Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Byddai Carl Sargeant wedi bod yn siomedig pe na fyddai David Melding wedi cyflwyno'r gwelliant hwn. Roedd yn parchu sefyllfa David yn llwyr, rwy'n siŵr, er nad oedd yn cytuno ag ef. A'r hyn a ddywedodd ar y pryd oedd, 'Rwy'n derbyn pwyntiau'r Aelod ynghylch yr angen i adeiladu mwy o dai, ond tra'r ydym ni'n eu hadeiladu, rydym yn dal i'w colli nhw drwy'r hawl i brynu ac ni all hynny barhau.'
Felly, fel Aelod dros Gaerdydd, byddwn yn bryderus iawn ynghylch y cynnig i gael gwared ar atal yr hawl i brynu yng Nghaerdydd. Mae gennym fwy na 8,000 o bobl ar y rhestr aros am dai yng Nghaerdydd. Byddai'r gwelliant hwn ar unwaith yn gwahodd y fwlturiaid i ddisgyn ar Gaerdydd a dechrau poeni pobl i arfer eu hawl i brynu, yn rhoi'r arian blaendal iddynt ac yna'n eu symud i lety mewn mannau eraill, fel y gall y fwlturiaid ddefnyddio'r tŷ hwn, a adeiladwyd ag arian cyhoeddus, ar gyfer elw preifat. Felly, ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn, ac rwy'n gobeithio na fyddwn ni, ar y cyd, yn gwneud hynny ychwaith.
Mae gwahaniaeth enfawr rhwng rhenti tai cyngor yng Nghaerdydd a rhenti cyfartalog mewn llety rhent preifat yng Nghaerdydd, sydd, yn anffodus, ymhell y tu hwnt i'r hyn sy'n fforddiadwy i bobl ar gyflogau isel, a dyna sy'n ysgogi'r lefel anochel hon o gam-fanteisio. Yn fy marn i, gan fod cymaint o brinder, mae'n rhaid i dai cymdeithasol gael eu neilltuo ar sail angen yn hytrach nag ar sail incwm. Felly, hyd nes y bydd gennym neb, neu nifer fach iawn yn unig, ar y rhestr aros am dai, nid wyf yn credu y gallwn fforddio gollwng ein gafael ar yr asedau gwerthfawr o dai cyngor sydd gennym. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn trechu'r gwelliant hwn.