Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Diolch ichi, Llywydd. Nod y Bil hwn yw diddymu'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael yng Nghymru yn barhaol. Rwy'n ofni bod y gwelliant hwn yn achosi anhawster i'r Llywodraeth oherwydd mae'n ddiddymiad llwyr sy'n rhoi hwb sylweddol i landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi mewn eiddo newydd, gan wybod na fyddant yn colli drwy'r cynllun hawl i brynu ar ôl cyfnod cymharol fyr o amser. Nid yw diddymu dros dro, a geisir gan welliant 6, yn rhoi unrhyw sicrwydd o'r fath i landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi mewn adeiladu tai newydd. Yn wir, nododd y dystiolaeth o sesiynau rhanddeiliaid y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol fod awdurdodau lleol yn chwilio am sicrwydd y tu hwnt i'r hyn a ddarperir gan atal dros dro y bydd eu buddsoddiadau yn y dyfodol yn cael eu diogelu.
Mae'r Mesur tai sy'n bodoli eisoes yn galluogi awdurdodau lleol i wneud cais i'r hawl i brynu gael ei atal dros dro am bum mlynedd, ac y gellir ei ymestyn i 10 mlynedd ar gais ac wrth ddarparu tystiolaeth ategol. Felly, mae'n rhaid dweud nad yw'r gwelliant hwn yn darparu llawer mwy na'r ddeddfwriaeth bresennol. Byddai'r cyfnod dros dro yn cyflwyno dryswch yn y sector ac ni fyddai'n darparu cymhelliant hirdymor i landlordiaid fuddsoddi mewn stoc newydd. Fel y dywedodd Siân Gwenllian, os dymuna'r Llywodraeth yn y dyfodol ailgyflwyno'r hawl i brynu, wel, byddai hynny'n fater iddynt hwy, ond roedd yn ymrwymiad maniffesto ar gyfer y Llywodraeth hon—ac, fel yr amlinellwyd gan Siân Gwenllian, roedd yn ymrwymiad maniffesto Plaid Cymru hefyd—i ddiddymu'r hawl i brynu er mwyn diogelu stoc i'w ddefnyddio gan bobl â'r angen mwyaf am dai. Felly, anogaf yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn gwelliant 6 a gwelliannau cysylltiedig.