Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch, Lywydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ffermio yng Nghymru yw dynodiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer parthau perygl nitradau, a allai arwain at gryn bwysau ar ffermwyr pe baent yn cael eu rhoi ar waith, ac o ganlyniad i hynny, gallent orfodi llawer ohonynt allan o fusnes. O ystyried bod ymgynghoriad Llywodraeth Cymru wedi dod i ben bron i flwyddyn yn ôl, a allwch esbonio pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi dod i benderfyniad eto ynglŷn â'r dynodiadau arfaethedig ar gyfer parthau perygl nitradau, ac a wnewch chi ymrwymo yn awr i wneud datganiad gerbron Siambr y Cynulliad cyn diwedd y flwyddyn ar safbwynt Llywodraeth Cymru, ac esbonio pam fod y penderfyniad hwn wedi cymryd cymaint o amser?