Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Rwy'n falch iawn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad yn y Siambr hon cyn diwedd y tymor, ac edrychaf ymlaen at y datganiad hwnnw.
Un o'r pryderon sy'n gysylltiedig â'r cynigion hyn yw y gallai glynu wrth y rheolau ar gapasiti storio slyri/tail olygu bod yn rhaid i fusnesau fferm gael eu llethu gan fuddsoddiadau cyfalaf mawr mewn cyfleusterau storio er mwyn cydymffurfio. Yn wir, dywed Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wrthym fod cost uwchraddio cyfleusterau bron yn £80,000 ar gyfartaledd. Os yw Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r dynodiadau hyn, a allwch ddweud wrthym pa arian fydd yn cael ei neilltuo i helpu'r ffermwyr sy'n gorfod cydymffurfio ag unrhyw reolau capasiti newydd, o ystyried bod y dyraniad cyllid cyffredinol i'ch cyllideb wedi lleihau mewn gwirionedd?