Grŵp 1. Dileu’r ataliad dros dro presennol ar yr hawl i brynu (Gwelliannau 5, 14, 9, 11, 1, 3)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 5:02, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Ataliad dros dro—wel, fel y mae David yn ei ddweud, nid yw ataliad dros dro yr un fath â diddymu, a bydd y bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny yn awr yn gwybod nad oes ganddynt unrhyw gyfle bellach i allu prynu eu cartref. Y cyfan yr ydym yn gofyn amdano yw eu bod yn cael eu trin yr un fath â phobl yn Sir Benfro neu bobl yng Ngheredigion, ac mae ganddynt y flwyddyn honno o ras. Os ydynt yn prynu eu tŷ, maent yn prynu eu tŷ; os nad ydynt yn prynu'r tŷ, yna nid ydynt yn ei brynu, ac wedyn awn ymlaen o hynny ac mae pawb yn cael eu trin yr un fath.

Ond mae'r lle hwn bob amser yn mynd ymlaen ac ymlaen am gydraddoldeb, ac rydym yn dweud mai cydraddoldeb yw un o egwyddorion sylfaenol y Cynulliad. Ond heddiw, rydym ar fin gwneud darn o gyfraith sydd braidd yn anghyfartal, sy'n dweud, 'os ydych yn digwydd bod yn denant yn rhai o'n hawdurdodau lleol, mae gennych flwyddyn i gynilo arian, cael morgais a phrynu eich cartref, ond os ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin neu'r pump arall, druan â chi, rydych wedi colli eich cyfle.' Credaf fod hynny'n sylfaenol annheg. Rwy'n gofyn ichi, Gweinidog, oherwydd ein bod yn adeiladu ein busnes, ein Senedd dan egwyddorion gwahanol—mae cydraddoldeb yn sail i bopeth yr ydym yn dweud ein bod am wneud—ond nid yw hyn yn deg. Os ydych chi'n mynd i'w ddiddymu, diddymwch ef, ond diddymwch ef yn gyfartal i bawb, a gadewch i'r chwe awdurdod hynny gael gras am y flwyddyn ychwanegol honno ar gyfer y llond dwrn o bobl a allai fod yn dymuno prynu eu cartrefi.