Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Y prif reswm dros brinder tai cymdeithasol yw, heb fynd yn ôl i hen hanes, fod Llywodraethau Cymru yn nhri thymor cyntaf y Cynulliad wedi penderfynu rhoi blaenoriaeth isel i hynny yn eu cyllid, a thorrwyd dros 70 y cant ar y cyflenwad o dai cymdeithasol newydd dros gyfnod o 12 mlynedd. Cafwyd rhybuddion gan y sector, o'r sector masnachol i'r sector elusennol, y byddai hyn yn digwydd. Bob tro, yn aml gyda chefnogaeth Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y dyddiau hynny, y byddwn i'n gwneud cynnig yn tynnu sylw at y rhybuddion o argyfwng tai Cymru, yr ymateb gan Lywodraeth Cymru oedd peidio ag ymateb i'r pryderon sylweddol a godwyd gan y sector tai, ond cyflwyno gwelliant i gael gwared ar y term 'argyfwng tai Cymru'. Roedd hynny'n frad. Dyna'r rheswm sylfaenol dros fod yma heddiw.
Bellach, ceir elfen o ddal i fyny, ond, yn anffodus, yn dal i fod, mae nifer y tai cymdeithasol a ddarperir yn sylweddol is na'r lefelau gofynnol. Mae rhywfaint o gelu yn mynd ymlaen gyda'r defnydd o'r term 'tai fforddiadwy', ond gwyddom fod hynny'n cynnwys rhent canolradd, perchentyaeth cost isel ac unrhyw beth arall y gellir ei ychwanegu i helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni targed sy'n dal yn sylweddol is na'r lefelau y mae adroddiadau annibynnol olynol wedi dweud sydd eu hangen arnom. Gwyddom, o ymchwil annibynnol, y bydd y tenant tai cyngor cyffredin sy'n preswylio yn ei gartref heddiw yn aros yn y cartref hwnnw am 15 mlynedd arall. Felly, bydd yr effaith ar gynyddu'r cyflenwad o bobl ar restrau aros, neu'r bobl mewn argyfwng tai, yn ddibwys. Ond ers 2010 yn Lloegr, ac ers 2010 gyda'r pwerau sydd wedi'u datganoli i Weinidogion Cymru, mae cyfle i ddefnyddio'r enillion i adeiladu tai cymdeithasol newydd—tai cyngor—a thynnu rhai pobl oddi ar y rhestr aros am dai, ond ni fydd y cynnig hwn yn ei gyflawni. Gyda gwelliannau David Melding, gellid sicrhau o leiaf rhywfaint o arian i adeiladu rhai tai cymdeithasol newydd a thynnu rhai pobl oddi ar restrau aros am dai mewn niferoedd na allai'r dull amgen yr ydych chi'n ei gynnig hyd yn oed freuddwydio am ei gyflawni. Mae hynny'n hunanddinistriol. Mae'n wael o ran economeg tai, ac, yn anffodus, mae'n ychwanegu at y brad a fu yn ystod tymhorau blaenorol y Cynulliad hwn.