Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae un o'r pethau sy'n peri pryder i mi ynglŷn â'r cymorth rydym yn ei roi yn ymwneud â gofal preswyl. Mae gennyf gyn-aelod o'r lluoedd arfog yn fy etholaeth sydd wedi gwasanaethu droeon yng Ngogledd Iwerddon a rhannau amrywiol o'r byd ac mae'n dioddef gryn dipyn o straen wedi trawma, ond nid yw wedi llwyddo i ddod o hyd i'r lle gofal preswyl y mae ei angen yn lleol, ac nid yw ond wedi cael cynnig lleoedd yn swydd Amwythig a'r Alban, ac unwaith eto, nid yw'r rheini wedi eu hariannu mewn gwirionedd. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a yw'n bosibl adolygu'r ddarpariaeth er mwyn sicrhau bod pob cyn-aelod o'r lluoedd arfog sydd angen cymorth preswyl yn gallu ei gael, mewn gwirionedd, a'i gael pan fyddant ei angen yn lleol, neu fod yna ryw fath o fecanwaith cyllido i'w gefnogi yn rhywle arall os nad yw ar gael yn lleol.