Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Diolch, Llywydd. Rydw i am siarad am y gwelliannau ond hefyd am amlinellu agwedd Plaid Cymru at y Bil. Bu Plaid Cymru yn gwrthwynebu hawl i brynu ers tro byd, efo ein haelodau ni yn cefnogi dileu’r hawl i brynu mewn cynigion i’r gynhadledd—cynadleddau’r blaid—ers degawdau, o’r adeg y gweithredwyd y polisi i ddechrau gan y Llywodraeth Geidwadol. A phan roeddem ni’n rhan o glymblaid Cymru’n Un, fe wnaethon ni geisio gweithredu’r polisi yma yn unol â dymuniadau ein haelodau ni drwy sicrhau’r pwerau deddfwriaethol i wneud hynny. Ers hynny, caniatawyd i awdurdodau lleol wneud cais i atal yr hawl i brynu, ac yn wir fe wnaeth rhai hynny. Mae awdurdodau o dan reolaeth y blaid a rhai dan reolaeth pleidiau eraill wedi manteisio ar hyn i warchod eu stoc tai a gwarchod buddsoddiadau yn y stoc tai. Felly, yn amlwg, mi fyddwn ni’n cefnogi y Bil yma. Ac yn wir, rydym ni wedi cymryd rhan lawn yn y broses graffu, ac rydym ni’n credu bod hyn wedi arwain at Fil cryfach o ganlyniad. Rydym ni wedi gweithio efo’r Llywodraeth ar welliannau 15 ac 16, ac felly rydym ni’n gobeithio y bydd y rheini yn pasio.
Yn unol â’r agwedd yma, byddwn yn pleidleisio dros y Bil a byddwn yn pleidleisio yn erbyn y gwelliannau Ceidwadol a fydd, yn ein barn ni, yn glastwreiddio bwriad polisi’r Bil. Ond tybiaf ei fod yn deg dweud hefyd, er y bydd y ddeddfwriaeth yn gam cadarnhaol tuag at warchod y stoc tai, ynddo'i hun, ni fydd yn ddigon. Mewn llawer ffordd, daw’r ddeddfwriaeth hon yn rhy hwyr i warchod y stoc a gollwyd. Rydym ni’n gwybod bod yna ddiffyg enfawr o ran tai cymdeithasol, efo rhestri aros yn parhau yn warthus o uchel. Ers 1980, dim ond 60,000 o gartrefi newydd a godwyd yn y sector awdurdodau lleol neu dai cymdeithasol. Mae yna 90,000 ar y rhestr ar hyn o bryd. Dros y bum mlynedd diwethaf, rydym ni wedi codi, ar gyfartaledd, 950 o dai newydd yn y sector tai cymdeithasol o dan y Llywodraeth yma. Ar y rât yma, mae'n mynd i gymryd 95 mlynedd i godi digon o dai i fynd i'r afael â'r rhestr aros a rhagdybio na fydd newid net yn y galw, sydd yn llawer rhy hir.
Ac ydy, mae'n wir y gallai'r bobl hynny mewn tai cymdeithasol fod yn awr eisiau bod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, ond mae'r cyfuniad o gyflogau isel, cyflogaeth ansicr a phrisiau tai uchel yn rhwystr, felly mae angen i ni adeiladu mwy o dai cymdeithasol, a rhoi llawer mwy o gefnogaeth i bobl i fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, trwy gefnogaeth i brynwyr tro cyntaf, er enghraifft.
Mae yna rai cynlluniau ar y gweill yn barod. Mae yna un yn cael ei gynnal yn fy ardal i, lle rydych chi'n talu rhent canolradd ar eich eiddo cymdeithasol, ac yna mae gennych chi ddewis o brynu'r tŷ, ond os ydych chi'n symud ymlaen, wedyn, i'w werthu fo, mae'n rhaid i chi ei werthu fo yn ôl i bobl leol. Gallai dulliau fel hyn fod yn erfyn gwerthfawr i helpu perchnogaeth eiddo mewn ardaloedd lle mae'r pris cyfartalog yn sylweddol uwch na'r cyflogau lleol. Ac mewn rhannau o Wynedd, mae hynny'n sicr o fod yn wir.
Felly, mae gwarchod ein buddsoddiad drwy basio'r ddeddfwriaeth yma'n un cam bychan o'r hyn sydd angen ei wneud, ac rydw i'n cofio clywed Carl Sargeant ei hun yn dweud yn y pwyllgor mai darn yn unig o'r jig-so ydy'r ddeddfwriaeth yma; mae angen dipyn mwy na'r cydsynio i hyn, heddiw. Felly, rydw i'n mawr obeithio na fyddwn ni'n gweld y Ddeddf yma fel diwedd y daith.
Gair am welliannau'r Torïaid: mae'r gwelliannau hyn i gyd yn codi atal yr hawl i brynu mewn ardaloedd lle mae hyn eisoes mewn grym. Rydym ni'n credu y byddai hyd yn oed codi'r atal dros dro yn niweidiol, ac fel rhan o'r cyfnod ataliol, mae tenantiaid yn yr ardaloedd penodedig eisoes wedi cael cyfle i brynu tra roedd yr atal yn mynd drwy'r broses, felly fe fyddwn ni'n pleidleisio yn erbyn y gwelliannau.