Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Rwyf finnau hefyd yn llongyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei swydd newydd. Y peth yw, yn y ddadl yr wythnos diwethaf buom yn sôn am anhwylder straen wedi trawma ymysg cyn-filwyr, a hefyd rydych newydd grybwyll fod problemau iechyd meddwl yn eithaf cyffredin ymysg cyn-filwyr y lluoedd arfog. Mae'n rhaid i ni edrych ar eu hôl. Gwn nad ydych wedi cau'r drws ar y syniad o greu comisiynydd y lluoedd arfog yng Nghymru i gydlynu a darparu'r cymorth y maent ei angen gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus. Felly, a gaf fi ofyn i chi ymrwymo i wneud datganiad ar y mater hwn yn gynnar yn y flwyddyn newydd, os gwelwch yn dda?