– Senedd Cymru am 5:17 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 2, sy'n ymwneud â'r cyfnod diddymu. Gwelliant 6 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Rydw i'n galw ar David Melding i gynnig y prif welliant a siarad am y gwelliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp—David Melding.
Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig gwelliant 6. Byddaf yn siarad am y gwelliannau eraill.
Cyflwynwyd gwelliant 6 gyda'r bwriad o gyfyngu ar weithrediad y Ddeddf i 10 mlynedd, pryd y caiff Gweinidogion Cymru wedyn osod rheoliadau yn cynnig bod y diddymu yn cael ei wneud yn barhaol. Byddai'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud yn amodol ar y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol, ac felly byddai angen pleidlais gan y Cynulliad.
Mae'r ddau welliant 13 a 2 yn ganlyniadol i'r prif welliant a'i weithredu.
Llywydd, mae Ceidwadwyr Cymru wedi cyflwyno nifer o ddewisiadau amgen ac adeiladol i ddiddymu'r hawl i brynu, oherwydd rydym yn cydnabod y cyfleoedd y mae'r hawl i brynu wedi'u rhoi, ac yn dal i'w rhoi, i gannoedd o deuluoedd ledled Cymru. Ond, fel yr awgrymais yn gynharach, nid ydym yn fyddar i rai o'r pryderon y mae pobl wedi'u mynegi am agweddau ar y polisi hawl i brynu. Mae dewisiadau amgen o'r fath wedi cynnwys diwygio system y derbynebau fel ei bod yn gweithredu ar sail gyfatebol, neu ddiwygio'r hawl i brynu fel bod adeiladau newydd wedi'u heithrio rhag y polisi hyd nes eu bod wedi bod yn denantiaethau wedi'u rhentu'n gymdeithasol am gyfnod penodol o amser.
Yn anffodus, nid wyf wedi llwyddo i berswadio'r Llywodraeth o'r dewisiadau amgen hyn, ac rwyf yn gresynu hynny'n fawr. Fel y dywedais yn gynharach, rhaid inni gyfaddef bod yr egwyddor wedi'i derbyn. Felly, diben y gwelliant hwn yw annog y Llywodraeth i fyfyrio ar y polisi ar ôl cyfnod o 10 mlynedd o leiaf. Byddai'r gwelliant hwn hefyd yn ategu cyhoeddiadau diweddar o ran mwy o fuddsoddi yn y cyflenwad o dai cymdeithasol, yr ydym wedi clywed sydd mor bwysig. Addawodd y Prif Weinidog yn ddiweddar i fuddsoddi £2 biliwn ychwanegol mewn tai fforddiadwy dros ddwy flynedd o 2019, a disgwylir i'r rhan fwyaf o hynny fod yn dai cyngor. Rwy'n mawr obeithio y byddwn yn gweld y math hwnnw o uchelgais a pholisi yn dod i'r amlwg yng Nghymru gyda Llywodraeth Cymru hefyd.
Felly, mwy o fuddsoddi mewn tai cymdeithasol ac mae'r opsiwn o hawl diwygiedig i brynu yn dod yn fwy hyfyw, yn fy marn i, hyd yn oed ym meddyliau'r beirniaid. Wedi'r cyfan, ni wnaeth Llywodraeth Cymru, fel y deallaf, wrthwynebu'r hawl i brynu mewn egwyddor. Os felly—a dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet hynny yn nhrafodion Cyfnod 1 a 2—ni ddylai'r gwelliant hwn achosi unrhyw anhawster i'r Llywodraeth. Nid yw'n mynd yn erbyn eu bwriad sylfaenol yn y Bil. Wedi'r cyfan, os yw'r sefyllfa, yn eu barn nhw, yn ddim gwell ymhen 10 mlynedd, yna gallant ddarbwyllo'r Siambr hon i ddiddymu'r hawl i brynu yn barhaol. Byddai hynny'n cael ei ganiatáu dan y gwelliant yr wyf yn ei wneud.
A gaf i ddweud, Llywydd, y bu symudiad cyfan i'r gwaith craffu ar ôl deddfu mewn dadleuon gwleidyddol ar draws y byd? Mewn sawl ffordd, mae'r gwelliant hwn yn cwmpasu'r egwyddorion hynny. Dywedodd Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi na ddylai cyfrifoldeb y Senedd ar gyfer deddfwriaeth ddod i ben ar ôl i'r Bil ddod yn Ddeddf. Credaf y gall y Cynulliad adlewyrchu hynny drwy gael y math hwn o ddarpariaeth, sef mynd yn ôl ac edrych ar Fil ar ôl 10 mlynedd, ac yna cael pleidlais ar p'un a ddylai barhau.
