Diwygio Etholiadol o fewn Llywodraeth Leol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 2:25, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf fi groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i'w rôl newydd? Efallai y cofiwch unwaith i mi eich galw'n Weinidog Emeritws, ac ymddengys eich bod yn gweddu i'r enw hwnnw. [Torri ar draws.] Nid wyf erioed wedi'i alw'n fwmerang. Chi a ddywedodd hynny.

Ysgrifennydd Cabinet, mae hanes llywodraeth leol yng Nghymru yn frith o ad-drefnu ar ôl ad-drefnu, diwygio ar ôl diwygio dros flynyddoedd lawer. Roeddwn yn falch iawn pan wthiodd eich rhagflaenydd y syniad o ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru o'r neilltu. A ydych yn bwriadu ailystyried y mater hwnnw dros yr ychydig flynyddoedd nesaf? Ac ni waeth beth rydych yn penderfynu neu'n penderfynu peidio â'i wneud gyda threfniadau llywodraeth leol—a'r system etholiadol a allai ddeillio o hynny—a ydych yn cytuno mai'r hyn sydd ei angen ar lywodraeth leol yng Nghymru yw sefydlogrwydd, fel y gall swyddogion a chynghorwyr etholedig yn yr awdurdodau hynny fwrw ymlaen â'r gwaith o ddarparu gwasanaethau lleol i bobl leol, sef yr hyn y cawsant eu hethol i wneud?