Diwygio Etholiadol o fewn Llywodraeth Leol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 2:22, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, ymatebais i'r ymgynghoriad yn ddiweddar. Gofynnai cwestiwn 33: a ydych yn cytuno na ddylid caniatáu i neb wasanaethu fel Aelod Cynulliad a chynghorydd? Ar wahân i'r ffaith ei fod yn gwestiwn arweiniol iawn ac yn anaddas ar gyfer ymgynghoriad difrifol, safbwynt y Llywodraeth, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yw gwahardd Aelodau Cynulliad rhag bod yn gynghorwyr hefyd. Hoffwn dynnu sylw at y ffaith eich bod chi'n cyflawni dwy rôl: rôl weinidogol, sy'n dweud bod yn rhaid i Weinidogion gadw eu rolau fel Gweinidogion ac Aelodau'r Cynulliad ar wahân. I bob pwrpas, maent yn ddwy swydd wahanol. Yma, ceir Aelodau o Dŷ'r Arglwyddi—arglwydd a barwnes—sy'n gwasanaethu yn eich Llywodraeth; mae gennym Aelod o Senedd Ewrop nad yw'n gallu bod yma heddiw; ac rydym yn ein cael ein llywyddu'n llwyddiannus gan Aelod Cynulliad, sydd hefyd yn Llywydd—[Chwerthin.]