Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Wel, byddwch yn deall fod pob un ohonom wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn. Roeddwn gerbron y pwyllgor yr wythnos diwethaf, yn ystod y broses o graffu ar y gyllideb, a byddwch yn gwybod fod llawer o sôn wedi bod ynglŷn â'r ffaith bod fy nghyllideb wedi'i thorri 5 y cant; nid oedd hynny'n wir, gan fy mod wedi trosglwyddo £35 miliwn o gyllid gwastraff i'r grant cynnal refeniw. Er hynny, rwyf wedi cael toriad o 1.5 y cant. Gobeithiaf, unwaith eto, fy mod wedi'i gydbwyso. Mae gennyf bortffolio eang iawn, ond rwy'n gobeithio nad oes unrhyw ran o'r portffolio yn teimlo eu bod wedi cael toriadau nad ydynt yn gymesur.