Mercher, 29 Tachwedd 2017
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig. A'r cwestiwn cyntaf, Rhun ap Iorwerth.
1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo diwydiant bwyd a diod Ynys Môn? OAQ51371
2. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru am y rhaglen cwympo coed yn Fforest Fawr yn Nhongwynlais? OAQ51376
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefelau llygredd aer yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51348
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i warchod mawndiroedd? OAQ51359
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen dileu TB buchol Llywodraeth Cymru yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51366
7. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyhoeddi ynghylch ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau tai? OAQ51343
8. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r gwahaniaeth rhwng prisiau bwyd y byd a phrisiau bwyd yr UE? OAQ51360
Yr eitem nesaf felly yw'r cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a'r cwestiwn cyntaf, Leanne Wood.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio etholiadol o fewn llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ51357
Cyfle nawr i lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau. Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer academi lywodraeth genedlaethol? OAQ51380
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflawni Ein Cymoedd, Ein dyfodol yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51349
5. Pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o effaith awtomateiddio ar gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus? OAQ51365
6. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi aelodau o gymuned y lluoedd arfog a'u teuluoedd yng Nghymru? OAQ51358
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol, a'r cwestiwn cyntaf—Russell George.
1. O ystyried y cyhoeddwyd gorwariant o 23 y cant ar y prosiect i ddeuoli'r A465 rhwng y Fenni a Hirwaun, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau o ble y daw'r adnoddau ychwanegol i gyllido hyn? 73
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith y llifogydd diweddar ar rwydwaith ffyrdd Ynys Môn? 75
3. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i gomisiynu ymchwiliad annibynnol i honiadau o gam-drin ar Ynys Bŷr? 76
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru o asesiadau effaith Brexit Llywodraeth y DU ar ôl iddynt gael eu rhyddhau ddydd Mawrth? 78
Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, ond ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau am ddatganiad felly.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), ac rwy'n galw ar Mick Antoniw i wneud y cynnig.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Julie James. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Pwynt o drefn—Hefin David.
Os caf sylw pawb i'r cyfnod pleidleisio, y bleidlais gyntaf yw'r bleidlais ar y ddadl o dan Reol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddiadau i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, ac rwy'n galw am...
A'r eitem nesaf yw'r ddadl fer. Gwnawn ni aros ychydig eiliadau wrth i Aelodau adael y Siambr yn dawel. Y ddadl fer, felly, ar broblem anweledig Cymru—effaith gymdeithasol hapchwarae....
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y bydd y setliad llywodraeth leol dros dro ar gyfer 2018/19 yn diogelu gwasanaethau lleol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnydd mewn perthynas â nodyn cyngor technegol 20?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda mudiadau ym Môn cyn i gredyd cynhwysol gael ei gyflwyno ym mis Mawrth 2018?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gyngor y mae ei adran wedi'i ddarparu i awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas â chasgliadau sbwriel? Trosglwyddwyd i'w ateb yn...
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia