Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Diolch ichi, Lywydd. Rwy'n synnu braidd gan ymateb y Gweinidog oherwydd, er tegwch i Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod trafodion y Pwyllgor, cyfaddefodd y gellid ystyried rhyw fath o gymal machlud rhesymol. Roedd yn credu y byddai cyfnod hwy o lawer na 10 mlynedd yn fwy priodol, pe bai'r Llywodraeth yn mynd i lawr y ffordd honno. Ond bellach rydym yn clywed gan y Gweinidog mai'r bwriad yw diddymiad llwyr. Rhaid imi ddweud bod pwyslais gwahanol yn nhystiolaeth y Llywodraeth wrth inni fynd trwy Gyfnod 1 a 2—nad oedd yr hawl i brynu yn rhywbeth a oedd yn cael ei wrthwynebu mewn egwyddor ac y byddai hyd yn oed rhywbeth fel cymal machlud yn cael ei ystyried.
O ran eich dadl arall am sut, rywsut, y mae cymal machlud yn atal adeiladu newydd o ran cymdeithasau tai, neu os cawn oes newydd o dai cyngor, un ffordd o amgylch hynny, fel y soniais o'r blaen, fyddai sicrhau bod yn rhaid i adeiladau newydd fod ar rent yn gymdeithasol am gyfnod o 15 neu 20 mlynedd neu beth bynnag. Mae mecanweithiau eraill ar gael, yn hytrach na llwyr ddiddymu hawl a drysorir ac a gafodd ei harfer gan gynifer o bobl. Pe dywedai rhywun ym 1980 y byddai rhywbeth tebyg i 150,000 o bobl yng Nghymru yn arfer hawl benodol, byddech wedi meddwl, 'Hei, mae hynny'n cynnig rhywbeth dymunol iawn i ddinasyddion.' Felly, rwy'n annog y Siambr i feddwl y gellid dod â newid pwyslais yn y Bil sydd ger ein bron.
Ac rwy'n cytuno bod y mater o gyflenwi wrth wraidd hyn. Felly, onid yw'n rhesymol, ar ôl 10 mlynedd, i ystyried y mater eto ac i ofyn i ni'n hunain, 'Y dystiolaeth y mae rhai pobl yn ei hystyried yn argyhoeddiadol: a yw honno'n dal mor gryf heddiw?' Ac ni chredaf fod hynny, mewn unrhyw ffordd, yn gwanhau'r Bil ger ein bron. Wedi'r cyfan, ni fyddai ond yn cymryd penderfyniad yn y tŷ hwn neu reoliad. Nid ydym yn sôn am y Bil yn dod i ben ac yna byddai'n rhaid ddechrau ar y broses gyfan unwaith eto; ni fyddai ond angen pleidlais gadarnhaol yma.
A gaf i hefyd ddweud ar y pwynt hwn fod Llywodraeth Cymru yn gyson wedi crybwyll y dewis o gynlluniau cymorth perchentyaeth amgen fel Cymorth i Brynu? Ond yr hyn y credaf yr ydych yn methu â'i gydnabod yn gyson yw y byddai'r rhan fwyaf o bobl ar yr incwm isaf ddim yn gymwys am gynlluniau o'r fath gan y byddai eu hincwm yn is na'r trothwy, ac mae llawer o'r bobl hyn wedi manteisio ar yr Hawl i Brynu a'r gostyngiadau a roddwyd iddynt.
Yn ystod Cyfnod 1, dywedodd Steve Clarke:
Yn ein hymgynghoriad yn 2015, a'n datganiad ar y cyd â TPAS Cymru, cytunodd 100% o'r tenantiaid fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol. Yn yr ymgynghoriadau hynny, dywedodd 60% o'r tenantiaid nad oeddent am weld diwedd ar yr hawl i brynu ond roeddent yn cefnogi cyfyngiadau ar ostyngiadau ac atal dros dro lle'r oedd angen wedi ei ddangos.
Felly, credaf fod y gwelliant hwn mewn mwy o gytgord â'r hyn y mae'r tenantiaid, pan ymgynghorir â nhw, yn ei ddweud a'r math o hyblygrwydd a soffistigeiddrwydd a ddisgwylir ganddynt yn y polisi a'i bensaernïaeth yr ydym yn ei greu y prynhawn yma. Felly, credaf mewn gwirionedd y gallem fod yn arloesol a bod y Cynulliad hwn yn gwneud rhywbeth na ddigwyddodd o'r blaen, gan gydnabod hefyd yn amlwg fod gwahaniaeth barn.
Rhaid imi ddweud, wyddoch chi, yn y Siambr hon mae mwyafrif clir o blaid y Mesur hwn, fwy na thebyg, yn ei ffurf gadarnaf o'ch safbwynt chi, ond pan ddaw i farn y cyhoedd, credaf y cewch fod y dadleuon yr ydym yn eu gwneud ar yr ochr hon—ac rydym yn cael ein cefnogi, rwy'n cydnabod, gan aelodau o'r grŵp UKIP—wedi plesio'r etholwyr yn llawer mwy. Credaf y dylai hynny fod yn destun pryder yn ystod y cyfnod hwn o ddemocratiaeth sydd, ym marn rhai pobl yn anymatebol neu'n ddiflas. Felly, gobeithio y bydd yr Aelodau yn meddwl yn ofalus am sut y maen nhw'n mynd i bleidleisio ar y gwelliant hwn.