Byddwn yn dweud bod gan dull o'r math hwn—o bleidlais gadarnhaol arall ar ôl cyfnod o amser—flaenoriaeth gadarn ar ddarnau sylfaenol o ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â hawliau pobl. Mae'r Senedd wedi defnyddio'r mecanwaith hwnnw, a chredaf felly ei fod y peth rhesymegol inni ei wneud. Felly, gobeithio y bydd y Siambr yn derbyn y ffordd arloesol hon o ddod i ryw fath o gyfaddawd, ac efallai gynnal y gobaith i'r rhai sydd mewn gwirionedd yn credu ei fod yn fater cyflenwad, ac yn y bôn y gall yr hawl i brynu fodoli mewn polisi tai rhesymol sydd â thai cymdeithasol a rhagoriaeth tai cymdeithasol wrth ei wraidd. Felly, cynigiaf y gwelliant.
Rydw i'n meddwl ei bod yn reit amlwg beth yw bwriad y gwelliannau yma. Mi fyddai'r gwelliannau, o'u pasio, yn cyfyngu gweithrediad y Ddeddf i 10 mlynedd, ac ar ôl hynny, mi allai Gweinidogion Cymru osod rheoliadau sydd yn cynnig gwneud y dileu yn barhaol. Rŵan, buaswn i'n dadlau nad oes dim angen y gwelliannau yma o gwbl. Ymhen 10 mlynedd, neu unrhyw bryd yn y dyfodol, gallai unrhyw Lywodraeth ddeddfu i ailgyflwyno'r hawl i brynu, a byddai deddfwriaeth newydd yn destun llawer mwy o graffu nag unrhyw reoliadau. Felly, beth bynnag ydy eich barn chi am egwyddor y Ddeddf yma, os ydych chi o blaid craffu ar ddeddfwriaeth yn llawn, pleidleisiwch yn erbyn y grŵp yma o welliannau.
Cytunaf yn llwyr â'r hyn y mae Siân Gwenllian newydd ei ddweud. Mae'n ymddangos i mi ei bod yn gwbl bosibl i'r Cynulliad wyrdroi'r Ddeddf hon pe bai'r sefyllfa'n newid. Ond nid wyf yn credu bod unrhyw beth arloesol am yr hyn y mae David Melding yn ei gynnig. Pe byddech wedi cyflwyno cynnig i ganiatáu i awdurdod lleol nad oes ganddo restr aros am dai ac sy'n cael trafferth llenwi'r cartrefi hynny— byddai hwnnw'n gynnig y byddwn yn edrych arno gyda diddordeb mawr, oherwydd credaf fod honno'n sefyllfa lle byddai'n berffaith bosibl i adael i'r tai hynny fynd o'r sector cymdeithasol. Ond er bod y niferoedd mawr o bobl sy'n aros i gael cartrefi gweddus wedi cronni dros y 36 mlynedd diwethaf, lle'r ydym wedi caniatáu i'r eiddo hyn fynd o'r sector tai cymdeithasol, ac ni ddaeth dim yn eu lle mewn 36 o flynyddoedd ers i Mrs Thatcher ei gyflwyno—dyna sydd wedi creu'r drasiedi sydd gennym heddiw.
Nid wyf yn credu bod y cynigion arfaethedig gan Lywodraeth y DU yr wythnos diwethaf i adeiladu 300,000 o gartrefi y flwyddyn, ar ôl gwneud cyn lleied yn y saith mlynedd diwethaf, yn unrhyw beth heblaw rhith. Nid oes un o'r cartrefi newydd lledrithiol hyn yn cael eu hadeiladu, cyn belled ag yr wyf i'n ymwybodol ohonynt—fel tai cyngor, beth bynnag. Pryd wnaeth y farchnad erioed ddarparu cartrefi sydd eu hangen ar deuluoedd cyffredin ar incwm cyfartalog mewn gwirionedd? Cofiaf y budreddi o'r 1960au a'r 1970au pan oedd rhai awdurdodau lleol Llafur yn gorfod prynu strydoedd cyfan o dai canol dinas a oedd yn pydru oddi wrth landlordiaid preifat a'u troi'n gartrefi cyngor—roedd hyn yn dangos yn ddiriaethol ac yn rymus bŵer gwladwriaeth yn gwneud yn iawn am fethiant yn y farchnad. Felly, pa gamau fyddai David Melding yn cynnig y dylem eu cymryd yn erbyn y prif adeiladwyr tai sydd eisoes yn eistedd ar fanciau tir sydd â chaniatâd cynllunio ar gyfer tai y maent yn dewis peidio ag adeiladu arnynt? Nid wyf yn gweld trawsnewid o'r angen brys am dai yn y ddegawd nesaf, ac felly ni chredaf ein bod yn creu ateb i'r broblem yn y ffordd gywir drwy ei gwneud yn syml yn brosiect 10 mlynedd. Rhaid inni sicrhau ein bod yn diddymu'r hawl i brynu hyd nes na fydd gennym broblem, gyda'r rhai sydd angen tai cymdeithasol yn gallu cael eu lletya mewn cartrefi priodol.
Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans.
Diolch ichi, Llywydd. Nod y Bil hwn yw diddymu'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael yng Nghymru yn barhaol. Rwy'n ofni bod y gwelliant hwn yn achosi anhawster i'r Llywodraeth oherwydd mae'n ddiddymiad llwyr sy'n rhoi hwb sylweddol i landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi mewn eiddo newydd, gan wybod na fyddant yn colli drwy'r cynllun hawl i brynu ar ôl cyfnod cymharol fyr o amser. Nid yw diddymu dros dro, a geisir gan welliant 6, yn rhoi unrhyw sicrwydd o'r fath i landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi mewn adeiladu tai newydd. Yn wir, nododd y dystiolaeth o sesiynau rhanddeiliaid y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol fod awdurdodau lleol yn chwilio am sicrwydd y tu hwnt i'r hyn a ddarperir gan atal dros dro y bydd eu buddsoddiadau yn y dyfodol yn cael eu diogelu.
Mae'r Mesur tai sy'n bodoli eisoes yn galluogi awdurdodau lleol i wneud cais i'r hawl i brynu gael ei atal dros dro am bum mlynedd, ac y gellir ei ymestyn i 10 mlynedd ar gais ac wrth ddarparu tystiolaeth ategol. Felly, mae'n rhaid dweud nad yw'r gwelliant hwn yn darparu llawer mwy na'r ddeddfwriaeth bresennol. Byddai'r cyfnod dros dro yn cyflwyno dryswch yn y sector ac ni fyddai'n darparu cymhelliant hirdymor i landlordiaid fuddsoddi mewn stoc newydd. Fel y dywedodd Siân Gwenllian, os dymuna'r Llywodraeth yn y dyfodol ailgyflwyno'r hawl i brynu, wel, byddai hynny'n fater iddynt hwy, ond roedd yn ymrwymiad maniffesto ar gyfer y Llywodraeth hon—ac, fel yr amlinellwyd gan Siân Gwenllian, roedd yn ymrwymiad maniffesto Plaid Cymru hefyd—i ddiddymu'r hawl i brynu er mwyn diogelu stoc i'w ddefnyddio gan bobl â'r angen mwyaf am dai. Felly, anogaf yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn gwelliant 6 a gwelliannau cysylltiedig.
Galwaf ar David Melding i ymateb i'r ddadl.
Diolch ichi, Lywydd. Rwy'n synnu braidd gan ymateb y Gweinidog oherwydd, er tegwch i Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod trafodion y Pwyllgor, cyfaddefodd y gellid ystyried rhyw fath o gymal machlud rhesymol. Roedd yn credu y byddai cyfnod hwy o lawer na 10 mlynedd yn fwy priodol, pe bai'r Llywodraeth yn mynd i lawr y ffordd honno. Ond bellach rydym yn clywed gan y Gweinidog mai'r bwriad yw diddymiad llwyr. Rhaid imi ddweud bod pwyslais gwahanol yn nhystiolaeth y Llywodraeth wrth inni fynd trwy Gyfnod 1 a 2—nad oedd yr hawl i brynu yn rhywbeth a oedd yn cael ei wrthwynebu mewn egwyddor ac y byddai hyd yn oed rhywbeth fel cymal machlud yn cael ei ystyried.
