Grŵp 1. Dileu’r ataliad dros dro presennol ar yr hawl i brynu (Gwelliannau 5, 14, 9, 11, 1, 3)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 5:00, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Codaf i gefnogi gwelliannau fy nghyd-Aelod, David Melding, yn enwedig gwelliant 5. Nid wyf yn cytuno â diddymu'r hawl i brynu. Rwy'n adnabod gormod o bobl sydd wedi cael y gallu i brynu cartref, ac ni fyddent wedi cael y cyfle hwnnw o'r blaen. Ond rwy'n barod i dderbyn bod honno'n frwydr sydd wedi'i cholli eisoes, ac rwy'n deall y gwrthwynebiad ideolegol i hyn. Ond, os ydych yn mynd i wneud hyn, yn syml yr hyn na allaf ei ddeall yw'r ffaith nad ydych yn mynd i fod yn deg yn ei gylch, ac rwy'n disgwyl bod unrhyw gyfraith yr ydym ni fel Cynulliad yn ei phasio i fod yn deg a chydradd i holl Aelodau ein cymdeithas.

Ni allaf ddeall pam nad yw rhai pobl, yn bennaf y rheini yn y chwe sir sydd eisoes wedi'u hatal dros dro, yn mynd i gael y cyfle i brynu eu cartrefi os ydynt yn dymuno hynny. Nid wyf yn credu bod y niferoedd, mewn gwirionedd, mor uchel â hynny, ond y pwynt yw ein bod ni'n gwneud dau ddosbarth o denantiaid. Clywais y pwynt a wnaeth Jenny Rathbone am y fwlturiaid yn disgyn ar Gaerdydd, ond yna gallech ddweud y bydd y fwlturiaid yn disgyn ar bob un arall sydd heb ataliad dros dro ar hyn o bryd. Yr hyn y credaf yr ydym yn ei wneud yw bod yn eithriadol o annheg. Rwyf wedi cael nifer sylweddol o bobl yn ysgrifennu ataf o Sir Gaerfyrddin sydd wedi methu prynu eu tai a byddent wedi hoffi cael y cyfle hwnnw. Nid oeddent yn sylweddoli bod ataliad dros dro yn mynd i ddigwydd. Pan ddigwyddodd, roeddent yn rhagdybio y byddai'n dod i ben ar ryw adeg a gallent wneud hynny, ac maent wedi bod yn teimlo'n ddig gan y ffaith eu bod nhw'n mynd i gael eu trin yn wahanol i bobl yn Sir Benfro neu Geredigion, ac yn syml —