Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:35, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mae dwy flynedd wedi bod bellach ers cyflwyno'r Bil digartrefedd arloesol a Deddf Tai (Cymru) 2014, a chredaf ei fod wedi ennyn llawer o ganmoliaeth am ei ddull ataliol. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn anos ymdrin â'r bobl sydd eisoes yn cysgu allan, neu'r bobl sydd ar fin mynd yn ddigartref, ac rwy'n meddwl tybed a gaf fi ofyn i'r Gweinidog beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y bobl sy'n cysgu allan yng Nghymru.