O ran eich dadl arall am sut, rywsut, y mae cymal machlud yn atal adeiladu newydd o ran cymdeithasau tai, neu os cawn oes newydd o dai cyngor, un ffordd o amgylch hynny, fel y soniais o'r blaen, fyddai sicrhau bod yn rhaid i adeiladau newydd fod ar rent yn gymdeithasol am gyfnod o 15 neu 20 mlynedd neu beth bynnag. Mae mecanweithiau eraill ar gael, yn hytrach na llwyr ddiddymu hawl a drysorir ac a gafodd ei harfer gan gynifer o bobl. Pe dywedai rhywun ym 1980 y byddai rhywbeth tebyg i 150,000 o bobl yng Nghymru yn arfer hawl benodol, byddech wedi meddwl, 'Hei, mae hynny'n cynnig rhywbeth dymunol iawn i ddinasyddion.' Felly, rwy'n annog y Siambr i feddwl y gellid dod â newid pwyslais yn y Bil sydd ger ein bron.
Ac rwy'n cytuno bod y mater o gyflenwi wrth wraidd hyn. Felly, onid yw'n rhesymol, ar ôl 10 mlynedd, i ystyried y mater eto ac i ofyn i ni'n hunain, 'Y dystiolaeth y mae rhai pobl yn ei hystyried yn argyhoeddiadol: a yw honno'n dal mor gryf heddiw?' Ac ni chredaf fod hynny, mewn unrhyw ffordd, yn gwanhau'r Bil ger ein bron. Wedi'r cyfan, ni fyddai ond yn cymryd penderfyniad yn y tŷ hwn neu reoliad. Nid ydym yn sôn am y Bil yn dod i ben ac yna byddai'n rhaid ddechrau ar y broses gyfan unwaith eto; ni fyddai ond angen pleidlais gadarnhaol yma.
A gaf i hefyd ddweud ar y pwynt hwn fod Llywodraeth Cymru yn gyson wedi crybwyll y dewis o gynlluniau cymorth perchentyaeth amgen fel Cymorth i Brynu? Ond yr hyn y credaf yr ydych yn methu â'i gydnabod yn gyson yw y byddai'r rhan fwyaf o bobl ar yr incwm isaf ddim yn gymwys am gynlluniau o'r fath gan y byddai eu hincwm yn is na'r trothwy, ac mae llawer o'r bobl hyn wedi manteisio ar yr Hawl i Brynu a'r gostyngiadau a roddwyd iddynt.
Yn ystod Cyfnod 1, dywedodd Steve Clarke:
Yn ein hymgynghoriad yn 2015, a'n datganiad ar y cyd â TPAS Cymru, cytunodd 100% o'r tenantiaid fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol. Yn yr ymgynghoriadau hynny, dywedodd 60% o'r tenantiaid nad oeddent am weld diwedd ar yr hawl i brynu ond roeddent yn cefnogi cyfyngiadau ar ostyngiadau ac atal dros dro lle'r oedd angen wedi ei ddangos.
Felly, credaf fod y gwelliant hwn mewn mwy o gytgord â'r hyn y mae'r tenantiaid, pan ymgynghorir â nhw, yn ei ddweud a'r math o hyblygrwydd a soffistigeiddrwydd a ddisgwylir ganddynt yn y polisi a'i bensaernïaeth yr ydym yn ei greu y prynhawn yma. Felly, credaf mewn gwirionedd y gallem fod yn arloesol a bod y Cynulliad hwn yn gwneud rhywbeth na ddigwyddodd o'r blaen, gan gydnabod hefyd yn amlwg fod gwahaniaeth barn.
Rhaid imi ddweud, wyddoch chi, yn y Siambr hon mae mwyafrif clir o blaid y Mesur hwn, fwy na thebyg, yn ei ffurf gadarnaf o'ch safbwynt chi, ond pan ddaw i farn y cyhoedd, credaf y cewch fod y dadleuon yr ydym yn eu gwneud ar yr ochr hon—ac rydym yn cael ein cefnogi, rwy'n cydnabod, gan aelodau o'r grŵp UKIP—wedi plesio'r etholwyr yn llawer mwy. Credaf y dylai hynny fod yn destun pryder yn ystod y cyfnod hwn o ddemocratiaeth sydd, ym marn rhai pobl yn anymatebol neu'n ddiflas. Felly, gobeithio y bydd yr Aelodau yn meddwl yn ofalus am sut y maen nhw'n mynd i bleidleisio ar y gwelliant hwn.
Os na dderbynnir gwelliant 6, bydd gwelliant 2 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 35 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd gwelliant 6.
David Melding, gwelliant 13.
Byddaf yn ei dynnu'n ôl; does dim pwynt bellach.
David Melding, gwelliant 14.
Rwy'n ei dynnu'n ôl yn yr un modd.