hwn. Rwy'n gwneud y cynnig felly.